sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cefnogaeth a lwfans yn abertawe

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydym yma i’ch cefnogi chi.   Mae hynny’n golygu y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i ddarparu cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Abertawe’n darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu.  Ond nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben yno.

Unwaith y byddwch chi’n maethu plentyn, rydym yn cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig
  • lwfansau maethu i dalu am gostau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maethu lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a digon o fuddion eraill.
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol rydym yn eu cynnig er mwyn cael gwell dealltwriaeth.

Gallwch ddarllen mwy i ddysgu am y cymorth maethu a’r buddion rydym yn eu cynnig.

Lwfans gofalwyr maeth

A yw gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydy, mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfans i dalu am gostau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys

  • faint o blant rydych yn eu maethu,
  • oedran y plant
  • a’r math o faethu.

Fodd bynnag, nid yw bod yn ofalwr maeth yn swydd gonfensiynol; mae’n wahanol i bob swydd arall. Mae’n rôl broffesiynol amser llawn o’r cartref, ac rydym yn darparu cymorth ariannol i’ch helpu i’w chyflawni.

Ym Maethu Cymru Abertawe, rydym am i blant dderbyn popeth y mae ei angen arnynt i ffynnu, felly rydym yn rhannu’r taliad yn 3 rhan; y lwfans wythnosol ar gyfer plentyn + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

iwfans plentyn

Yn Abertawe, mae lwfans plentyn yn daliad wythnosol sy’n amrywio yn ôl oedran y plentyn. Mae’r lwfans hwn ar gyfer anghenion y plentyn, er mwyn talu am fwyd, dillad, pethau ymolchi ac i gyfrannu at filiau cartref yn unig. Ar hyn o bryd, mae’r lwfans hwn yn amrywio o £246 i £298 yr wythnos.

ffi gofalwr maeth

Telir ffioedd yn ychwanegol at lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth; yn Abertawe, mae eich ffi gofalwr maeth yn seiliedig ar y math penodol o ofal rydych yn ei ddarparu.

taliadau ychwanegol

Yn Abertawe, rydym hefyd yn darparu taliad ar gyfer pen-blwydd y plentyn, y Nadolig, gwyliau’r haf a chostau milltiroedd, yn ogystal â darparu offer os ydych yn gofalu am fabi.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi'r hyn a elwir yn 'ymrwymiad cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn cynhwysfawr o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau a ddarperir i'n holl ofalwyr maeth ledled Cymru.

Social worker and foster carer

eich tîm maethu Abertawe lleol

Nid ydych ar eich pen eich hun. Bydd gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog bob cam o’r ffordd.

Mae cefnogaeth ar gael ar unrhyw adeg, nid yn ystod oriau swyddfa yn unig. Rydym yn ymrwymedig i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu ein bod yn darparu cymorth 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Byddwn yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol goruchwylio neilltuedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod proffesiynol o’r tîm maethu sy’n ymrwymedig i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae tîm Maethu Cymru’n rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn.  Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gweithio agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

family-on-a-walk

cefnogaeth gan gymheiriaid

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael profiadau newydd, meithrin cyfeillgarwch newydd a chreu atgofion newydd.

man and teenage boy cooking

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi a’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac mae’n gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddiant lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cefnogaeth a buddion eraill

Icon of tickets/passes

Cerdyn Pasbort i Hamdden

Mae’r cerdyn hwn yn rhoi gostyngiadau mewn ystod eang o leoliadau diwylliannol drwy gydol Abertawe. Rydym yn cynnig y gostyngiadau hyn ledled Abertawe i helpu’ch teulu i fynd allan, cael hwyl a chreu atgofion heb boeni am y gost.

Car icon

gweithgareddau a digwyddiadau i'r teulu

Rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn fel y gall ein teuluoedd maeth ymlacio, cael hwyl, a dod i adnabod ei gilydd.

Allowances icon

taliad cadw

Mae gofalwyr Maethu Cymru Abertawe’n parhau i dderbyn taliadau yn ystod cyfnodau pan nad oes ganddynt blentyn yn eu gofal.

Coffee mug icon

grwpiau cymorth

Mae grwpiau cymorth yn cynnwys grŵp cymorth gofalwyr teulu a ffrindiau, grŵp cymorth gofalwyr maeth prif ffrwd, grŵp cymorth ffrindiau sy’n gofalu, grwpiau cymorth lleol a grŵp cymorth anghenion dysgu ychwanegol. Rydym am roi’r holl gymorth y mae ei angen ar ein gofalwyr maeth.

Icon of tickets/passes

cystadleuaeth raffl maethu

Rydym yn cynnig cystadleuaeth raffl fisol lle bydd cyfle i ofalwyr maeth ennill gwobrau fel diolch i chi.