blog

dod o hyd i’r math o faethu sy’n teimlo’n addas i chi

Mae pob plentyn yn haeddu cartref diogel a chariadus lle mae’n teimlo ei bod yn ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi. Gall maethu fod yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu’r sefydlogrwydd hwnnw. 

Ond nid yw maethu yn un daith sefydlog. Mae gan blant anghenion a chynlluniau gofal gwahanol sy’n golygu bod gwahanol fathau o faethu ar gael – bydd pob un ohonynt yn addas i wahanol aelwydydd, ffyrdd o fyw a lefelau ymrwymiad. P’un a allwch gynnig cartref am noson, am benwythnos neu gartref tymor hir, mae opsiwn ar gael i chi.

Yma ym Maethu Cymru Abertawe, byddwn yn eich helpu i archwilio’r opsiynau i ddarganfod beth sy’n teimlo orau i chi, yn eich tywys drwy’r broses ac yn aros wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.

maethu prif ffrwd: hyblygrwydd sy’n gweddu i fywyd go iawn

Mae llawer o ofalwyr yn dechrau gyda maethu prif ffrwd. Mae’n hyblyg ac yn amrywiol, gan gynnig cartref diogel a chroesawgar ar gyfer unrhyw beth o un noson i sawl mis, ac weithiau gall olygu gofalu am blentyn hyd at fod yn oedolyn.

Fel gofalwr maeth prif ffrwd, gall fod angen i chi:

  • Ofalu am blant o wahanol oedrannau
  • Cefnogi brodyr a chwiorydd i aros gyda’i gilydd
  • Helpu plant i gynnal perthynas â’u teuluoedd geni
  • Rhoi arweiniad i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n paratoi i fod yn annibynnol
  • Dewis i edrych ar ôl plant ag anghenion ychwanegol – boed yn gorfforol, yn emosiynol neu’n ymddygiadol.
  • Cefnog teuluoedd i aros gyda’i gilydd

gofal maeth brys: darparu diogelwch ar unwaith

Dyma le mae’n rhaid i fabi, plentyn neu berson ifanc adael eu cartref ar unwaith gan nad yw’n ddiogel iddynt aros yno mwyach.

Mae’r mathau hyn o leoliadau yn para noson neu ddwy yn unig wrth i gynlluniau tymor hwy gael eu gwneud, p’un a yw hynny’n golygu bod y plentyn yn dychwelyd adref neu’n symud i deulu maeth arall. Weithiau, gall y lleoliadau hyn bara ychydig yn hirach yn dibynnu ar sefyllfa’r plentyn a’r gefnogaeth y mae ei hangen arno.

Yr hyn sydd bwysicaf yw’r sicrwydd rydych chi’n ei gynnig i’r plentyn. Gall plant gyrraedd yn ofnus, yn ddryslyd neu heb ddim byd ond y dillad maen nhw’n eu gwisgo. Gall cartref tawel a chlyd wneud byd o wahaniaeth.

Mae maethu brys yn rhywbeth y mae gofalwyr yn ei wneud yn ychwanegol at y mathau eraill o faethu.

maethu seibiant: cefnogi teuluoedd maeth eraill

Dyma le mae gofalwyr yn cynnig seibiannau byr i blant y mae angen amser ar ofalwyr maeth i orffwys, dadflino neu gael cefnogaeth.

Gall hyn gynnwys:

  • Arosiadau dros y penwythnos
  • Cymorth yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Gofal rheolaidd dros nos

Drwy ddarparu seibiant, rydych yn rhoi saib i ofalwyr maeth fel y gallant barhau i gynnig y gofal gorau posib.  Ar yr un pryd, rydych yn rhoi cartref oddi cartref cynnes a chroesawgar i blentyn lle gall deimlo’n ddiogel a ffynnu.

Gan fod lles plentyn wrth wraidd popeth a wnawn, mae’n bwysig ein bod ni’n ei baru â’r un gofalwr bob tro, lle bo angen seibiant yn rheolaidd. Mae hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth, yn cynnal arferion, ac yn gwneud i’r plentyn deimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ehangu ei gylch cefnogaeth, gan roi teulu maeth estynedig iddo y gall ddibynnu arnyn nhw.

maethu tymor byr: sefydlogrwydd yn ystod cyfnodau o ansicrwydd

Mae hyn yn cynnwys darparu gofal dros dro wrth i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud am ddyfodol plentyn.

Gall lleoliadau bara o ychydig ddyddiau i sawl mis, ac mewn rhai achosion, gall bara hyd at ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, eich rôl chi yw cynnig sefydlogrwydd, trefn arferol a chefnogaeth emosiynol.

Byddwch yn helpu plant i:

  • Addasu i amgylchedd newydd
  • Cynnal perthynas â phobl bwysig
  • Teimlo’n ddiogel a rhoi sicrwydd iddynt yn ystod cyfnodau o ansicrwydd

Mae’r math hwn o faethu yn gweithredu fel pont i bennod nesaf plentyn. Eich cartref chi yw eu hangor nhw.  Mae’n cynnig cysur ar adeg pan fydd ei angen arnynt fwyaf, gan roi llaw sefydlog iddyn nhw ei dal pan fydd popeth arall yn teimlo’n ansicr.

Gall maethu tymor byr fod yn opsiwn gwych os ydych yn chwilio am hyblygrwydd neu os oes gennych ymrwymiadau eraill ond rydych am wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn.

maethu tymor hir: cartref sefydlog ar gyfer y dyfodol

Pan na all plant ddychwelyd yn ddiogel i’w teuluoedd geni, mae maethu tymor hir yn cynnig cyfle iddynt dyfu i fyny mewn cartref sefydlog, cefnogol.

Mae’n cynnig cyfle i blant dyfu i fyny mewn teulu cariadus, cyson – yn aml nes iddynt droi’n 18 oed – ac yn aml ymhell y tu hwnt i hynny.

Mae gofalwyr maeth sy’n cynnig y mathau hyn o leoliad yn gwneud y canlynol:

  • Darparu gofal cyson dros sawl blwyddyn
  • Cefnogi addysg a datblygiad personol
  • Meithrin perthnasoedd cryf, parhaol

Mae maethu tymor hir yn cynnig rhywbeth gwerthfawr i blentyn neu berson ifanc, sef bod yn rhan o deulu arall am oes. Mae plant yn elwa o drefn, sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn. Mae llawer yn cael eu hintegreiddio’n llawn i fywyd teuluol, gan rannu profiadau a cherrig milltir bob dydd.

Ar gyfer gofalwyr, mae’n cynnig cyfle i weld plentyn yn tyfu, yn datblygu ac yn ffynnu dros amser, gan wneud gwahaniaeth parhaol yn ei fywyd.

gofal maeth arbenigol

maethu camu i lawr:  o ofal preswyl i fywyd teuluol

Mae’r math hwn o faethu yn cefnogi pobl ifanc sy’n barod i symud o leoliad preswyl i fywyd teuluol, ond y mae angen cymorth arbenigol sefydlog arnynt o hyd.

Ystyrir bod y bobl ifanc hyn yn barod i ffynnu mewn lleoliad teuluol, ond bydd angen help arnynt i addasu i fywyd teuluol, lle gallant brofi ymdeimlad o berthyn, meithrin ymddiriedaeth ac annibyniaeth, a datblygu diogelwch emosiynol cryfach. Byddant yn elwa o amynedd, dealltwriaeth a gofal cyson.

Mae plant y mae angen gofal maeth camu i lawr arnynt fel arfer yn 11 oed ac yn hŷn, ac mae ganddynt gryfderau unigryw ac anghenion unigol sy’n gofyn am ofal cyson, tosturiol, yn aml gyda chefnogaeth ychwanegol gan y tîm maethu. Gall teulu maeth wneud gwahaniaeth enfawr, gan roi cyfle i’r plant ymgartrefu, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a pharhau i dyfu mewn cartref diogel a chariadus.

Mae maethu camu i lawr yn rôl arbenigol. Er mwyn cydnabod hyn, mae gofalwyr maeth camu i lawr yn derbyn cyflog uwch a phecyn cymorth cynhwysfawr.

cefnogi plant ag anableddau

Mae llawer o blant mewn gofal maeth yn byw gyda chyflyrau sy’n effeithio ar sut maen nhw’n mynd drwy fywyd – o anableddau synhwyraidd neu gorfforol i anawsterau dysgu a heriau symudedd. Gall yr anghenion hyn wneud tasgau beunyddiol yn anoddach, ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i deimlo’n ddiogel ac i’w helpu i ffynnu.

Fel gofalwr maeth, gallai fod angen i chi wneud y canlynol:

  • Cefnogi plentyn ag anableddau corfforol neu ddysgu
  • Cefnogi plentyn â chyflwr meddygol cymhleth
  • Gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Yn aml, mae angen lefel uwch o ofal arbenigol ar y plant hyn i’w helpu i ffynnu. Byddwch yn dod yn eiriolwr iddynt, gan helpu i gael gwared ar rwystrau a sicrhau bod eu hawliau a’u hanghenion yn cael eu deall a’u diogelu.

Er gall y rôl fod yn heriol ar adegau, mae hefyd yn hynod werth chweil. Byddwch yn helpu plentyn ag anghenion ychwanegol i brofi llawenydd, hyder ac annibyniaeth. Gall ei wylio yn tyfu, yn dathlu cyflawniadau ac yn goresgyn heriau ddod â balchder ac ymdeimlad o bwrpas.

Mae gofalwyr maeth sy’n gofalu am blant ag anableddau yn derbyn cyflog uwch a phecyn cymorth mwy cynhwysfawr. Rydym yn sicrhau bod gennych yr holl arweiniad, hyfforddiant ac anogaeth arbenigol y mae eu hangen arnoch i ofalu am rai o’r plant rhyfeddol a mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches: diogelwch mewn byd newydd

Mae llawer o blant yn cyrraedd y DU heb rieni nac aelodau o’r teulu, weithiau ar ôl profiadau trawmatig.

Mae awdurdodau lleol yn gweithio i ddod o hyd i ofalwyr maeth a all eu cefnogi nes iddynt droi’n 18 oed.

Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i wella, dysgu Saesneg, meithrin ymddiriedaeth, addasu i ddiwylliant newydd, deall eu hawliau, a theimlo bod croeso iddynt yma.

Byddwch yn eu helpu i lywio bywyd bob dydd mewn cymdeithas newydd, arfer eu crefydd yn ddiogel, cael cyfle i fod yn blentyn unwaith eto a magu hyder.

Mae eich cefnogaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r bobl ifanc hyn i ailadeiladu eu bywydau a theimlo’n rhan o gymuned eto.

maethu cymunedol a theuluol

seibiannau byr: helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd

Dyma le mae plant sy’n dal i fyw gartref yn cael arosiadau rheolaidd wedi’u cynllunio gyda gofalwyr seibiant byr, gan roi lle i deuluoedd adfer ac ymlacio.

Mae’r gofalwyr yn meithrin perthnasoedd cryf â’r plentyn a’i deulu, gan helpu i leddfu’r pwysau gartref.

Mae gofalwyr seibiant byr yn penderfynu pryd maen nhw ar gael, gan gynnig yr hyblygrwydd i faethu o gwmpas eu bywydau eu hunain. Yn nodweddiadol, mae gofalwyr yn croesawu plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd i’w cartref am o leiaf ddwy noson y mis – yn aml dros benwythnos, ond weithiau yn ystod yr wythnos. Yn ystod gwyliau’r ysgol, gall y seibiannau hyn bara ychydig yn hirach, gan roi’r gefnogaeth estynedig y mae ei hangen angen ar deuluoedd.

Mae’r math hwn o faethu yn opsiwn gwych i bobl sy’n gweithio, neu i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ond mewn ffordd fwy hyblyg, rhan-amser.

Gall y seibiannau bach hyn wneud gwahaniaeth enfawr a helpu i chwarae rhan hanfodol wrth helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd.

maethu rhiant a phlentyn: cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd

Mae’r mathau hyn o leoliadau yn rhoi lle diogel i riant a’i fabi (mwy nag un plentyn, weithiau) aros wrth i’r rhiant ddatblygu ei hyder a’i sgiliau magu plant.

Mae’n fath arbenigol o faethu ag un diben clir; rhoi’r cyfle gorau posib i deuluoedd aros gyda’i gilydd.

Yn ystod y lleoliad, mae rhieni yn datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd meithringar wrth i’w sgiliau magu plant gael eu harsylwi a’u hasesu i benderfynu a allant ofalu am eu plentyn yn ddiogel yn y tymor hir.

Fel gofalwr maeth rhiant a phlentyn, rydych yn cynnig arweiniad, sicrwydd, amynedd a mentora ymarferol i’w helpu i greu arferion, meithrin perthynas â’u babi a dysgu’r sgiliau beunyddiol y mae eu hangen i fagu plant yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae gofalwyr hefyd yn cyfrannu at y broses asesu drwy gadw arsylwadau dyddiol ac ysgrifennu adroddiadau sy’n helpu’r awdurdod lleol i ddeall gallu rhiant i ofalu am ei blentyn.

Mae’r lleoliadau fel arfer yn para tua 12 wythnos a gellir eu hymestyn os oes angen. Er gwaethaf eu cymhlethdod, maen nhw’n rhoi boddhad mawr.

Mae gofalwyr maeth rhiant a phlentyn yn derbyn cyflog uwch, buddion a phecyn cymorth cynhwysfawr.

maethu brodyr a chwiorydd – cynnal perthnasoedd gwerthfawr 

Mae cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd yn hynod bwysig. Pan fydd plant yn mynd drwy gyfnod anodd, mae cael eu brodyr a’u chwiorydd wrth eu hochr yn dod â chysur, sefydlogrwydd ac ymdeimlad dwfn o berthyn.

Mae brodyr a chwiorydd yn rhannu hanes, atgofion ac agosatrwydd a all eu helpu i wynebu’r eiliadau anoddaf. Ar adeg pan fo cymaint yn eu byd yn teimlo’n ansicr, gall aros gyda’i gilydd fod yn llinell fywyd iddynt.

Mae aros gyda’i gilydd yn:

  • Lleihau trawma
  • Helpu plant i setlo’n gyflymach
  • Cryfhau lles emosiynol

Dyna pam rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd pryd bynnag y bo modd.

Mae gofalwyr maeth sy’n gallu cynnig cartref cariadus a diogel i frodyr a chwiorydd yn chwarae rhan hanfodol wrth warchod y perthnasoedd pwysig hyn.

gofal gan berthynas: teulu neu ffrindiau yn camu i mewn i ofalu

Mae gofal gan berthynas, neu faethu teulu a ffrindiau, yn digwydd pan fydd plentyn nad yw’n gallu byw gyda’i rieni geni yn cael gofal llawn amser gan rywun y mae eisoes yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo. Gallai hyn fod yn fam-gu neu’n dad-cu, yn fodryb, yn ewythr, yn frawd neu’n chwaer hŷn, neu hyd yn oed ffrind agos sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd.

Mae’r trefniant hwn yn helpu plant i wneud y canlynol:

  • Cadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau
  • Cynnal perthnasoedd a hunaniaeth
  • Profi llai o aflonyddwch – mae’r parhad yn darparu cysur, sefydlogrwydd ac ymdeimlad o ddiogelwch

Mae angen i ofalwyr teulu a ffrindiau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol i sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal diogel, cyson a meithringar. Maent yn derbyn yr un hyfforddiant a chefnogaeth â gofalwyr maeth eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i: Maethu teulu a ffrindiau (gofal gan berthynas) – Abertawe

maethu ar sail oedran

maethu babanod: darparu’r sylfeini

Mae gofalwyr maeth sy’n gofalu am fabanod yn helpu i lunio eu profiadau cynharaf – y gwenau, y geiriau cyntaf, y camau bach, a phob carreg filltir werthfawr rhyngddynt. Byddwch yn rhoi’r cynhesrwydd, y diogelwch a’r gofal meithringar y mae eu hangen arnynt mewn amgylchedd iach a chariadus.

Cymorth i ofalwyr;

  • Ymlyniad cynnar a datblygiad emosiynol
  • Arferion gofal beunyddiol
  • Trosglwyddo o ofal maeth i fabwysiadu neu ailuno teulu

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn croesawu baban newydd-anedig i’ch cartref unwaith y bydd yn barod i adael yr ysbyty. Mae llawer o fabanod yn aros gyda’u gofalwyr maeth nes bod rhieni mabwysiadol yn cael eu canfod, ond gall rhai babanod ddychwelyd i’w teuluoedd geni yn ddiweddarach neu symud at berthnasau os ystyrir ei fod yn ddiogel ac yn addas i wneud hynny.

Gan fod babanod newydd-anedig a babanod yn dibynnu ar ofal cyson, mae eu maethu yn ymrwymiad llawn amser. Bydd angen i un oedolyn yn yr aelwyd fod ar gael drwy’r amser, sy’n golygu na fydd yn gallu maethu a gweithio’n llawn amser ar yr un pryd.

Gall babanod dan ofal maethu gysgu yn ystafell wely eu gofalwyr maeth nes eu bod yn o leiaf chwe mis oed, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi drwy’r nos. Yn ddelfrydol, bydd y babanod yn symud i’w hystafell wely eu hunain erbyn tua 12 mis oed.

maethu plant yn eu harddegau: credu ynddynt

Mae llawer o blant yn eu harddegau sydd mewn gofal wedi wynebu caledi na ddylai unrhyw berson ifanc eu dioddef. Mae llawer hefyd wedi cymryd cyfrifoldebau oedolion yn llawer rhy gynnar, gan ofalu am frodyr a chwiorydd iau a cholli allan ar yr eiliadau dibryder y mae’r rhan fwyaf o blant yn eu cymryd yn ganiataol.

Yr hyn y mae ei angen arnynt fwyaf yw cartref diogel, sefydlog lle gallant ymlacio – rhywle lle gallant feithrin ymddiriedaeth unwaith eto, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a dechrau credu yn eu dyfodol eto.

Er gwaethaf rhagdybiaethau cyffredin, gall maethu pobl ifanc yn eu harddegau fod yn hynod werth chweil. Mae llawer yn annibynnol, yn ddeallus ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf.

Fel gofalwr maeth, rydych chi’n eu helpu i wneud y canlynol:

  • Magu hyder
  • Dysgu sgiliau bywyd
  • Paratoi ar gyfer bod yn oedolion

Gall darparu cysondeb ac anogaeth i bobl ifanc yn eu harddegau gael effaith gadarnhaol ddofn a chydol oes.

helpu pobl ifanc i drosglwyddo i fod yn annibynnol

pan fydda i’n barod

Mae’r cynllun Pan fydda i’n barod yn unigryw i Gymru, ac mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc barhau i fyw gyda’u gofalwyr maeth ar ôl iddynt droi’n 18 oed.

Yn hytrach na wynebu’r holl bwysau y mae oedolion yn eu hwynebu ar eu pennau eu hunain, gallant aros yn y cartref maen nhw’n gyfarwydd ag ef ac yn ymddiried ynddo hyd at 21 oed, neu hyd at 25 os ydynt yn dal i fod mewn addysg.

Mae’r cynllun yn darparu:

  • Sefydlogrwydd parhaus
  • Cefnogaeth emosiynol
  • Trosglwyddiad graddol i fod yn annibynnol

Ar gyfer gofalwyr maeth, mae dod yn ddarparwr Pan fydda i’n barod yn golygu camu i rôl ychydig yn wahanol – un sy’n canolbwyntio ar fentora, cefnogaeth emosiynol ac anogaeth yn hytrach na magu plant.

Darperir taliadau wythnosol i’r rhai sy’n cynnig y gefnogaeth barhaus hon, ac mewn llawer o achosion mae’r person ifanc hefyd yn cyfrannu’n ariannol o’i incwm neu ei fudd-daliadau, gan ei helpu i ddysgu sgiliau cyllidebu pwysig. Mae gofalwyr maeth hefyd yn derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaeth BAYS+, sy’n goruchwylio’r cynllun ac yn sicrhau bod gofalwyr a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu harwain drwyddo draw.

Yn ei hanfod, mae Pan fyddai i’n barod yn ymwneud â rhoi’r amser, y lle a’r gefnogaeth y mae eu hangen ar bobl ifanc i dyfu. Mae’n ymwneud â gadael iddyn nhw adael cartref am eu bod nhw wir yn teimlo’n barod i wneud hynny, nid oherwydd bod y calendr yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw adael.

llety â chymorth

Dyma le mae ‘gwesteiwyr’ yn cynnig cartref diogel i bobl ifanc 16-21 oed sy’n gadael gofal neu’n wynebu digartrefedd, neu nad ydynt yn barod i fyw ar eu pennau eu hunain. Mae’n cynnwys mentora yn hytrach na magu plant, ac mae’n helpu pobl ifanc i fagu hyder a sgiliau bywyd wrth gadw’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae’n galluogi pobl ifanc i ddysgu’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i fyw’n annibynnol.

Mae gwesteiwyr yn cynnig:

  • Amgylchedd cartref diogel
  • Ystafell wely breifat
  • Arweiniad a mentora – gan helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau hanfodol fel cyllidebu, coginio, trefnu eu diwrnod a rheoli cyfrifoldebau.
  • Cymorth i ddatblygu sgiliau bywyd bob dydd

Mae pobl ifanc yn cyfrannu at eu harhosiad drwy dalu rhent o’u hincwm eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros am tua 6 i 12 mis, er gall hyd yr amser amrywio yn dibynnu ar eu hanghenion a pha mor barod ydynt i symud ymlaen.

Mae bod yn westeiwr Llety â Chymorth yn ddelfrydol i rywun y mae ganddo ystafell sbâr ac awydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid oes angen i chi fod yn rhiant, yn arbenigwr, nac yn meddu ar gymwysterau arbennig. Yr unig beth y mae ei angen arnoch yw amynedd, caredigrwydd a pharodrwydd i arwain person ifanc tuag at annibyniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Gwasanaeth Llety â Chymorth Barnardo’s Abertawe | Barnardo’s

opsiynau eraill

gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig

Mae’r opsiwn hwn yn cynnig cartref diogel, sefydlog a thymor hir i blant pan nad ydynt yn gallu byw gyda’u rhieni geni, ond nid yw’r un peth â maethu neu fabwysiadu. Mae’n eistedd rhwng y ddau, gan roi ymdeimlad o barhad i blentyn wrth ei ganiatáu i gadw mewn cysylltiad â’i deulu geni.

Gwneir gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig gan y llys ac mae’n rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r gwarcheidwad arbennig am y plentyn nes iddo droi’n 18 oed. Mae hyn yn golygu y gall y gwarcheidwad wneud y penderfyniadau pwysig o ddydd i ddydd am fywyd y plentyn, megis ble mae’n byw, sut mae’n cael ei fagu, yr ysgol mae’n ei mynychu, a’i ofal meddygol. Mae’n caniatáu iddo gynnig cysondeb, sicrwydd a bywyd teuluol diogel i’r plentyn.

Yn wahanol i fabwysiadu, nid yw Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn torri cysylltiadau cyfreithiol y plentyn â’i rieni geni. Mae ei berthnasoedd teuluol yn parhau.

Unwaith y bydd Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig ar waith, nid yw’r plentyn yn cael ei ystyried yn ‘berson sy’n derbyn gofal’ mwyach, felly mae cyfranogiad gweithwyr cymdeithasol fel arfer yn lleihau. Fodd bynnag, gall yr awdurdod lleol barhau i gynnig cefnogaeth pan fo angen, gan sicrhau nad yw’r plentyn a’r gwarcheidwad yn teimlo ar eu pen eu hunain ar eu taith.

I’r plentyn, gall Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig fod yn galonogol iawn. Mae’n rhoi’r sicrwydd o wybod ble bydd y plentyn yn tyfu i fyny a phwy fydd yn gofalu amdano, sy’n rhywbeth y mae pob plentyn yn ei haeddu.

sefydlogrwydd cynnar cymru: maethu i fabwysiadu

Yng Nghymru, mae gan deuluoedd bellach y cyfle i ofalu am blentyn drwy lwybr o’r enw Maethu i Fabwysiadu, a elwir hefyd yn Sefydlogrwydd Cynnar Cymru.

Mae gofalwyr sydd wedi’u cymeradwyo drwy’r cynllun hwn yn ‘ofalwyr sydd wedi’u cymeradwyo’n ddeuol’, sy’n golygu eu bod yn ofalwyr maeth ac yn ddarpar fabwysiadwyr. Mae hyn yn caniatáu i blentyn gael ei leoli gyda nhw cyn gynted â phosib.

Mae’r dull hwn yn rhoi cyfle i fabanod a phlant ifanc iawn brofi sefydlogrwydd a gofal cariadus cyn gynted â phosib yn eu bywydau.

Wrth i ddyfodol babi gael ei ystyried, chi yw gofalwr maeth y plentyn. Byddwch yn cael eich asesu, eich hyfforddi a’ch cefnogi’n ofalus yn y rôl honno.

Os bydd y llys yn cytuno’n ddiweddarach mai mabwysiadu yw’r cynllun cywir, dylai’r trosglwyddiad fod yn ddi-dor. Yna rydych chi’n mynd o fod yn ofalwr maeth i’r babi, i fod yn rhiant mabwysiadol i’r babi, gan gynnig parhad, cariad a diogelwch tymor hir. Mae’n caniatáu i’r plentyn aros gyda’r bobl y mae eisoes wedi creu cysylltiad â nhw ac yn eu caru.

Er bod Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn aml yn arwain at fabwysiadu, nid yw’n cael ei warantu. Mewn nifer bach o achosion, gall y llys benderfynu ei bod er lles gorau’r plentyn iddo ddychwelyd at ei rieni neu symud at aelod arall o’r teulu. Mae’r posibilrwydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ofalwyr ymdrin ag achosion o gynllun Sefydlogrwydd Cynnar Cymru  â chalon agored a gwydnwch emosiynol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yma:

ydych chi am gynnig cartref am byth i blentyn?

mabwysiadu – cartref am byth

Dyma pryd rydych chi’n dod yn rhiant i blentyn yn gyfreithiol. 

Mae mabwysiadu yn ymrwymiad sy’n newid bywyd go iawn – i blentyn, ac i’r teulu sy’n ei groesawu. Yn ei hanfod, mae mabwysiadu’n golygu dod yn rhiant cyfreithiol i blentyn ym mhob ystyr. Rydych chi’n ymgymryd â’r holl hawliau, cyfrifoldebau, cariad ac ymroddiad gydol oes sydd ynghlwm â bod yn rhiant. Mae’r plentyn yn cymryd eich enw. Mae’n dod yn aelod llawn a pharhaol o’ch teulu. Rydych chi’n dod yn rhiant iddo – nid am y tro, ond am byth.

Os hoffech ddysgu mwy am fabwysiadu yn Abertawe neu archwilio a allai fod y llwybr cywir i chi, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin i gael arweiniad a chymorth.

I ddarganfod mwy am fabwysiadu yn Abertawe, cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin.

Cefnogaeth y gallwch ddibynnu arni

O ymholiad i leoliad a thu hwnt, rydyn ni yma i’ch arwain ar hyd y daith.

Mae ein cefnogaeth yn dechrau o’r eiliad y byddwch chi’n cysylltu â ni, nid ar ôl i chi ddod yn ofalwr maeth yn unig.

Mae dod yn ofalwr maeth gyda ni yn golygu ymuno â thîm sy’n eich gwerthfawrogi, yn eich cefnogi ac yn sefyll wrth eich ochr.

Credwn ei bod yn hanfodol i ofalwyr maeth deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu’n wirioneddol, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r lefel uchaf o gefnogaeth. Pan fydd gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae gan blant mewn gofal maeth y cyfle gorau i gael dyfodol mwy disglair a diogel, a dyna sydd bwysicaf i ni.

Ni waeth pa fath o faethu sy’n teimlo’n iawn i chi, byddwn ni wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.

Pa fath bynnag o faethu rydych chi’n ei ddewis, bydd Maethu Cymru Abertawe’n darparu’r canlynol i chi:

  • Gweithiwr cymdeithasol goruchwylio penodedig
  • Eich gweithiwr cymorth eich hun
  • Tîm lleol profiadol
  • Ffïoedd a lwfansau cystadleuol (dysgwch fwy am gyflog gofalwyr maeth yma)
  • Cefnogaeth 24/7 pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch
  • Mynediad at hyfforddiant parhaus rhagorol
  • Grwpiau cefnogi ar gyfer yr holl aelwyd
  • Digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd ar gyfer teuluoedd maeth

I ni, mae’n ymwneud â sicrhau bod pob gofalwr maeth yn teimlo’n rhan o dîm Maethu Cymru Abertawe – pawb yn gweithio gyda’i gilydd i greu canlyniadau gwell i blant lleol.

Dydych chi byth ar y daith hon ar eich pen eich hun.

I archwilio popeth rydym yn ei gynnig mewn mwy o fanylder, darllenwch ein blog yma.

ydych chi’n ystyried maethu? dewch i siarad.

Os ydych yn dechrau meddwl tybed a allai maethu fod yn rhan o’ch stori, byddem wrth ein bodd yn sgwrsio â chi. Does dim rhaid i chi wybod yr ateb i bopeth eto. Yr unig beth y mae ei angen arnoch yw lle yn eich cartref a’ch calon.

Ffoniwch 0300 555 0111
Gofynnwch am alwad yn ôl: Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein

Newidiwch fywyd plentyn – a’ch bywyd eich hun – am byth.

Story Time

Stories From Our Carers