Mae Joy, sy’n 14 oed, yn rhan o deulu maeth ac mae hi’n dweud ei bod hi wrth ei bodd yn maethu am ei fod yn rhoi llawer o foddhad. Mae hi wrth ei bodd bod ei theulu’n gallu cynnig cartref diogel a chariadus i’r plant hynny mewn angen.
Mis Hydref yw Mis Plant Gofalwyr Maeth, sy’n cydnabod ac yn dathlu’r rôl amhrisiadwy y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae fel rhan o’r teulu sy’n maethu.
Yn y pen draw, nid rhieni’n unig sy’n maethu, mae eu plant eu hunain yn gwneud hynny hefyd. Mae’n rhaid iddynt rannu eu cartref, eu teulu ac weithiau eu heiddo. Ar brydiau, mae’n rhaid iddynt ymdopi ag ymddygiad anodd a heriol. Fodd bynnag, maent yn croesawu plant i’w cartrefi gan sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn rhan o amgylchedd teuluol cariadus.
Mae llawer o bobl yn dweud er bod ganddynt ddiddordeb mewn maethu, eu bod yn poeni gormod am yr effaith y bydd maethu’n ei chael ar eu plant eu hunain a dyma’r prif reswm pam mae cymaint yn dewis peidio â bod yn ofalwyr maeth.
Fodd bynnag, mae gan wasanaeth maethu’r Cyngor, Maethu Cymru Abertawe, 126 o deuluoedd maeth ar hyn o bryd, y mae gan 47% ohonynt eu plant eu hunain sy’n byw gartref o hyd. Er eu bod yn cyfaddef eu bod yn wynebu rhai heriau, maent yn falch iawn o faethu a byddent yn ei argymell i deuluoedd eraill.
wyt ti’n mwynhau maethu?
Joy: “Dwi wrth fy modd yn maethu, mae’n rhoi llawer o foddhad i mi. Mae’n werth chweil pan fyddwch yn gweld gwên ar wynebau’r plant, pan fyddwch yn gwneud iddynt chwerthin, pan fyddwch yn gwneud pethau gyda’ch gilydd fel teulu nad ydyn nhw wedi’u gwneud o’r blaen, a chael rhannu eich cartref gyda nhw. Mae’n gwneud i mi deimlo mor hapus!”
Pan fydd plentyn yn mynd i fyw gyda theulu maeth am y tro cyntaf, mae’n gallu bod yn eithaf brawychus iddyn nhw, ond mae hefyd yn gallu bod yn anodd iawn i blant y gofalwyr maeth. Ond nid yw’r teimlad hynny’n para’n hir i Joy.
sut brofiad oedd hi pan ddaeth y plentyn cyntaf i fyw gyda chi?
Joy: “Pan ddaeth y plentyn cyntaf i aros gyda ni, roedd hi’n teimlo’n rhyfedd ar y dechrau, ond roeddwn i’n hapus ein bod ni’n gallu rhoi cartref cariadus iddo. Roeddwn i eisiau iddo deimlo’n ddiogel ac wedi’i gysuro.”
Mae llawer o ffyrdd y mae maethu wedi bod o fudd i blant y gofalwyr maeth eu hunain. Gall eu helpu i dyfu a datblygu a dysgu am bwysigrwydd bod yn empathig, yn ofalgar ac yn ddeallus. Maen nhw’n gallu meithrin perthnasoedd cryf, dysgu sgiliau newydd a dysgu i ddathlu amrywiaeth. Yn syml, maen nhw’n gwerthfawrogi’r hyn sydd ganddyn nhw.
beth wyt ti wedi’i ddysgu o faethu?
Joy: “Dwi wedi dysgu cymaint o faethu. Pan roeddwn i’n iau, roeddwn i’n arfer meddwl bod gan bob plentyn ‘mam’ a ‘dad’ sydd bob amser yno i ofalu amdanyn nhw. Ond, wrth i mi fynd yn hŷn, sylweddolais nad yw hyn yn wir bob tro. Ers dod yn deulu maeth, dwi wedi dysgu bod pob teulu’n wahanol ac mae hynny’n iawn, gan fod llawer o bobl mas yno sy’n barod i feithrin plant yn y ffordd y mae angen eu meithrin.”
Mae plant gofalwyr maeth yn coleddu’r holl atgofion sydd ganddynt o’r plant maeth ac yn ymhyfrydu yn y ffaith eu bod yn helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
beth yw dy hoff atgof o faethu hyd yn hyn?
Joy: “Fy hoff atgof o faethu hyd yn hyn yw gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r plant. Fy hoff atgofion eraill yw darllen i blant maeth gyda’r hwyr, canu eu hoff ganeuon gyda’n gilydd yn y car, helpu nhw gyda gwaith cartref, dawnsio a chwarae gemau gyda nhw.”
a fyddet ti’n argymell maethu i deuluoedd eraill?
Joy: “Heb os, byddwn i’n argymell maethu i deuluoedd eraill. Mae’n gwneud i chi deimlo mor hapus eich bod yn rhan o’u bywyd, ac yn rhan o wella eu bywyd hefyd. Mae’n gwneud i mi sylweddoli faint o blant nad ydyn nhw’n cael y cariad a’r gofal y maen nhw’n ei haeddu, felly mae’r ffaith ein bod ni’n gallu rhoi’r cariad hwnnw iddyn nhw’n deimlad arbennig iawn.”
cefnogaeth
Mae Maethu Cymru Abertawe’n cynnig grŵp cymorth ar gyfer plant gofalwyr maeth, yn ogystal â llawer o weithgareddau a digwyddiadau, gan roi’r cyfle iddynt gwrdd â phlant gofalwyr maeth eraill sydd o bosib yn rhannu ac yn deall eu profiadau. Mae ganddynt lais ac maen nhw’n rhan bwysig o’r brosesu asesu. Mae’r gweithwyr cymdeithasol sy’n cael eu dyrannu i’r gofalwyr maeth yno hefyd i roi cymorth a chyngor i’w plant eu hunain hefyd. Yn ogystal, mae gennym weithwyr cymorth yn y tîm sy’n gallu eu cefnogi ym mha bynnag ffordd sy’n addas iddynt.
oes diddordeb gennych?
Os ydych yn ystyried maethu ond yn naturiol rydych yn poeni sut y bydd yn effeithio ar eich plant eich hun, siaradwch ag aelod o Dîm Maethu Cymru Abertawe. Cysylltwch â ni heddiw am drafodaeth anffurfiol.
Gallwn egluro’r broses i chi, esbonio sut mae eich plant yn cael eu cynnwys a sut rydym yn eu cefnogi unwaith y byddwch yn dod yn ofalwyr maeth cymeradwy. Gallwn hefyd drefnu i chi siarad ag un o’n gofalwyr maeth am wirioneddau maethu pan fydd gennych eich plant eich hun yn byw gartref.
Os hoffech ddysgu rhagor am effeithiau maethu ar eich plant eich hun, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael, darllenwch ein blog.
Gallwch ddod o hyd i atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin yma.