
mathau o faethu
Mae maethu yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Boed hynny am brynhawn, penwythnos, blwyddyn neu fwy.
dysgu mwypwy all faethu
Mae pob rhiant maeth yn wahanol, ond mae un peth yn gyffredin i bob un ohonyn nhw – yr awydd i ddarparu cartref diogel a chariadus i blentyn.
Mae yna blant yn eich ardal leol sydd angen rhywun y gallan nhw droi ato bob amser, dim ots beth. Efallai mai chi yw’r person hwnnw – p’un ai ydych chi’n berchen ar eiddo neu’n rhentu, yn sengl neu’n briod. Dydy’r manylion hyn, na rhai eraill, ddim yn effeithio ar a allwch chi faethu neu beidio.
Yn wir, mae Maethu Cymru Abertawe yn falch o ddathlu amrywiaeth. Mae gan ein gofalwyr maeth brofiadau bywyd gwahanol ac amrywiaeth eang o sgiliau a rhinweddau, a dyma’r pethau rydyn ni’n eu hystyried. Dyna sy’n bwysig.
A yw maethu i chi – daliwch ati i ddarllen.
Mae maethu yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i blant yn Abertawe, gan newid eu bywydau er gwell. P’un ai ydych chi’n gallu gwneud hyn yn y tymor byr neu’r tymor hir, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio eu dyfodol. Mae angen pob math o wahanol bobl ar gyfer maethu, a dyna pam ein bod ni’n canolbwyntio ar amrywiaeth.
Rydyn ni yma i chi bob amser. Rydyn ni’n dod at ein gilydd, ynghyd â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned, i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant yr ardal.
Rydyn ni’n gofyn dau gwestiwn i bobl sy’n ystyried maethu: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?
Fydd swydd amser llawn ddim yn eich atal rhag dod yn ofalwr maeth, ond efallai y bydd angen meddwl mwy amdano.
Gallwn helpu i ddod o hyd i ffordd o wneud i faethu fod yn rhan o’ch bywyd, hyd yn oed os ydych chi’n gweithio’n llawn amser. Sut? Er enghraifft, gallech gynnig seibiant byr i blant ar benwythnosau neu y tu allan i oriau gwaith.
Gwaith tîm yw maethu. Byddwch yn gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi drwy gydol y broses.
Wrth gwrs. Y peth pwysicaf yw eich bod yn teimlo’n ddiogel lle rydych chi’n byw, p’un ai ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais. Gallwn weld beth sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.
Dyma un ffordd o edrych ar bethau. Fe allech chi ddefnyddio eich ystafell sbâr fel campfa neu swyddfa yn y cartref, ond beth os gallai fod yn rhywle diogel i blentyn? Rhywle i’w alw’n gartref.
Does dim dau deulu maeth yr un fath. Os oes gennych chi blant eich hun, dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi ymestyn eich teulu drwy faethu. Yn syml iawn, mae’n golygu croesawu mwy o blant i’ch cartref i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw.
Gall plant elwa llawer o gael brodyr a chwiorydd maeth. Maen nhw’n dysgu sut i wneud ffrindiau a gofalu am eraill – mae’n eu helpu i ddeall pethau mewn ffordd newydd.
Does dim terfyn oedran uchaf, felly peidiwch â gadael i’ch oedran eich atal. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth leol arbenigol sydd eu hangen arnoch i fod yn barod ar gyfer eich taith faethu.
Os ydych chi’n oedolyn, gallwch fod yn ofalwr maeth. Gallwch fod yn rhan o’r daith faethu, dim ots pa mor ifanc ydych chi, ar yr amod eich bod chi’n aeddfed ac yn barod i ymrwymo. Byddwn ni yno i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Dydy eich statws perthynas ddim yn effeithio o gwbl ar eich gallu i faethu. Yr hyn sy’n bwysig yw’r hyn y gallwch ei gynnig i blentyn. Bydd eich tîm Maethu Cymru Abertawe lleol yn argymell ai nawr yw’r amser iawn i chi ddod yn ofalwr maeth, p’un ai ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Gallwch. Dydy bod yn rhiant maeth da ddim yn dibynnu ar eich rhywedd; mae’n ymwneud â’ch personoliaeth, eich sgiliau a’ch rhinweddau.
Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn cael ei ystyried. Rydyn ni’n dymuno gwybod pa mor ymroddedig ydych chi i ddarparu amgylchedd diogel a sefydlog i blentyn sydd angen cael ei faethu. Felly, gallwch, gallwch chi faethu.
Gallwch. Gall anifeiliaid anwes fod yn fantais enfawr mewn teulu maeth, gan gynnig math gwahanol o gymorth i blentyn. Dydy anifail anwes ddim yn golygu na allwch chi faethu, ond mae’n rhaid i ni wirio ambell beth yn gyntaf. Mae pob anifail anwes yn cael ei gynnwys yn eich cais, er mwyn i ni allu asesu sut bydd yn cyd-dynnu ag unrhyw blant maeth yn y dyfodol.
Mae polisïau ysmygu yn gallu amrywio o un Awdurdod Lleol i’r llall. Fodd bynnag, mae’n well bod yn onest o’r cychwyn cyntaf. Os ydych chi’n dymuno rhoi’r gorau iddi, byddwn ni’n cynnig arweiniad ar sut i wneud hynny.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar baru plentyn yn ein gofal â’ch teulu yn iawn.
Fydd bod yn ddi-waith ddim yn eich atal rhag dod yn ofalwr maeth. Yr hyn sy’n bwysig yw gallu cynnig cefnogaeth, cyngor a chariad bob dydd. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi ddechrau maethu.
Dydy maint eich tŷ ddim yn pennu eich gallu i faethu. Rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi’n gallu cynnig ystafell i blentyn mewn amgylchedd cynnes, sefydlog a diogel. Dyna sy’n bwysig.