3 Mehefin 2026, 10:00am – 12:30pm
Little Man Coffee (SA1 1DY)
Ydych chi’n ystyried maethu, yn chwilfrydig am y broses neu’n dymuno cael sgwrs gyfeillgar? Mae…
gwybodaeth bellachEin prif flaenoriaeth yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned, bob amser.
Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.
Mae’n ymwneud â rhoi dyfodol gwell i blant lleol. Gallwch wneud byd o wahaniaeth dim ond drwy fod yn chi eich hun, drwy ofalu a gwrando.
Rydyn ni’n darparu cefnogaeth bwrpasol ar gyfer eich taith faethu, o hyfforddiant arbenigol i lwfansau ariannol, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae mwy o wybodaeth yma.
Sut mae dod yn ofalwr maeth yn Abertawe a beth allwch chi ei ddisgwyl?
Mae maethu yn golygu ymroddiad ac ymrwymiad. Mae’n gallu bod yn heriol, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth hael o fanteision a chefnogaeth ddiguro, bob dydd. Dysgwch fwy.
cefnogaeth a manteisionYdych chi’n breuddwydio am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe? Byddwn ni’n gweithio gyda chi i helpu i wireddu eich breuddwyd.