digwyddiadau

digwyddiad gwyboadaeth

Ydych chi’n ystyried maethu? Ydych chi’n awyddus i wybod mwy?

Yn meddwl am faethu? Am gael gwybod rhagor?

Os felly, ymunwch â Maethu Cymru Abertawe yn un o’u digwyddiadau sydd ar ddod i gael rhagor o wybodaeth am faethu.

Stondinau gwybodaeth

Dewch i siarad ag aelod o Dîm Maethu Cymru Abertawe i ddarganfod beth mae maethu yn ei olygu.

  • Dydd Sadwrn 20 Mai, 10am – 4pm, Y Ganolfan Hamdden
  • Dydd Sul 21 Mai, 10am – 4pm, Y Ganolfan Hamdden
  • Dydd Sadwrn 27 Mai, 10am – 4pm, Cwadrant Abertawe

Digwyddiad ar-lein

 

  • Nos Fercher 17 Mai, 6.00-7.00pm ar Microsoft Teams

Yn ystod y digwyddiad gwybodaeth rhithwir, gallwch ddysgu mwy am faethu, yr hyn sy’n rhan o’r broses, a siarad â gofalwyr maeth ac aelodau Tîm Maethu Cymru Abertawe. Yn fwy nag erioed, mae angen teuluoedd maethu newydd arnom sydd ag ystafelloedd gwely sbâr a’r hyn y mae ei angen i newid bywydau plant a phobl ifanc lleol.

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch [email protected] gan ddarparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Neu, ffoniwch 01792 636103 a darparwch yr wybodaeth hon. Yna, byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer ein digwyddiad gwybodaeth rhithwir.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi mewn modd rhithwir ac ateb eich cwestiynau am faethu! Peidiwch ag anghofio’ch paned!

cysylltwch â maethu cymru abertawe

Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE
Call 0300 555 0111

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon

meddwl am faethu yn abertawe