blog

karen a tony: “alla i faethu os oes gennyf anabledd?”

Ym Maethu Cymru Abertawe, rydym yn aml yn clywed yr un cwestiwn gan bobl sydd â chymaint o gariad i’w roi:“Alla i faethu os oes gennyf anabledd neu gyflwr iechyd?”

Mae llawer o bobl yn anghymhwyso’u hunain cyn iddynt hyd yn oed godi’r ffôn am eu bod yn poeni y gall eu heriau personol eu hatal rhag gallu gwneud hyn. Fodd bynnag, os gofynnwch chi i Karen a Tony, byddan nhw’n dweud wrthych nad yw bod ag anabledd yn rhwystr, mae’n gryfder sy’n eu helpu i gysylltu â phobl ifanc mewn ffordd na fyddai eraill efallai’n gallu ei gwneud.

sut y dechreuon ni ein taith i ddod yn ofalwyr maeth

I Karen, roedd yr awydd i helpu yno bob amser. “Roedd fy mam yn arweinydd y Brownies, ac roedd hi bob amser yn dwlu ar helpu pobl,” mae hi’n cofio. “Dwi’n cofio fy mod wastad wedi bod eisiau helpu a maethu”. I Tony, roedd yn ymwneud â gwneud i’w cartref deimlo’n gyflawn, roedd y ddau yn teimlo’u bod yn colli cyfle, ac roedden nhw am gael teulu mwy yn anad dim, ond roedd ganddyn nhw hefyd awydd cryf i rannu eu bywyd teuluol â phobl ifanc yr oedd arnynt ei angen fwyaf.

Fel llawer o bobl, roedd ganddyn nhw gwestiynau: Allwch chi faethu os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir?

cefnogaeth wirioneddol gan faethu cymru abertawe

Roedd Karen yn fyddar ymhell cyn iddyn nhw ddechrau ar eu taith faethu, felly roedden nhw eisoes yn gwybod am bŵer addasu. “Roeddwn i’n onest ynghylch fy nghlyw o’r cychwyn cyntaf,” meddai. “Dywedais wrth dîm Maethu Cymru Abertawe beth oedd ei angen arnaf – mae angen i mi weld cegau pobl pan maen nhw’n siarad er mwyn i mi allu darllen gwefusau a dyna’n union ddigwyddodd yn ystod yr asesiad.”

Pan gafodd Tony ddiagnosis o MS yn ystod eu taith faethu, roedd yn ddigwyddiad bywyd arwyddocaol i’r ddau, ond yn hytrach na chael ymateb negyddol, cawsant eu trin ag empathi. “Roedd Maethu Cymru Abertawe wedi fy nhrin mor dda,” eglura Tony. “Gofynnon nhw’r cwestiynau angenrheidiol i wneud yn siŵr fy mod i’n dal i allu maethu, ac roedden nhw’n hapus i ni barhau fel gofalwyr maeth. Roedden nhw’n gwybod ein bod yn dîm.”

mae karen a tony yn dweud bod eu hanabledd yn gryfder wrth faethu

Mae Karen a Tony wedi darganfod bod eu heriau bywyd eu hunain yn eu helpu i uniaethu â phlant.

“Mae bod ag anabledd yn helpu,” meddai Karen.

“Mae’n rhoi dealltwriaeth i mi o sut mae’n teimlo i gael eich trin yn wahanol, yn union fel y caiff rhai plant sydd mewn gofal. Gallaf uniaethu â nhw gan fy mod wedi wynebu fy heriau fy hun.”

Mae Tony’n cytuno, gan ddarganfod bod ei daith yntau ag MS wedi cynyddu ei empathi. “Nid yw’n fy atal rhag chwarae gyda’r plant, rwy’n gwneud mwy nag erioed nawr! Mae Karen a fi yn dîm gwych; rydym yn ategu cryfderau ein gilydd.”

y boddhad mwyaf: codwch y ffôn

I Karen a Tony, mae’r buddion i’w cael yn yr eiliadau bach.

“Mae gweld cymaint y mae fy merch fach wedi datblygu a’i gwylio’n ffynnu’n golygu popeth i mi,” meddai Karen. Mae Tony’n teimlo’r un peth, “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld y plant yn symud i fywyd gwell… “

Os oes gennych anabledd, ac rydych yn meddwl tybed a allwch faethu, mae ganddyn nhw un darn o gyngor, ”Peidiwch â bod ofn codi’r ffôn a gofyn.”

Ewch amdani,” dywed Karen. “Byddwch yn onest am eich cyflwr, gofynnwch am yr hyn sydd ei angen arnoch, a derbyniwch y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig. Peidiwch â bod ofn gofyn am help, mae ein gweithiwr cymdeithasol ar ben arall y ffôn.”

ydych chi’n barod i ddechrau eich taith faethu?

Ym Maethu Cymru Abertawe, mae angen pobl o bob cefndir. Os oes gennych le yn eich calon a’ch cartref, efallai mai eich profiad unigryw chi yw’r union beth sydd ei angen ar blentyn lleol. Cysylltwch â’n tîm heddiw i gael sgwrs gyfeillgar, heb bwysau.

Story Time

Stories From Our Carers