Pan ddechreuodd teulu Olivia ei daith faethu, roedd hi’n gyffrous am y gwahaniaeth y gallai teulu ei wneud i fywydau plant yr oedd angen cartref diogel a gofalgar arnynt. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’n dweud bod bod yn rhan o deulu sy’n maethu wedi bod yn brofiad gwerth chweil sydd wedi’i helpu i gynyddu ei dealltwriaeth, ei thosturi a’i hyder.
“Roeddwn i’n hapus iawn oherwydd roedd hyn yn golygu y gallwn helpu plant,” meddai Olivia wrth fyfyrio ar sut roedd hi’n teimlo pan ddywedodd ei rhieni wrthi am y tro cyntaf eu bod yn ystyried maethu.
Ers croesawu plant maeth i’w cartref, dywed Olivia ei bod wedi teimlo’n falch o chwarae rôl wrth eu cefnogi.
“Roeddwn i’n teimlo’n dda am y peth ac yn falch iawn oherwydd dwi wrth fy modd yn helpu eraill.”
adeiladu cyfeillgarwch a rhannu profiadau
I Olivia, un o’r rhannau gorau o fod yn rhan o deulu maethu yw cwrdd â phlant a phobl ifanc eraill sy’n deall sut beth yw maethu.
“Dwi wir yn mwynhau bod yn rhan o deulu maeth. Rwy’n arbennig o hoff o fynd i ddigwyddiadau maethu oherwydd rwy’n cael cwrdd â phobl eraill sy’n deall sut beth yw maethu ac rydym yn cael rhannu ein profiadau. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a sylweddoli bod teuluoedd eraill fel ein un ni.”
Mae’r cyfleoedd hyn yn helpu plant a phobl ifanc sy’n gysylltiedig â maethu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn rhan o gymuned faethu ehangach. Yn seiliedig ar brofiad Olivia, mae maethu wedi helpu i greu sawl cyfeillgarwch newydd wrth roi cyfle iddi rannu profiadau ag eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
dysgu gweld pethau’n wahanol
Mae bod yn rhan o aelwyd sy’n maethu hefyd wedi dysgu gwersi gwerthfawr i Olivia am empathi a dealltwriaeth.
“Rwyf wedi dysgu y gall plant mewn gofal ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol o gwmpas pobl eraill oherwydd yr hyn y maen nhw wedi’i brofi. Nid yw’n golygu eu bod yn ceisio bod yn ddrwg; mae’n golygu bod rhywbeth y mae angen iddyn nhw ddweud wrthym.”
Mae hi’n dweud bod maethu hyd yn oed wedi newid y ffordd mae hi’n meddwl am blant eraill y mae’n cwrdd â nhw mewn bywyd pob dydd.
“Mae hefyd wedi gwneud i fi feddwl am blant yn fy ysgol nad ydyn nhw efallai’n ymddwyn yn dda. Efallai eu bod wedi profi amgylchiadau anodd hefyd.”
gwneud gwahaniaeth
I Olivia, y peth mwyaf gwerth chweil am faethu yw gwybod y gall plant deimlo’n ddiogel, y gofelir amdanynt a’u bod yn cael eu caru.
“Byddwn i’n dweud mai’r pethau mwyaf gwerth chweil am fod yn deulu maeth yw gallu helpu plant i deimlo’n ddiogel, y gofelir amdanynt a’u bod yn cael eu caru.”
Mae hi hefyd yn mwynhau gweld plant maeth yn profi bywyd teuluol pob dydd, yn dysgu pethau newydd ac yn creu atgofion cadarnhaol.
“Mae’n hwyl cael person arall yn y teulu a’i weld yn dysgu pethau newydd a chael profiadau newydd hefyd.”
Mae Olivia wedi gweld â’i llygaid ei hun sut y gall maethu gael effaith barhaol.
“Rwy’n credu y gall maethu wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn oherwydd mae’n rhoi lle diogel iddo fyw lle gall deimlo’n rhan o deulu. Gall hynny ei helpu i deimlo’n hapusach ac fel y gall ymddiried mewn pobl.”
Mae hi’n cofio pa mor arbennig oedd rhannu profiadau teuluol â phlentyn yn eu gofal.
“Roedden ni’n gallu mynd â phlentyn maeth ar wyliau gyda ni, ac roedd yn hyfryd gweld cymaint yr oedd e wedi’i fwynhau. Gall hyd yn oed pethau bach fel treulio amser yn sgwrsio â’r plentyn wneud gwahaniaeth.”
neges i deuluoedd sy’n ystyried maethu
Mae rhai teuluoedd yn poeni am yr effaith y gall maethu ei chael ar eu plant eu hunain, ond mae Olivia yn credu ei fod wedi cael effaith gadarnhaol arni.
“Efallai bydd rhai teuluoedd yn poeni y gallai effeithio ar eu plant eu hunain, ond i fi rwy’n teimlo’i fod wedi fy helpu.”
Mae hi’n annog teuluoedd i gadw meddwl agored am faethu a’r profiadau cadarnhaol y gall ei gynnig.
Pan ofynnwyd iddi grynhoi ei phrofiad maethu hyd yn hyn, mae ateb Olivia yn syml:
“Mae wedi bod yn wych, yn fendigedig, yn galonogol ac yn anhygoel.”
Ac a fyddai hi’n argymell maethu i deuluoedd eraill?
“Byddwn, byddwn yn argymell maethu i deuluoedd eraill 100% gan y gall helpu plant maeth ac fe allai helpu eu teuluoedd eu hunain hefyd wrth i chi ddysgu bod yn fwy deallgar ac amyneddgar.”
I Olivia, mae maethu’n helpu plant i deimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi a hefyd wedi’i helpu hi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o eraill a’r gwahaniaeth y gall teulu gofalgar ei wneud.
oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu?
Os ydych yn chwilfrydig am faethu ond yn ansicr ynghylch sut y gallai effeithio ar eich teulu, rydyn ni yma i helpu. Gall ein tîm fynd drwy’r broses gyda chi, ac esbonio sut bydd eich plant yn cael eu cefnogi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
I gael rhagor o wybodaeth am fywyd fel teulu sy’n maethu, cliciwch yma.
Ffoniwch Faethu Cymru Abertawe ar 0300 555 0111 i gael sgwrs gyfeillgar, heb bwysau neu cysylltwch â ni yma