Pan feddyliodd Alex Simpson gyntaf am ddod yn ofalwr maeth doedd e ddim yn siŵr a fyddai maethu’n cyd-fynd â’i fywyd prysur. Fel dyn sengl sy’n gweithio’n amser llawn yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac yn hyfforddi’n rheolaidd ar gyfer digwyddiadau treiathlon, roedd yn meddwl tybed a allai ymdopi â galwadau maethu.
Heddiw, mae Alex yn gofalu am dri bachgen yn eu harddegau ac mae’n dweud bod maethu wedi dod yn un o’r rhannau mwyaf gwerth chweil o’i fywyd.
dechrau gyda gofal seibiant
Penderfynodd Alex faethu yn y lle cyntaf oherwydd ei fod am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd person ifanc. Roedd yn meddwl y byddai darparu gofal seibiant i arddegwyr yn ffordd dda o gynnig cefnogaeth wrth gydbwyso’i waith a’i ffordd o fyw.
Ond, newidiodd ei gynlluniau pan ddaeth bachgen yn ei arddegau i aros gydag ef.
“Dechreuais faethu oherwydd roeddwn i am wneud rhywbeth cadarnhaol i berson ifanc ac roeddwn i’n meddwl y byddai gofal seibiant yn cyd-fynd â fy ngwaith a’m ffordd o fyw. Yna daeth bachgen yn ei arddegau i aros gyda fi a sylweddolais y gallwn gynnig llawer mwy na seibiannau byr. Roedd gweld y gwahaniaeth y gallai sefydlogrwydd, cysondeb ac ymddiriedaeth ei wneud yn hynod bwerus ac roedd yn rhoi gwir ymdeimlad o bwrpas i fi.”
gweld yr effaith â’i lygaid ei hun
Ym mis Ebrill 2024, symudodd bachgen 16 oed i fyw gydag Alex. Ar ôl symud lleoliad sawl tro, ymgartrefodd y person ifanc yn gyflym i fywyd teuluol. Ysbrydolwyd Alex i barhau â’i daith faethu wrth weld hyder y crwt yn tyfu.
Ers hynny, mae’r dyn ifanc wedi troi’n 18 oed ac mae’n parhau i fyw gydag Alex o dan drefniant ‘Pan fydda i’n Barod’, gan ganiatáu i’r berthynas gefnogol a ddatblygwyd rhyngddynt barhau.
“Roedd ei weld yn dod yn fwy hyderus, a gweld pa mor gyflym y dechreuodd ffynnu’n dangos yr effaith y gall maethu ei chael. Gwnaeth i mi fod eisiau helpu mwy o blant a phobl ifanc i brofi’r un sefydlogrwydd, cefnogaeth a chyfleoedd.”
cartref i dri arddegwr
Tyfodd yr hyn a ddechreuodd gydag un person ifanc yn fuan i fod yn aelwyd fywiog o dri arddegwr. Ym mis Ebrill 2025, croesawodd Alex ail berson ifanc i’w gartref ac yn ddiweddarach cytunodd i ofalu am drydydd arddegwr pan ddaeth ystafell wely sbâr ar gael.
Er gwaethaf maethu tri pherson ifanc wrth weithio’n amser llawn, dywed Alex fod y cydbwysedd yn gyraeddadwy gyda’r rhwydwaith cefnogi cywir a disgwyliadau realistig.
“Mae pobl yn aml yn tybio na allwch faethu os ydych chi’n gweithio’n amser llawn, ond dydy hynny ddim yn wir. Dwi’n cael cefnogaeth wych gan gydweithwyr, ffrindiau a theulu, ac rwyf wedi dysgu peidio â rhoi pwysau arnaf i fy hun i fod yn berffaith. Y peth pwysicaf yw bod yno’n gyson i’r bobl ifanc a chreu cartref lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.”
helpu pobl ifanc i ffynnu
I Alex, mae maethu’n ymwneud â helpu pobl ifanc i fagu hyder, annibyniaeth a gwytnwch, wrth wybod bod ganddynt bob amser rywun y gallant ddibynnu arno.
Mae’n annog y bechgyn y mae’n gofalu amdanynt i roi cynnig ar bethau newydd, datblygu eu sgiliau a dysgu o brofiadau bywyd, gan wybod ei fod yno i’w cefnogi pan fo angen.
Mae’r effaith gadarnhaol eisoes wedi bod yn amlwg i’w gweld. Mae un person ifanc bellach yn ceisio cyngor a chefnogaeth Alex, mae un arall wedi magu’r hyder i siarad yn agored am ei deimladau ac mae’r trydydd wedi dod yn llawer mwy parod i gyfathrebu a rhannu ei brofiadau a’i gyflawniadau.
“Yn aml, y pethau bach sy’n golygu fwyaf. Mae gweld person ifanc yn gofyn am gymorth pan fydd ei angen arno, yn rhannu rhywbeth y mae’n falch ohono, neu’n siarad am sut mae e’n teimlo’n dangos y cynnydd y mae’n ei wneud. Mae’r eiliadau hyn yn fy atgoffa pam mae maethu’n bwysig.”
gwneud gwahaniaeth i’r teulu cyfan
Un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar faethu i Alex yw clywed gan deuluoedd geni’r bechgyn a gwybod bod ei gefnogaeth yn eu helpu drwy gyfnodau anodd hefyd.
“Pan fydd teulu biolegol yn diolch i chi am gefnogi eu plentyn yn ystod cyfnod anodd yn eu bywydau, mae’n golygu llawer. Mae derbyn y gefnogaeth honno’n fy sicrhau fy mod i’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae’n hynod werth chweil gwybod eich bod yn helpu’r person ifanc a hefyd ei deulu ehangach.”
cyngor alex
Mae Alex yn gobeithio y bydd ei stori’n annog eraill sydd efallai’n meddwl nad ydynt nhw’n addas i faethu oherwydd eu bod yn sengl neu am fod ganddyn nhw swydd amser llawn.
“Does dim y fath beth â gofalwr maeth perffaith. Mae gan bob person ei gryfderau, ei sgiliau a’i brofiadau ei hun. Os ydych chi’n ystyried maethu, peidiwch â diystyru’ch hun. Mae’r gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud ym mywyd person ifanc yn rhyfeddol, ac mae’r gwobrau’n hollol unigryw.”
oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu?
Daw gofalwyr maeth o bob cefndir. P’un a ydych yn sengl, yn gweithio’n amser llawn, yn magu teulu neu’n byw ar eich pen eich hun, gall fod gennych yr union beth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda Maethu Cymru Abertawe, ewch i www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 0300 555 0111.