sut mae’n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu, ond pa mor hir mae’r broses faethu yn Abertawe yn ei chymryd? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

Closeup of young boys legs playing hopscotch

y cam cyntaf

Y cam cyntaf yw gwneud ymholiad cychwynnol. Ar ôl i chi ein ffonio ni neu anfon yr e-bost hollbwysig hwnnw aton ni, rydych chi ar y ffordd. Efallai bod hwn yn ymddangos fel cam bach, ond mae’n bosibl mai hwn yw’r un pwysicaf!

Byddwn yn cymryd eich holl fanylion pwysig er mwyn i ni allu dechrau deall eich sefyllfa a byddwch chi’n cael pecyn gwybodaeth a fydd yn rhoi cipolwg gwych i chi o sut beth yw bod yn ofalwr maeth.

happy couple standing by front door

yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod chi. Os gallwn ni, byddwn yn dod i ymweld â chi gartref. Os na allwn wneud hyn, byddwn yn trefnu galwad fideo yn lle hynny. Mae’n bwysig ein bod ni’n ffurfio perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, er mwyn dysgu pwy sydd bwysicaf i chi a gweld eich cartref.

Adult tying childs shoe lace

yr hyfforddiant

Rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi cyfeillgar ac anffurfiol, dros tri diwrnod, i gyflwyno’r hanfodion i chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â thîm Maethu Cymru Abertawe a gofalwyr maeth eraill yn yr ardal.

“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”

Adult helping young boy with homework sitting at table

yr asesiad

Bydd y cam asesu yn rhoi syniad i chi o beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Dim prawf yw hwn. Mae’n gyfle i ni edrych ar ddeinameg eich teulu ac yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau. Gweithiwr cymdeithasol profiadol fydd yn asesu, gan ystyried y cryfderau a’r gwendidau a sut gallai maethu weithio i chi.

Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer manteision a heriau gofal maeth.

Playful portrait of young girl smiling

y panel

Bydd ein panel, sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol gwybodus a medrus yn ogystal ag aelodau annibynnol, yn ystyried eich asesiad. Bydd yr aelodau’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

Dim rhoi golau coch neu wyrdd i’ch taith faethu yw gwaith y panel. Bydd eich asesiad yn cael ei hadolygu o bob ochr, a bydd argymhellion yn cael eu rhoi ynglŷn â beth fyddai’n addas i’ch anghenion chi.

Adult and young girl holding hands

y cytundeb gofal maeth

Pan fydd eich asesiad wedi cael ei ystyried a’r holl wybodaeth wedi cael ei rhannu, byddwch yn cael y cytundeb gofal maeth. Mae hwn yn nodi’n union beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu, yn ogystal â rhoi sylw i’r arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn yn eu darparu fel eich rhwydwaith cefnogi.

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltu â ni

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.