Mae rhai o’n gofalwyr maeth wedi rhoi eu hawgrymiadau ar beth i’w wneud os ydych chi’n ystyried maethu, yn ogystal â’u cyngor ar gyfer y flwyddyn gyntaf o faethu.
Os ydych chi’n ystyried maethu, mae’n siŵr y byddwch yn elwa o’r holl gyngor y gallwch ei gael gan yr union bobl sydd eisoes yn ei wneud – gofalwyr maeth.
Mae ganddynt lawer o brofiad a gallant ddarparu gwybodaeth am bob agwedd ar faethu, yn ogystal â rhannu awgrymiadau ar yr hyn y dylai pobl ei wneud i helpu i sicrhau bod eu profiadau’n gadarnhaol ac i fod y gofalwr maeth gorau y gallant fod.
awgrymiadau da i ofalwyr maeth
Holly: “Siaradwch â’ch plant gymaint â phosib am faethu a gwnewch yn siŵr eu bod yn fodlon o’r dechrau. Cofiwch eu cynnwys gymaint â phosib trwy gydol y broses a gobeithio y byddwch chi, fel teulu, yn penderfynu maethu gyda ni. Mae wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau rydyn ni erioed wedi’i wneud, ac mae ein plant wrth eu boddau.”
Darllenwch ein blog am faethu pan fydd gennych eich plant eich hun. Gallwch hefyd wylio rhai o blant ein gofalwyr maeth ein hunain yn siarad am y manteision o fod yn rhan o deulu maethu.
Claire: “Ewch i ddigwyddiad gwybodaeth – ar-lein neu wyneb yn wyneb – a gallwch gwrdd â gofalwyr maeth go iawn er mwyn gofyn yr holl gwestiynau rydych chi am eu gwybod am faethu.”
Suzanne a Paul: “Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gefnogaeth o’ch cwmpas a pheidiwch â bod ofn gofyn os nad ydych chi’n siŵr o rywbeth.”
Tracey: “Peidiwch ag aros, ewch amdani, fyddwch chi ddim yn difaru!”
Daeth Zoe a Julie yn ffrindiau gorau o ganlyniad i faethu. Mae Zoe wedi bod yn maethu ers 11 mlynedd tra bod Julie wedi bod yn gwneud y rôl ers 19 blynedd.
“Dyma ein tri awgrym gorau:
- Gwnewch yn siŵr bod gennych rwydwaith cymorth da – mae cael cefnogaeth aelodau o’r teulu a ffrindiau’n amhrisiadwy; gwnewch ffrindiau â gofalwyr maeth eraill; ac ewch i grwpiau cymorth a digwyddiadau y mae eich gwasanaeth maethu yn eu trefnu.
- Cwblhewch gymaint o hyfforddiant ag y gallwch.
- Byddwch yn wydn – rhaid deall nad yw pethau’n hawdd bob tro. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod newydd, yn enwedig os nad oedd ddoe yn wych. Mae dyddiau da a dyddiau drwg – a llawer mwy ohonynt yn dda.
Mae llawer o bobl yn meddwl am faethu am flynyddoedd cyn iddynt benderfynu mynd amdani. Maent yn tybio y bydd rhai ffactorau yn effeithio arnynt ar gyfer maethu fel gweithio, peidio â bod yn rhiant, bod yn sengl, eu hoedran, neu hyd yn oed bod ganddynt anifeiliaid anwes. Ond mae yna rai rhwystrau a fyddai’n atal rhywun rhag maethu.
y flwyddyn gyntaf o faethu
Gall y flwyddyn gyntaf o faethu deimlo’n frawychus neu’n llethol wrth i chi brofi rôl gofalwr maeth ac anghenion y plant sy’n dod i fyw gyda chi.
Mewn gwirionedd, rydych chi i gyd yn addasu i amgylchedd newydd. Rydych chi i gyd ar yr un gromlin dysg, gan fynd trwy brofiadau newydd gyda’ch gilydd.
Er y gall gofalwyr maeth a staff eich cynghori a’ch cefnogi, mae pob plentyn yn unigryw ac felly gall fod yna bethau anhysbys ynghylch beth i’w ddisgwyl. Bydd angen cefnogaeth wahanol ar bob plentyn maeth yn dibynnu ar y trawma y mae wedi’i brofi.
Mae rhai o’n gofalwyr maeth wedi rhoi cyngor ar beth i’w ddisgwyl yn ystod y flwyddyn gyntaf fel gofalwr maeth, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol.
1. peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun.
Ni ellir disgwyl i chi wybod popeth o’r cychwyn cyntaf. Mae pethau’n cymryd amser. P’un a yw hynny’n golygu helpu’r plentyn i ymgartrefu yn ei gartref newydd, sefydlu arferion a ffiniau, neu sefydlu perthynas. Nid mewn undydd y codwyd Rhufain; yn yr un modd, ni all gofalwyr maeth wybod y cyfan mewn un diwrnod. Mae gofalwyr maeth sydd wedi bod yn maethu ers dros 20 mlynedd yn dal i ddysgu pethau newydd drwy’r amser. Does neb yn cael popeth yn iawn yn syth.
2. peidiwch ag ofni gofyn cwestiynau neu ofyn am help.
Byddwch ond yn dysgu ac yn datblygu fel gofalwr maeth gyda phrofiadau newydd, trwy fynd i amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, ac wrth ofyn cwestiynau i ofalwyr maeth neu staff eraill. Nid yw gofyn am help yn arwydd o wendid. Mewn gwirionedd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Dyna’r rheswm pam mae gennych eich gweithiwr cymdeithasol eich hun, fel bod gennych rywun i alw arno, rhywun sydd wedi dod i’ch adnabod chi a’ch teulu. Ond gallwn hefyd eich cyfeillio â gofalwyr maeth eraill a allant roi cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i chi.
3. peidiwch â disgwyl gwyrthiau ar unwaith!
Mae hyn yn berthnasol i ofalwyr maeth, eu plant eu hunain, a’r plant y maent yn eu maethu. Mae’n normal iawn i ofalwr maeth sydd newydd eu cymeradwyo deimlo’n nerfus, a hyd yn oed yn bryderus am y plentyn cyntaf sy’n cael ei leoli gyda nhw. Yn sydyn, rydych chi’n agor eich cartref i blentyn neu berson ifanc nad ydych erioed wedi’i gyfarfod. Ond dychmygwch eich bod chi’n blentyn bach sy’n mynd i fyw yng nghartref dieithryn ar ôl cael eich symud o’ch teulu. Bydd yn 10 gwaith yn fwy nerfus na chi, ac mae’n debyg na fydd yn gallu cyfleu sut mae’n teimlo oherwydd nad yw’n deall hyn ei hun mewn gwirionedd. Pan rydych chi’n cyflwyno arferion a ffiniau newydd, ewch yn araf a pheidiwch â disgwyl i’r plentyn fod yn hapus ar unwaith ac integreiddio i’ch bywyd teuluol – hyd yn oed os ydych chi’n coginio ei hoff bryd o fwyd iddo! Bydd sefydlu cysylltiad a pherthynas gyda nhw’n cymryd amser ond pan fydd y plentyn yn teimlo’n sefydlog a’ch bod wedi meithrin ymddiriedaeth rhyngoch chi, bydd y cyfan yn werth chweil. Mae amynedd yn allweddol.
4. byddwch yn barod am faint o amser y bydd angen i chi ei roi i blentyn.
Yn ogystal â gofalu am y plentyn ei hun, bydd angen i chi ei gludo i’r ysgol ac yn ôl (os yw o oedran ysgol), mynd ag ef i amser teuluol, mynd i gyrsiau hyfforddi a mynd i gyfarfodydd sy’n ymwneud â’r plentyn. Bydd rhoi eich amser i blentyn yn dangos iddo eich bod yn gofalu amdano a’ch bod am ei gefnogi.
5. dangoswch i’r plant fod gennych synnwyr digrifwch.
Gall hiwmor helpu i leihau straen a helpu plant a gofalwyr maeth yn ystod sefyllfaoedd anodd. Gall hefyd helpu i leddfu unrhyw densiwn, yn enwedig ar y dechrau. Os yw plentyn yn eich gweld chi’n chwerthin, a’ch bod yn aml yn hapus, bydd yn gwneud iddo deimlo’n gartrefol. Gall helpu i dorri’r iâ. Gall helpu plant i ymlacio’n araf, a dechrau rhannu eu teimladau.
6. dewch o hyd i ffordd o dorri’r iâ a dod o hyd i bethau sy’n gyffredin rhyngoch.
Pan ddaw plentyn i fyw gyda chi, fe gewch chi’r holl wybodaeth gefndirol amdano – gall hyn gynnwys ei hoff fwyd, ei hoffterau, a’i gas bethau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch chi’n ceisio cael sgyrsiau gydag ef i geisio’i annog i rannu teimladau â chi. Dewch o hyd i bethau sy’n gyffredin rhyngoch o ran pethau mae’n eu hoffi neu’n eu casáu. Pa anifeiliaid mae’n eu hoffi, pa fwyd neu brydau mae’n eu caru, hoff raglenni teledu, hobïau, etc. Dewch i adnabod y plentyn ond peidiwch â gofyn gormod o gwestiynau. Gall mynd ar deithiau cerdded neu deithiau car fod yn amser da i gael sgyrsiau oherwydd bod plant yn tueddu i rannu mwy pan nad yw’r ffocws ar siarad wyneb yn wyneb.
7. byddwch yn agored!
Os cewch gyfle i gwrdd â’r rhieni biolegol, mae’n bwysig bod yn agored a pheidio â barnu pobl. Peidiwch ag edrych i lawr arnyn nhw na gwneud unrhyw sylwadau dirmygus – er gwaethaf y penderfyniadau maen nhw wedi’u gwneud a’r bywyd maen nhw wedi’i dewis. Yn y bôn, nhw yw rhieni’r plentyn(/plant), a gall dangos perthynas dda rhyngoch chi i gyd gael dylanwad cadarnhaol ar y plant. Mae hefyd yn werth bod yn agored gyda’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw. Er y gallai plentyn fod yn oedran penodol, gall weithredu fel plentyn llawer iau felly mae’n syniad da peidio â gwneud penderfyniad bob amser ynghylch a ddylid gofalu am blentyn neu berson ifanc yn seiliedig ar ei oedran yn unig.
8. Gwnewch ffrindiau â gofalwyr maeth eraill!
Argymhellir yn bendant i fynd yn ffrindiau â gofalwyr maeth eraill. Pam? Oherwydd eu bod yn deall. Gallant roi cyngor a chefnogaeth wych i chi. Gall hefyd fod o fudd i’ch plant eich hun neu i’r plant rydych chi’n eu maethu. Gallant hefyd feithrin cyfeillgarwch â’i gilydd. Mae cymryd rhan mewn grwpiau a digwyddiadau cymorth yn ffordd wych o sefydlu cyfeillgarwch a chryfhau eich rhwydwaith cymorth.
9. mae cefnogaeth yn allweddol!
Ar adegau, gall maethu fod yn heriol ac yn anrhagweladwy. Dyna’r rheswm pam y bydd ein gofalwyr maeth bob amser yn pwysleisio pa mor bwysig yw cael rhwydwaith cymorth da o’ch cwmpas. Gall hyn fod yn ffrindiau neu’n aelodau o’r teulu (neu’r ddau). Gallant fod o gymorth mawr i chi, p’un a yw hynny’n cynnwys:
- cludo plentyn i’r ysgol, ei gasglu, mynd ag ef i weithgareddau ar ôl ysgol
- cymorth mewn argyfwng
- rhoi cyfle i chi gael seibiant, boed hynny am ychydig oriau, am noson neu am benwythnos.
Mae hefyd yn hynod fuddiol fynd yn ffrindiau â gofalwyr maeth eraill. Er na fydd pobl eraill wir yn deall yr hyn rydych chi’n ei brofi, mae gofalwyr maeth yn ei ddeall yn llwyr. Bydd gallu sgwrsio â gofalwyr maeth eraill a chael eu cyngor a’u harweiniad yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol. Mae’n aml yn arwain at gyfeillgarwch gydol oes. Mae gofalwyr maeth hefyd yn eich cynghori i fanteisio ar yr holl gymorth a gynigir gan eich gwasanaeth maethu.
10. Peidiwch ag anghofio amdanoch chi’ch hun!
Mae’n hawdd iawn canolbwyntio ar blentyn sy’n byw gyda chi ond mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dal i gael amser i’ch hun pan allwch chi. Mae gofalwyr maeth yn dal i gael hwyl, cwrdd â ffrindiau, a chael seibiant. Mae’n bwysig iawn cadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Dyna’r rheswm pam ei bod yn bwysig adeiladu rhwydwaith cefnogaeth cryf o’ch cwmpas. Gallai hyn gynnwys teulu a ffrindiau ond hefyd gofalwyr maeth. Pan fyddant yn cynnig helpu, cofiwch dderbyn eu cynnig! Gallwch wirio cynifer o ffrindiau a theulu ag y dymunwch â’r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ddiogel i ofalu am y plant sydd wedi’u lleoli gyda chi.
allwch chi gyfrannu rhywbeth?
Mae Maethu Cymru Abertawe yn chwilio am bobl i fod yn rhan o gymuned sy’n annog ac yn hyrwyddo ein plant mewn gofal maeth, i’w cefnogi i fod â dyheadau uchel ac anelu’n uchel. Nid oes y fath beth â gofalwr maeth delfrydol, dim ond mwy o bobl sy’n gallu cynnig cartrefi cariadus i blant lleol.
Gall pawb gyfrannu rhywbeth o ran gofal maeth awdurdodau lleol a sicrhau bod gan y rheini sydd ei angen, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, ddyfodol gwahanol a mwy disglair.
Mae maethu’n hyblyg; mae cynifer o ffyrdd o faethu, ac mae pob un yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant. Gallwch gynnig ambell i noswaith y mis drwy ddarparu seibiannau byr neu seibiant, gallech ofalu am blant yn y tymor byr neu’r tymor hir, neu gallech gynnig lleoliadau i rieni a phlant.
Beth bynnag yw eich amgylchiadau presennol, gall maethu gyd-fynd â’ch bywyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses o ddod yn ofalwr maeth, gwyliwch y fideo canlynol.
cysylltu
Os hoffech siarad ag aelod o’n tîm profiadol, a’ch bod yn byw yn Abertawe, anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ond y tu allan i Abertawe, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion cyswllt ar gyfer timau maethu’r awdurdodau lleol.