blog

cwestiynau cyffredin: effeithiau maethu ar eich plant eich hun

Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau gan bobl sydd â’u plant eu hunain yn byw gartref. Yn ddealladwy, maen nhw’n poeni ac weithiau’n bryderus am yr effeithiau y bydd dod yn deulu maeth yn eu cael arnyn nhw, waeth beth fo’u hoedran.

Isod ceir cwestiynau a ofynnir yn aml i ni mewn perthynas â phlant yr ymgeiswyr eu hunain. Rydym yn gobeithio y bydd yr atebion yn helpu i leddfu unrhyw bryderon a allai fod gennych.

pa gymorth sydd ar gael i’m plentyn/plant biolegol?

Pan gewch eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, clustnodir gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol neilltuedig i chi sydd yno i’ch cefnogi chi a’ch plentyn/plant. Gall eich cyfeirio at amrywiaeth o adnoddau defnyddiol.

Mae eich plant eich hun hefyd yn rhan o’r asesiad sy’n caniatáu i ni ddarganfod a ydynt yn hapus â’r syniad o ddod yn deulu maeth ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r hyn y mae’r cyfan yn ei olygu.

Mae gennym grŵp cefnogi ar gyfer y meibion a’r merched iau lle mae’r tîm yn mynd â nhw allan i lefydd fel Fferm Clun, Limitless, Buzz a Cinema & Co 4/5 gwaith y flwyddyn. Mae’n gyfle i ni gydnabod a dathlu eu cyflawniadau a’r rôl hollbwysig maen nhw’n ei chwarae fel rhan o deulu maethu. Fodd bynnag, mae hefyd yn gyfle iddynt gwrdd â meibion a merched eraill sydd hefyd mewn sefyllfa unigryw i ddeall sut beth yw bod yn rhan o deulu maethu.

sut bydd yn effeithio ar fy mhlant fy hun?

Mae’n naturiol i chi boeni am sut bydd maethu’n effeithio ar eich plant eich hun ond maen nhw hefyd wedi’u cynnwys yn yr asesiad maethu. Gall y gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu ddarganfod a yw eich plant yn hapus i ddod yn deulu maeth ac a ydynt yn barod i wneud hynny.

Yn naturiol, bydd y naws yn eich cartref yn newid pan ddaw plentyn maeth i fyw gyda chi. Bydd yn rhaid i’ch plant rannu eu cartref gyda rhywun arall. Fodd bynnag, drwy’r broses asesu a hyfforddiant cyn cymeradwyo, byddwch yn deall y newidiadau posib y gallai fod angen i chi eu gwneud a byddwn yn sicrhau eich bod chi a’ch plant mor barod ag y gallwch fod.

Gall dod yn frawd neu chwaer maeth fod mor fuddiol i’ch plant eich hun. Mae ein gofalwyr maeth yn aml yn dweud wrthym pa mor gadarnhaol y mae maethu wedi bod i’w plant eu hunain, yn enwedig o ran eu datblygiad ac o ran tosturi ac empathi.

Mae wedi gwneud iddyn nhw ddeall a gwerthfawrogi pethau’n fwy. Maent yn dysgu am gwmnïaeth, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o hunanwerth wrth iddynt rannu eu cartrefi a’u teulu â phlant sydd eu hangen.

Mae gennym dros 60 o ofalwyr maeth y mae eu plant eu hunain yn byw gyda nhw. Yn ystod eich asesiad, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’n gofalwyr maeth a all gynnig cymorth a chyngor i chi. Nid ydych byth ar eich pen eich hun.

Os byddwch yn teimlo ar unrhyw adeg bod angen cymorth ar eich plentyn/plant eich hun, gallwn ddarparu hyn ar ei gyfer/eu cyfer. Rydyn ni’n neilltuo amser i siarad â’ch plant eich hun a chlywed ganddyn nhw fel rhan o’r sesiynau goruchwylio ac adolygiadau blynyddol y mae gofalwyr maeth yn eu cynnal. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i deimlo’n hapus ac yn gyfforddus gyda’r syniad o faethu.

a allwn ni faethu plant sy’n iau na’n rhai ni?

Gallwch! Yn ystod eich asesiad, bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n eich asesu yn trafod hyn gyda chi a’ch teulu. Bydd yn gweithio allan beth yw’ch sgiliau a’ch galluoedd a pha ystod oedran a allai fod fwyaf addas i’ch teulu.

Rydyn ni fel arfer yn dweud bod gofalu am blant sy’n iau na’ch rhai chi yn well, ond mae’r cyfan yn dibynnu ar amgylchiadau unigol yn ogystal ag anghenion y plant sy’n derbyn gofal ac anghenion eich plant eich hun. Dyna pam mae paru da yn allweddol.

Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr maeth yn cael eu cymeradwyo ar gyfer plant 0-18 oed, ond mae’n well gan rai ddewis ystod oedran penodol.

ydy ein plant ein hunain yn cael rhannu ystafell wely?

Os oes gan eich plant eich hun eu hystafelloedd gwely eu hunain ar hyn o bryd, ond yr hoffech iddynt rannu un i greu’r ystafell sbâr, yna ni fyddem yn gallu cefnogi hyn.

Nid ydym yn annog teuluoedd i newid eu trefniadau eu hunain er mwyn gallu maethu. Fodd bynnag, os yw eich plant eich hun yn rhannu ystafell wely ar hyn o bryd ac mae ystafell sbâr ar gael, byddai angen gwirio a yw hyn yn addas yn y dyfodol wrth i’r plant dyfu.

ydy fy mhlant fy hun a phlant maeth yn cael rhannu ystafell wely?

Nac ydyn, ni chaniateir iddynt rannu ystafell wely. Rhaid i’ch plant eich hun a’r plant yr ydych yn eu maethu fod mewn ystafelloedd ar wahân.

Os ydych yn maethu grŵp o frodyr a chwiorydd, caniateir iddynt rannu ystafell wely, ond dim ond os ydynt dan wyth oed ac o rywiau gwahanol.

Gall brodyr a chwiorydd hŷn o’r un rhyw rannu os ydynt yn dymuno/yn gallu gwneud hynny. Ar gyfer plant mewn lleoliad tymor hir, byddem am i frodyr a chwiorydd gael yr opsiwn i rannu eu hystafelloedd gwely eu hunain wrth iddynt fynd yn hŷn.

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol a chynnig cartref diogel a chariadus iddynt, cysylltwch â ni i gael rhagor

Story Time

Stories From Our Carers