Os ydych chi’n meddwl am ddod yn ofalwr maeth ac mae gennych eich plant eich hun, mae’n hollol naturiol eich bod yn meddwl am sut y gallai maethu effeithio arnynt. Mae llawer o deuluoedd sy’n ystyried maethu yn gofyn a fydd eu plant yn hapus i rannu eu cartref, sut y gallai bywyd teuluol newid, a pha gefnogaeth sydd ar gael.
Y newyddion da yw bod llawer o deuluoedd sy’n maethu yn dweud wrthym fod maethu wedi cael effaith gadarnhaol ar eu plant eu hunain. Er bod croesawu plentyn maeth i’ch cartref yn dod â newidiadau, gall hefyd ddarparu profiadau bywyd gwerthfawr, cysylltiadau teuluol cryfach, a chyfleoedd ar gyfer twf personol.
mae eich plant yn rhan o’r daith
Ym Maethu Cymru Abertawe, rydym yn cydnabod bod maethu’n benderfyniad teuluol. Dyna pam mae eich plant yn cael eu cynnwys drwy gydol y broses asesu maethu.
Mae’r asesiad yn rhoi cyfle i bawb siarad yn agored am faethu, gofyn cwestiynau, ac archwilio sut beth yw dod yn deulu sy’n maethu. Mae’n bwysig bod eich plant yn teimlo’n gyfforddus, yn wybodus ac yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.
Drwy drafod disgwyliadau fel teulu a chymryd rhan mewn hyfforddiant paratoi, byddwch yn cael dealltwriaeth gliriach o’r newidiadau y gall maethu eu cyflwyno a gwybodaeth am sut i baratoi ar eu cyfer gyda’ch gilydd.
sut y gall maethu fod o fudd i’ch plant
Mae profiad pob teulu yn wahanol, ond mae llawer o ofalwyr maeth yn dweud wrthym fod maethu yn helpu eu plant i ddatblygu rhinweddau a sgiliau bywyd pwysig.
Mae rhai o’r manteision maen nhw’n eu gweld yn aml yn cynnwys:
- Mwy o empathi at eraill a dealltwriaeth ohonynt
- Mwy o dosturi a charedigrwydd
- Mwy o hyder ac aeddfedrwydd
- Sgiliau cyfathrebu cryfach
- Gwerthfawrogiad dyfnach o deulu a pherthnasoedd
- Cyfleoedd i feithrin cyfeillgarwch a chwmni gyda phlant maeth
Gall bod yn frawd neu chwaer maeth helpu plant i ddeall bod profiadau bywyd pob plentyn yn wahanol. Gall eu hannog i fod yn gefnogol, yn amyneddgar ac yn groesawgar tuag at eraill.
Mae llawer o blant yn ymfalchïo mewn gwybod bod eu teulu yn helpu plentyn arall y mae angen cartref diogel a gofalgar arno.
a fydd bywyd teuluol yn newid?
Pan fydd plentyn maeth yn ymuno â’ch cartref, bydd bywyd teuluol yn newid yn naturiol. Bydd eich plant yn rhannu eu cartref, eu harferion a’u profiadau teuluol gyda rhywun newydd.
I rai plant, gall yr addasiad hwn gymryd amser. Efallai y bydd ganddynt gwestiynau neu bryderon ynghylch sut y gallai maethu effeithio ar eu perthynas â chi.
Mae cyfathrebu agored yn allweddol. Gall annog sgyrsiau rheolaidd a gwrando ar sut mae eich plant yn teimlo eu helpu i deimlo’n dawel eu meddwl a’u bod yn cael eu cefnogi.
Drwy’r broses asesu a chefnogaeth barhaus gan Faethu Cymru Abertawe, mae teuluoedd yn cael eu helpu i ddeall y newidiadau hyn a pharatoi ar eu cyfer cyn i leoliad ddechrau.
Mae plant gofalwyr maeth yn cymryd rhan weithredol drwy gydol y broses asesu i sicrhau eu bod yn deall beth mae maethu yn ei olygu, eu bod yn teimlo’n barod ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod ac yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys bob cam o’r ffordd.
pa gefnogaeth sydd ar gael i blant gofalwyr maeth?
Nid yw cefnogaeth yn dod i ben unwaith y byddwch chi’n dod yn ofalwr maeth.
Mae pob teulu sy’n maethu yn cael gweithiwr cymdeithasol goruchwylio penodedig sy’n cynnig cymorth i ofalwyr maeth a’u plant.
Yng ngwasanaeth Maethu Cymru Abertawe, rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau a chyfleoedd cymorth yn benodol ar gyfer plant gofalwyr maeth. Mae’r digwyddiadau hyn yn caniatáu i blant:
- Gwrdd â brodyr a chwiorydd maeth eraill
- Rhannu eu profiadau mewn amgylchedd cefnogol
- Meithrin perthnasoedd â phlant sy’n deall bywyd maethu
- Dathlu’r rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae yn eu teulu sy’n maethu
Mae’r cyfleoedd hyn yn helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am y cyfraniad maen nhw’n ei wneud.
a allwn ni faethu os oes gennym blant gartref?
Yn bendant.
Mae gan lawer o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe blant sy’n byw gartref ac maent yn cydbwyso maethu â bywyd teuluol yn llwyddiannus.
Yn ystod eich asesiad, byddwch yn trafod ystod oedran y plant y gallech fod yn fwyaf addas i ofalu amdanynt. Er ein bod yn argymell yn aml eich bod yn maethu plant sy’n iau na’ch plant chi, mae pob teulu yn wahanol ac mae penderfyniadau yn seiliedig ar eich amgylchiadau, eich cryfderau, eich profiad, ac anghenion eich plant ac unrhyw blentyn sy’n dod i fyw gyda chi.
Mae maethu llwyddiannus yn ymwneud â dod o hyd i’r dewis cywir ar gyfer pawb.
dydych chi ddim ar eich pen eich hun
Un o’r pryderon mwyaf i ddarpar ofalwyr maeth yw meddwl tybed a ydyn nhw’n gwneud y penderfyniad cywir i’w teulu.
Y gwir amdani yw bod miloedd o deuluoedd ledled Cymru yn maethu wrth fagu eu plant eu hunain, ac mae llawer yn dweud ei fod wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf gwerth chweil maen nhw wedi’u rhannu gyda’i gilydd.
Yma ym Maethu Cymru Abertawe, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â gofalwyr maeth presennol sydd â’u plant eu hunain, gan eich helpu i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau, eu heriau a’u llwyddiannau.
Nid yw maethu byth yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Rydym ni yma i gefnogi eich teulu cyfan bob cam o’r ffordd.
rhagor o wybodaeth
Os ydych yn ystyried maethu ond mae gennych gwestiynau am sut y gallai effeithio ar eich plant eich hun, rydyn ni yma i helpu. Byddem yn dwlu ar ateb eich cwestiynau a rhannu profiadau teuluoedd sydd eisoes wedi croesawu maethu i’w bywydau. Gall siarad â theuluoedd sydd eisoes yn maethu roi mewnwelediad gwerthfawr a sicrwydd am sut beth yw bywyd teulu sy’n maethu.
Mae Joy, sy’n bymtheg oed, wrth ei bodd ei bod yn rhan o deulu sy’n maethu ac mae hi’n disgrifio’r profiad fel un gwerth chweil. Darllenwch stori Joy a darganfyddwch pam mae hi’n mwynhau maethu cymaint yn ein stori lwyddiant: Joy: “Dwi wrth fy modd yn maethu, mae’n rhoi llawer o foddhad i mi”.
Mae profiad Joy yn un o lawer. Mae gennym lawer o deuluoedd sy’n maethu sy’n siarad yn gadarnhaol am y gwahaniaeth y mae maethu wedi’i wneud i’w bywydau. Gallwch ddarllen mwy o straeon ysbrydoledig gan deuluoedd lleol sy’n maethu yma
I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, mae Maethu Cymru hefyd wedi creu blog defnyddiol iawn am blant gofalwyr maeth a bywyd mewn teulu maeth. Fe wnaeth pobl ifanc o deuluoedd sy’n maethu ledled Cymru hefyd helpu i greu e-lyfr sy’n rhannu eu profiadau.
Gallwch ei ddarllen yma: Straeon Plant Gofalwyr Maeth yng Nghymru.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Os hoffech drafod maethu a’r hyn y gallai ei olygu i’ch teulu, cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe. Bydd ein tîm cyfeillgar yn hapus i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i archwilio a allai maethu fod y dewis cywir i chi a’ch teulu.
Darganfyddwch heddiw sut y gallai maethu wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd plentyn ac i fywyd eich teulu hefyd.