
sut mae’n gweithio
sut mae’n gweithio
sut mae’n gweithio
Mae maethu yn Abertawe yn fwy cysylltiedig na fyddech chi’n ei feddwl. Rydyn ni’n darparu arbenigedd, cefnogaeth broffesiynol ac arweiniad i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Mae ein staff ymroddedig ar gael ar ein llinell gymorth y tu allan i oriau arferol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd.
Felly dydych chi byth ar eich pen eich hun. Rydyn ni bob amser yma i helpu.

gwell gyda’n gilydd
Mae Maethu Cymru Abertawe wedi ymrwymo i gefnogi plant yn ein gofal, eu teuluoedd maeth a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ni bob dydd. Dyna beth rydyn ni’n ei wneud.
Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n rhwydwaith o 22 o dimau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth rhyngon ni i sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn cael y gefnogaeth a’r gofal gorau posibl, a’u bod yn gallu magu hyder drwy gydol eu taith.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dim ond un o’r 22 o dimau Awdurdodau Lleol sy’n rhan o Maethu Cymru yw ein tîm yn Abertawe. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, yn lleol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n fwy cysylltiedig a medrus nag unrhyw asiantaeth faethu arall.
Rydyn ni’n bodoli er mwyn gwneud gwahaniaeth i blant lleol. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth cefnogi llawn amser pwrpasol i’n holl ofalwyr maeth er mwyn i ni allu creu dyfodol gwell gyda’n gilydd.
Mae ein nod o helpu plant lleol yn golygu ein bod ni wedi ymrwymo i Abertawe. Rydyn ni am i blant yn Abertawe aros yn eu hardaloedd lleol, er mwyn iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Er mwyn iddyn nhw gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth a theimlo eu bod yn perthyn.
Rydyn ni bob amser yn rhoi blaenoriaeth i bobl yn hytrach na gwneud elw – dyna’r math o sefydliad ydyn ni. Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein holl gyllid yn cael ei roi i’n gwasanaethau a’n timau i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’r plant yn ein gofal.