pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Abertawe, gallwch dderbyn rhwng £393.11 and £873.57 yr wythnos, am bob plentyn. Mae hyn yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu y byddwch chi’n ei wneud, faint o blant y byddwch chi’n eu maethu, ac am ba hyd y byddwch chi’n maethu.

manteision eraill

Mae bod yn ofalwr maeth yn arwain at lu o fanteision. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y byddwch yn eu cael, byddwch hefyd yn cael y canlynol yn Abertawe:

 

  • Cynllun cyfeillio – mae gofalwyr newydd yn cael eu cysylltu â gofalwyr maeth profiadol sy’n gallu darparu cefnogaeth ac arweiniad iddyn nhw.
  • Grwpiau cefnogi ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys gweithgareddau rheolaidd am ddim i blant y gofalwyr eu hunain.
  • Lwfansau ychwanegol ar gyfer pen-blwyddi, gwyliau a Nadolig.
  • Mae taliadau maethu yn parhau hyd yn oed pan na fydd plant yn cael eu lleoli. Os ydych chi ar gael i faethu, byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich gwobrwyo’n ariannol.
  • Mynediad at weithiwr cynghori a chyfryngu annibynnol.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ac mae mwy! Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision i’n holl ofalwyr maeth. Felly, fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

young-boy-with-scooter-and-male-foster-carer

un tîm

Rydych chi i gyd yn rhan o un tîm ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, bob amser. Mae’r ffocws cysylltiedig hwn yn sicrhau bod gan y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth, y rhwydwaith cefnogi gorau posibl a’r holl fanteision a ddaw yn sgil hyn. Fel gofalwr maeth, byddwch chi’n cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu.

Fel aelod o dîm, byddwch chi’n gweithio gyda’r rheini sy’n gyfrifol am bob plentyn mewn gofal maeth ledled Cymru. Byddwch chi’n helpu plant i aros yn eu hardaloedd lleol, sy’n rhywbeth rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Hyn sy’n gwneud y tîm hwn yn wahanol i bob tîm arall.

man and teenage boy cooking

dysgu a datblygu

Rydyn ni’n eich helpu i dyfu gyda’n pecyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi a’i rannu – mantais sydd ar gael ledled Cymru. Mae dysgu a thyfu yn elfennau pwysig o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Rydyn ni’n darparu sgiliau hanfodol ac adnoddau hyfforddi i’ch helpu i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a chymwys, er mwyn i chi allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu hefyd. Bydd hyn yn cofnodi’r cynnydd rydych chi’n ei wneud ac yn cofnodi cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

woman hugging teenage girl

cefnogaeth

Mae ein tîm Maethu Cymru Abertawe bob amser ar gael i’ch cefnogi a’ch annog – dydych chi byth ar eich pen eich hun. Bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol ymroddedig a phroffesiynol i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

Hefyd, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o grwpiau cefnogi. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth eraill. Cyfle i siarad, gwrando a rhannu eich profiadau â phobl sydd yn yr un sefyllfa â chi. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan bob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n gofalwyr maeth, sy’n golygu ein bod ni bob amser yma i’ch cefnogi chi. Pryd bynnag y bydd ein hangen arnoch chi, byddwn ni yno.

family on a walk

y gymuned faethu

Bydd y gymuned faethu yn eich cysylltu chi â theuluoedd maeth eraill. Bydd cyfleoedd i fynychu digwyddiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn rhoi profiadau newydd i chi. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd ac yn creu atgofion newydd.

Hefyd, byddwch chi’n gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni’n talu i chi fod yn aelod o ddau sefydliad maethu arbenigol, sef y Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi pa mor wirioneddol fuddiol yw’r manteision: y gefnogaeth annibynnol, y cyngor preifat, yr arweiniad a’r buddion ychwanegol.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

llunio’r dyfodol

Mae gan bob plentyn orffennol, ond rydyn ni’n edrych ymlaen. Byddwn yn eich cefnogi i lunio’r dyfodol fel gofalwr maeth, er mwyn i chi allu darparu cartref sefydlog a llawn anogaeth i blentyn sydd ei angen.

Bydd eich barn yn cael ei chlywed ar lefel genedlaethol hefyd a bydd yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â bod yn ymwybodol o’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

young girl on walk

cymryd y cam cyntaf

cysylltwch â’ch tîm maethu cymru lleol heddiw

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.