maethu yn abertawe

cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol

maethu yn abertawe

Ein prif flaenoriaeth yw  creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned, bob amser.

Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.

meddwl am faethu yn abertawe?

Two adults and two teenagers walking on beach in Swansea

pwy all faethu?

Mae Maethu Cymru Abertawe yn dathlu amrywiaeth. Mae dros 140 o deuluoedd lleol yn maethu gyda ni, ac mae pob teulu’n wahanol.

dysgu mwy
Excited face of a small boy

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael

dysgu mwy

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Dewch i glywed yn uniongyrchol beth mae maethu’n ei olygu gan ein teuluoedd maeth yn Abertawe.

pam maethu?

Mae’n ymwneud â rhoi dyfodol gwell i blant lleol. Gallwch wneud byd o wahaniaeth dim ond drwy fod yn chi eich hun, drwy ofalu a gwrando.

Rydyn ni’n darparu cefnogaeth bwrpasol ar gyfer eich taith faethu, o hyfforddiant arbenigol i lwfansau ariannol, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae mwy o wybodaeth yma.

sut mae’n gweithio

Sut mae dod yn ofalwr maeth yn Abertawe a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Mae maethu yn golygu ymroddiad ac ymrwymiad. Mae’n gallu bod yn heriol, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd.

Single male and children eating ice cream
y broses

Dysgwch sut mae cychwyn ar eich taith faethu, a beth i’w ddisgwyl nesaf.

y broses
woman and sisters making food
cefnogaeth a manteision

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth hael o fanteision a chefnogaeth ddiguro, bob dydd. Dysgwch fwy.

cefnogaeth a manteision

dod yn ofalwr maeth

Ydych chi’n breuddwydio am ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe? Byddwn ni’n gweithio gyda chi i helpu i wireddu eich breuddwyd.

handshake icon

y gymuned faethu

Mae cymuned o ofalwyr maeth yn eich ardal leol. Fel ni, maent yma i’ch cefnogi. Rydym yn un tîm, â phob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu gwell dyfodol i’n plant lleol.

chat icon

gymorth ariannol

Mae bod yn ofalwr maeth yn golygu y byddwch yn derbyn ffioedd a lwfansau cystadleuol sy’n uwch na’r hyn a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Billboard icon

dysgu a datblygu

Bydd gennych fynediad at yr holl offer a hyfforddiant y bydd eu hangen arnoch i sicrhau y gallwch ddiwallu anghenion pobl plentyn yn eich gofal.

human icon

cefnogaeth

Mae’r gefnogaeth y mae Maethu Cymru Abertawe yn ei darparu i’n gofalwyr maeth yn un o’n prif flaenoriaethau.  Rydym yn darparu grwpiau cefnogi, boreau coffi, digwyddiadau a gweithgareddau i blant.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni