blog

cwestiynau cyffredin: pwy all faethu?

Mae llawer o fythau ynghylch pwy all faethu neu beidio yn bodoli o hyd. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o rwystrau sy’n atal pobl rhag maethu. Isod ceir atebion i nifer o’r cwestiynau cyffredin y mae pobl yn eu gofyn ynghylch pwy all faethu. Gobeithio y bydd hyn yn helpu i chwalu rhai o’r mythau ac annog rhagor o bobl i ystyried dod yn ofalwyr maeth

alla i weithio o hyd?

Gallwch, mae gennych y dewis o weithio, er mae’n dibynnu ar oed y plentyn neu’r plant sy’n dod i fyw gyda chi.

Os yw’r plentyn yn llai na phum mlwydd oed, bydd angen i o leiaf un person fod adref.

Os ydych chi’n derbyn plant o oed ysgol gorfodol yna nid oes unrhyw broblem os ydych chi am weithio, cyn belled ag y gallwch arddangos eich bod chi ar gael i wneud y canlynol:

  • gollwng plant yn yr ysgol a’u casglu
  • mynd i gyfarfodydd am y plentyn sydd wedi’i leoli gyda chi
  • mynd ag unrhyw blentyn sydd wedi’i leoli gyda chi i gael cyswllt â’i deulu biolegol

Bydd angen i chi arddangos hyblygrwydd a chefnogaeth ar gyfer gwyliau’r ysgol ac os yw plentyn yn sâl neu’n cael ei anfon adref o’r ysgol.

mae gennym anifeiliaid anwes. oes ots am hynny?

Nac oes, mae gan nifer o’n gofalwyr maeth bob math o anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, byddai unrhyw anifeiliaid sy’n byw yn yr aelwyd neu ar eich tir yn ffurfio rhan o’ch asesiad i sicrhau nad ydynt yn rhoi plant mewn unrhyw berygl.

Os oes gennych fwy na tri chi, yna bydd angen i ni drefnu i aseswr cŵn ddod i’ch tŷ i asesu ymddygiad y cŵn.

ydw i dal yn gallu mynd allan gyda ffrindiau neu ar wyliau byr?

Ydych, mae angen saib ar bawb o bryd i’w gilydd. Dylai bod gan ofalwyr maeth o leiaf dau rwydwaith cymorth y gallant ddibynnu arnynt i’w helpu, naill ai mewn argyfwng neu i roi cyfle i chi gwrdd â ffrindiau neu fynd i ffwrdd am y penwythnos. Gall eich rhwydweithiau cymorth fod yn deulu neu ffrindiau. Gyda ffrindiau, bydd angen eich bod chi’n eu hadnabod yn dda, am o leiaf dwy flynedd.

Byddai angen i ni gynnal gwiriadau cefndir ar unrhyw bobl rydych yn eu dewis fel rhwydwaith cymorth. Pwrpas hwn yw gwirio eu priodoldeb ond byddai angen i ni gael eu caniatâd yn gyntaf cyn gwneud unrhyw wiriadau.

rydw i’n gwahodd gwesteion i fy nghartref yn rheolaidd, a fyddai hynny’n fy atal rhag maethu?

Na, ni fyddai hyn yn eich atal rhag maethu cyn belled bod y plant sy’n cael eu maethu’n gyfforddus â’r sefyllfa. Gall gwahodd wynebau cyfarwydd i’r tŷ yn rheolaidd fod yn gadarnhaol iawn i blant sy’n cael eu maethu. Mae’n caniatáu iddyn nhw sefydlu rhagor o berthnasoedd cadarnhaol, ac yn rhoi cysondeb, sefydlogrwydd a chyfarwydd-deb iddynt.

Byddai angen i unrhyw ymwelwyr rheolaidd ac unrhyw oedolion sy’n aros dros nos (boed yn rheolaidd neu beidio) gael eu gwirio gan yr heddlu ymlaen llaw.

ydw i’n gallu maethu os ydw i’n smygu/defnyddio e-sigaréts neu’n yfed alcohol?

Ydych, ond anogir pawb sy’n gwneud cais i faethu i roi’r gorau i smygu/ddefnyddio e-sigaréts, a byddai angen i ni asesu faint o alcohol sy’n cael ei yfed a pha mor aml rydych yn ei yfed. Ni ddylai yfed alcohol eich atal rhag cyflawni’r holl dasgau sy’n ofynnol gan ofalwr maeth.

Ni chaiff plant sy’n llai na pum mlwydd oed, a’r rheini sydd â phroblemau resbiradol eu lleoli mewn aelwydydd gyda’r rheini sy’n smygu/defnyddio e-sigaréts. Bydd angen eich bod chi wedi rhoi’r gorau i smygu am 12 mis erbyn cyfnod cwblhau eich asesiad er mwyn maethu plant sy’n llai na phum mlwydd oed.

Disgwylir i bob gofalwr maeth gydymffurfio â pholisi smygu Maethu Cymru Abertawe a bydd angen i ymgeiswyr arddangos gallu i wneud hynny.

alla i fod yn rhiant maeth os ydw i’n byw ar fy mhen fy hun?

Gallwch! Nid yw byw ar eich pen eich hun yn broblem na’n rhwystr. Mae gennym nifer o ofalwyr maeth sengl – i ddweud y gwir, mae bron 30% o’n gofalwyr maeth presennol yn sengl!

a fyddwch chi’n cysylltu â chyn-bartneriaid? beth sy’n digwydd os nad oedd y berthynas wedi dod i ben yn dda?

Ydyn, rydym yn cysylltu â chyn-bartneriaid arwyddocaol fel rhan o’ch asesiad. Gwneir hyn i gasglu gwybodaeth amdanoch chi a’i chadarnhau yn unig.

Rydym yn cydnabod y bydd amgylchiadau arbennig lle bydd geirda gan gyn-bartner yn anodd. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn asesu a yw’n briodol i wneud hynny neu beidio.

pam mae angen i chi wneud gwiriadau awdurdod lleol a hanes cyfeiriad llawn, a chael geirdaon gan gyflogwyr ym mhob man rydw i wedi gweithio?

Y rheswm y mae’r holl wiriadau hyn yn angenrheidiol yw oherwydd eu bod yn caniatáu i ni gael rhagor o fewnwelediad i ba fath o berson ydych chi.

Mae’r gwiriadau hyn yn ein helpu i benderfynu a yw maethu plant yn addas i chi.

a oes oedran sy’n cael ei ystyried yn rhy hen i faethu?

Nac oes, rhif yn unig yw oedran i ni. Cyn belled â’ch bod chi dros 18 mlwydd oed, yr unig beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n ystyried eich bod chi’n addas i faethu, ac nid oes unrhyw broblemau iechyd sy’n eich atal rhag gwneud yr hyn sy’n ofynnol gan ofalwr maeth.

nid wyf yn gyrru. ydw i’n gallu maethu o hyd?

Mae’r gallu i yrru’n ofynnol er mwyn bod yn ofalwr maeth. Mae hyn oherwydd mae angen i ofalwyr maeth cludo plant i’r ysgol ac oddi yno, mynd â nhw i amser teulu a bod yn bresennol mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â’r plentyn.

Os ydych chi mewn aelwyd gyda dau ofalwr ac nid oes un ohonoch yn gyrru, cyn belled â’ch bod chi’n gallu darparu tystiolaeth eich bod chi’n gallu cyflawni gofynion cludiant gofalwr maeth, gallwch symud ymlaen â’ch cais.

rydym yn rhentu ein cartref. ydyn ni’n gallu maethu o hyd?

Gallwch! Nid oes angen i chi berchen ar y cartref rydych yn byw ynddo i faethu. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw ceisio caniatâd gan eich landlord.

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol i gynnig cartref diogel a chariadus iddo, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers