blog

💷 tâl gofalwyr maeth: gadewch i ni siarad am arian

Arian. Dyma’r mater mwyaf lletchwith i’w drafod mewn perthynas â maethu. Mae pobl yn aml yn teimlo’n lletchwith yn gofyn amdano, ac yn poeni y gallai ymddangos yn hunanol neu’n amhriodol. Ond y peth yw: mae gofalwyr maeth yn cael eu talu – ac mae’n iawn siarad amdano.

P’un a ydych newydd ddechrau archwilio maethu neu wedi hen ddechrau ar y broses benderfynu, mae deall yr ochr ariannol yn hanfodol. Felly, gadewch i ni drafod y pwnc ac ymchwilio i’r hyn y gall gofalwyr maeth yn Abertawe ei ddisgwyl o ran tâl a chymorth.

a yw’n anghywir gofyn am arian?

Dim o gwbl. Er bod maethu yn seiliedig ar dosturi a’r awydd i newid bywydau plant lleol, mae hefyd yn ymrwymiad sy’n effeithio ar eich aelwyd. Mae gwybod sut mae maethu yn cyd-fynd â’ch bywyd ariannol yn ymarferol ac yn gyfrifol.

Mae talu ein gofalwyr maeth yn rhan o’r gefnogaeth rydym yn ei darparu i ofalwyr maeth fel y gallant ddarparu’r gofal gorau posib i blant lleol, ond nid ydym eisiau i bobl ddibynnu ar incwm maethu yn unig.

Yn ystod eich asesiad, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn sgwrsio â chi am eich incwm, eich treuliau, a’r cymorth ariannol y byddwch yn ei dderbyn. Mae’r cyfan yn rhan o wneud yn siŵr bod maethu yn gweithio i chi a’ch teulu.

oes rhaid i chi gael arian i faethu?

Nac oes. Nid oes angen plasty neu lawer o gynilion arnoch. Yr hyn sydd bwysicaf yw’r cariad, y cynhesrwydd a’r sefydlogrwydd y gallwch eu cynnig i blentyn lleol.

sut mae tâl gofalwr maeth yn gweithio?

Mae’n bwysig eich bod yn cael eich cydnabod a’ch gwobrwyo’n ariannol am yr amser rydych yn ei neilltuo i gefnogi’r plant yn eich gofal a chreu amgylchedd teuluol diogel iddynt.

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gofalu am blentyn neu berson ifanc, byddwch yn cael eich talu. 

Lwfans Plentyn

Fe’i telir yn wythnosol, a byddwch yn ei dderbyn ar gyfer pob plentyn yn eich gofal. Mae’r swm rydych yn ei dderbyn yn dibynnu ar oedran y plentyn. Dylid gwario’r lwfans plentyn ar y plentyn ac i helpu i dalu’r costau o ofalu am y plentyn.

Ffi gofalwr maeth

Fe’i telir yn wythnosol, a byddwch yn ei dderbyn ar gyfer pob plentyn yn eich gofal. Ffi sefydlog ydyw ac nid yw’n dibynnu ar oedran. Mae’r ffi gofalwr yn cydnabod y sgiliau, yr hyfforddiant, yr amser a’r ymroddiad y mae eu hangen i ofalu am bob plentyn sydd yn eich gofal.

Yn y bĂ´n, rydym am i chi deimlo’n sicr yn ariannol pan fyddwch chi’n ofalwr maeth gyda ni, fel y gallwch ganolbwyntio eich sylw ar ddarparu gofal gwych a mwynhau ansawdd bywyd da. Dyna pam rydym yn talu mwy na’r lwfansau wythnosol a argymhellir gan Lywodraeth Cymru.

sut dylid gwario’r arian?

Mae’r elfen lwfans plant o’r hyn a delir i ofalwyr maeth yn mynd tuag at y costau beunyddiol o ofalu am blentyn. Ei fwriad yw diwallu holl anghenion eich plentyn maeth megis:

  • Dillad ar gyfer y plentyn
  • Bwyd ar gyfer y plentyn
  • Biliau aelwyd
  • Cludiant
  • Gweithgareddau
  • Arian poced
  • Cynilion

Mae’r ffi gofalwr maeth yn cydnabod eich sgiliau, eich hyfforddiant a’ch profiad felly chi sy’n penderfynu sut i’w gwario. Nid oes angen i ofalwyr maeth gadw derbynebau na chadw cofnod o sut mae’r arian yn cael ei wario.

faint o arian fydda i’n cael fy nhalu?

Yr isafswm y mae ein gofalwyr maeth yn ei dderbyn yw ÂŁ442 yr wythnos, fesul plentyn (di-dreth).  Mae hyn yn seiliedig ar ofalu am un plentyn yn unig ac nid yw’n cynnwys y taliadau ychwanegol rydyn ni’n eu darparu i’n gofalwyr ar gyfer penblwyddi, gwyliau, gwyliau crefyddol a’r Nadolig.

sut mae gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Rydym yn talu ein gofalwyr maeth bob pythefnos drwy daliad BACS yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

faint o blant allwch chi eu maethu?

Uchafswm nifer y plant y gallwch eu maethu ar unrhyw adeg yw tri, oni bai fod eithriad ar waith er budd gorau’r plentyn neu’r grŵp o siblingiaid.

taliadau ychwanegol ar gyfer achlysuron arbennig

Rhoddir taliadau untro i ofalwyr maeth ar gyfer pob plentyn yn eu gofal am y canlynol:

  • Pen-blwydd = ÂŁ100-ÂŁ200
  • Y Nadolig = ÂŁ150-ÂŁ250
  • Gwyliau = ÂŁ203.97-ÂŁ331.88
  • Gwyliau crefyddol = ÂŁ150-ÂŁ200

Mae’r cymorth ariannol ychwanegol hwn yn helpu i wneud dathliadau yn gofiadwy i bob plentyn yn eich gofal.

ydych chi’n cael eich talu am gostau teithio?

Mae canran o lwfans y plentyn ar gyfer talu am deithiau lleol, megis teithiau byr beunyddiol.

Fodd bynnag, os ydych yn teithio ymhellach, gallwch hawlio milltiroedd yn Ă´l cost y filltir. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn teithio dros 20 milltir yn aml.

allwch chi hawlio am unrhyw offer neu gostau ychwanegol?

Nid yw’r tâl a roddir i chi yn gyffredinol yn ddigon i dalu am rai o’r treuliau rydych chi’n mynd iddynt wrth ofalu am blant, ac yn yr achosion hynny, efallai y gallwch hawlio unrhyw gostau ychwanegol yn Ă´l.

Offer ar gyfer babanod

Byddwn yn cynorthwyo gyda’r canlynol os ydych yn maethu babanod:

  • Matres – gallwch hawlio un newydd ar gyfer pob baban rydych yn gofalu amdano
  • Seddi ceir – byddwn yn disodli’r rhain pan fydd y sedd yn cyrraedd ei dyddiad dod i ben (fel arfer o fewn 4-7 mlynedd)
  • Pramiau dwbl / triphlyg – os oes angen y math hwn o bram ar ofalwr maeth, byddwn naill ai’n talu am fodel safonol neu’n cyfrannu’r un swm os bydd gofalwr maeth yn dewis model premiwm.

Offer ar gyfer anableddau

Os ydych chi’n gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol y mae angen offer arbenigol arno, yna byddwn yn cynorthwyo gyda hyn.

Costau brys / eithriadol

Gallwch hawlio costau brys neu eithriadol pan fyddwch yn cytuno i ofalu am grŵp o blant neu siblingiaid mewn argyfwng neu pan fyddant yn cyrraedd eich cartref heb lawer o eiddo neu ddim eiddo o gwbl.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae hyn ar gael i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ac sy’n mynychu ysgol yn Abertawe. Gellir gwario’r grant ar wisg ysgol, cit chwaraeon ysgol, teithiau ysgol, offer TG ac offer cyffredinol megis bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu. Y cyllid sydd ar gael ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc bob blwyddyn yw ÂŁ125 ac eithrio’r rheini ym Mlwyddyn 7, y bydd ganddynt hawl i ÂŁ200.

beth os oes cyfnodau lle nad oes unrhyw blentyn yn byw gyda chi?

Bydd pob gofalwr maeth yn derbyn taliad gofalwr wythnosol (cyfeirir ato fel tâl cadw) pan nad oes plentyn wedi’i leoli gydag ef. Fodd bynnag, mae hyn ar yr amod bod y gofalwr ar gael i dderbyn lleoliadau a’i fod yn hyblyg gydag oedran y plant y bydd yn eu maethu (0-18, 5-18, 0-11 neu 11-18 oed).

Gwneir y taliadau hyn fel bod gofalwyr maeth yn cael tawelwch meddwl gan wybod y bydd ganddynt ryw fath o incwm rheolaidd.

Yn gyffredinol, nid oes gan y rhan fwyaf o’n gofalwyr maeth lawer o fwlch rhwng lleoliadau – nid oes gan rai ohonynt fwlch o gwbl – oni bai eu bod yn gwneud cais penodol am seibiant. Mewn gwirionedd, rydym yn chwilio am leoliadau maeth ar gyfer plant lleol yn barhaol felly nid yw ein gofalwyr maeth yn aros yn hir. Fodd bynnag, bydd achlysuron lle mae rhai gofalwyr maeth yn aros am gyfnod byr, ond yn aml mae rhesymau penodol dros hyn, megis:

  • Paru ochr yn ochr â phlant gofalwyr maeth neu blant maeth eraill yn yr aelwyd
  • Lleoliad
  • Y math o faethu rydych yn ei ddarparu
  • Ystod oedran cyfyngedig

Ni fyddwch yn derbyn tâl cadw os nad ydych yn derbyn lleoliadau yr ydym yn credu/yn gwybod eu bod yn cyfateb i’ch sgiliau a’ch galluoedd. 

oes rhaid i mi gynilo ar gyfer plentyn maeth?

Ar gyfer pob plentyn sydd yn eich gofal, mae pum punt yn cael ei dynnu’n awtomatig bob wythnos o’r lwfans plentyn. Caiff ei roi mewn cyfrif cynilo y bydd Cyngor Abertawe’n ei sefydlu ar gyfer y plentyn. Mae’r cynilion yn enw’r plentyn ei hun a byddant yn parhau i fod yn enw’r plentyn os yw’n dychwelyd adref, yn symud i leoliad gyda gwahanol ofalwyr, neu’n cyrraedd oedolaeth.

Yn amlwg, os yw plentyn yn cael ei leoli gyda chi ar sail tymor hir, efallai y byddwch yn penderfynu agor cyfrif cynilo ar wahân iddo.

oes rhaid i fi roi arian poced i blentyn maeth?

Nid yw rhoi arian poced i blentyn maeth yn ymwneud â rhoi arian iddo yn unig – mae’n ymwneud ag addysgu sgiliau bywyd gwerthfawr. O gyllidebu a chynilo i ddeall gwerth arian, mae arian poced yn helpu plant i fagu hyder ac i fod yn annibynnol. Mae’n gam bach tuag at allu rheoli arian, a gall wneud gwahaniaeth mawr yn eu datblygiad.

Pryd ddylai ddechrau?

Cynghorir yn gyffredinol fod plant maeth yn dechrau derbyn arian poced o oddeutu pum mlwydd oed. Fel arfer, cytunir ar yr union oedran a’r swm rhwng y gofalwr maeth a gweithiwr cymdeithasol y plentyn, yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau’r plentyn.

Mae tegwch yn Allweddol

Dylai plant maeth dderbyn yr un swm o arian poced ag unrhyw blentyn arall yn yr aelwyd sydd o oedran tebyg – boed hynny’n blentyn maeth arall neu’n blentyn y gofalwr ei hun. Mae cydraddoldeb a thegwch yn hanfodol ar gyfer creu amgylchedd cartref meithringar a chynhwysol.

O ble mae’r arian yn dod?

Mae’r lwfans plant wythnosol a delir i ofalwyr maeth yn cynnwys elfen a fwriedir ar gyfer arian poced.

a yw gofalwyr maeth yn cael eu hystyried yn weithwyr?

Nac ydyn. Er bod gofalwyr maeth yn derbyn taliadau yn uniongyrchol gan Gyngor Abertawe, maent yn cael eu hystyried yn hunangyflogedig yn swyddogol.

Mae’r statws hwn yn adlewyrchu natur hyblyg ac amrywiol maethu. Mae pob taith faethu yn wahanol, ac mae’r tâl y mae gofalwr maeth yn ei dderbyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, megis:

  • P’un a yw’n darparu gofal seibiant neu’n maethu ar sail amser llawn, gyda’r gallu i newid rhwng y ddau neu newid y math o faethu y mae’n ei gynnig
  • Mae maethu yn ymwneud â phawb sy’n byw yn yr aelwyd
  • Gofalwyr maeth yn cymryd seibiannau rhag maethu
  • Gofalwyr maeth yn gwrthod lleoliadau nad ydynt yn addas

Oherwydd yr amrywiadau hyn, mae bod yn hunangyflogedig yn rhoi rhyddid i ofalwyr maeth addasu eu rĂ´l i weddu i’w bywydau a’u hamgylchiadau.

Ac os ydych chi’n newydd i hyn i gyd – peidiwch â phoeni. Mae cofrestru fel hunangyflogedig yn syml ac yn hawdd ei wneud. Ar Ă´l i chi gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, bydd angen i chi gofrestru fel hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EF ar gyfer hunanasesiad Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

a yw gofalwyr maeth yn cael eu trethu?

Gan fod gofalwyr maeth yn cael eu hystyried yn hunangyflogedig, mae’n golygu nad yw’r mwyafrif yn talu unrhyw dreth o gwbl – mae hyn yn sicr yn wir am y mwyafrif o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe. 

Mae angen i ofalwyr maeth ennill mwy na ÂŁ19,360 cyn iddynt gael eu trethu o gwbl – dyma’r lwfans treth sylfaenol.

Fodd bynnag, mae gofalwyr maeth hefyd yn cael rhyddhad treth (cyfeirir ato fel Rhyddhad Gofal Cymwys) am bob wythnos y mae plentyn yn eu gofal, a dyna pam ychydig iawn o ofalwyr maeth sy’n talu treth ar eu henillion o faethu.

Mae swm wythnosol y rhyddhad treth yn dibynnu ar oedran y plentyn maeth yn eich gofal:

  • Ar gyfer pob plentyn dan 11 oed yn eich gofal, byddwch yn elwa o ryddhad treth o ÂŁ405 yr wythnos.
  • Ar gyfer pob plentyn 11 oed neu’n hĹ·n yn eich gofal, byddwch yn elwa o ryddhad treth o ÂŁ485 yr wythnos.

Enghraifft

Ni fyddwch yn talu unrhyw dreth os byddwch yn derbyn llai na:

  • ÂŁ40,420 y flwyddyn, fesul plentyn dan 11 oed
  • ÂŁ44,580 y flwyddyn, fesul plentyn 11 oed ac yn hĹ·n.

Felly, yn syml, mae’r trothwy Rhyddhad Gofal Cymwys yn hynod hael.

Y cyfan y mae angen i ofalwyr maeth ei wneud yw cyflwyno hunanasesiad syml bob blwyddyn sy’n cyfrifo os oes unrhyw dreth yn ddyledus gennych. Nid oes angen cyfrifon na derbynebau manwl o dan y cynllun hwn. Mewn gwirionedd, dim ond nifer bach o ofalwyr maeth sy’n talu unrhyw dreth o ganlyniad i fynd dros y trothwy treth.

  • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am lenwi eich ffurflen dreth ar wefan y Llywodraeth.

a yw gofalwyr maeth yn talu yswiriant gwladol?

Mae’n rhaid i ofalwyr maeth gofrestru ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (Dosbarth 2). Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r cyfraniadau hyn os nad oes gennych elw trethadwy o faethu, neu os yw eich elw trethadwy yn llai na ÂŁ12,570 (2024/25).

Gan fod gofalwyr maeth yn annhebygol o fynd y tu hwnt i elw trethadwy o ÂŁ12,570 neu fwy, maent yn gymwys am Gredydau Yswiriant Gwladol (Dosbarth 3). Mae’r credydau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, yn diogelu eich hawl i fudd-daliadau gwladwriaethol penodol, ac yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch wneud cais am Gredyd Yswiriant Gwladol ar gyfer pob wythnos rydych yn cael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth. Gallwch wneud hyn ar ddiwedd pob blwyddyn dreth drwy lenwi ffurflen CF411A a chyflwyno llythyr oddi wrth Faethu Cymru Abertawe i gadarnhau eich bod wedi cael eich cymeradwyo i fod yn ofalwr maeth ar gyfer y flwyddyn dreth. Mae credydau Dosbarth 3 yn cyfrif tuag at bensiwn sylfaenol ac ychwanegol y wladwriaeth.

Efallai y bydd yn rhaid i rai gofalwyr maeth dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 os ydynt yn mynd y tu hwnt i drothwy elw penodol o ganlyniad i’w henillion gofal maeth hunangyflogedig.

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, rydych fel arfer yn rhoi’r gorau i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yn oed os ydych yn cael eich talu i faethu. Yr unig eithriad i hyn yw os yw eich enillion yn uwch na throthwy elw penodol h.y. mae’n ofynnol i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.

  • Gall y Rhwydwaith Maethu gynnig cyngor ariannol am ddim i leddfu unrhyw bryderon ynghylch y pwnc hwn.

a yw gofalwyr maeth yn derbyn pensiwn gan gyngor abertawe?

Nac ydynt. Gan nad yw gofalwyr maeth yn cael eu hystyried yn weithwyr, nid ydynt yn derbyn pensiwn gan y cyngor. I’r rheini sy’n maethu’n llawn amser ac nad oes ganddynt swydd arall ochr yn ochr ag ef, argymhellir yn gryf eu bod yn ystyried sefydlu cynllun pensiwn preifat. Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yr un mor bwysig â bod yn ofalus yn y presennol, ac mae digon o opsiynau ar gael i helpu gofalwyr maeth i adeiladu diogelwch ariannol ar gyfer ymddeoliad.

a fydd maethu yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Na fydd – nid yw’r taliadau y mae gofalwyr maeth yn eu derbyn drwy faethu yn cael eu hystyried yn incwm ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried.

Nid effeithir ar y budd-daliadau gwladwriaethol canlynol:

  • Budd-dâl Tai
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl

Gan fod maethu yn cyfrif fel hunangyflogaeth, gallech fod â hawl i Gredyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant os oes gennych eich plant eich hun. Gallwch ddysgu mwy am y budd-daliadau hyn yn GOV.UK.

Yr unig eithriad yw Lwfans Ceisio Gwaith, a fydd yn cael ei effeithio os ydych yn derbyn tâl am faethu.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau am ddim i wirio’r hyn y gallai fod gennych hawl iddo.

Os ydych chi’n gwpl, yna byddai un person yn cael ei enwebu fel y prif ofalwr neu’r gofalwr arweiniol ac er bod incwm maethu yn cael ei ddiystyru ar gyfer y mwyafrif o fudd-daliadau, byddai’n rhaid datgan incymau eraill yr aelwyd, er enghraifft incwm partner, ac ni allwch dderbyn Credyd Cynhwysol os yw’ch cyfalaf (cynilion a buddsoddiadau) yn uwch na ÂŁ16,000.

Lwfans Byw i’r Anabl

Os oes gennych blentyn maeth ag anabledd y mae angen gofal ychwanegol arno neu y mae ganddo anawsterau cerdded, gallwch wneud hawliad am Lwfans Byw i’r Anabl ar ei ran.

Rhaid bod anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn yn golygu bod o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen llawer mwy o ofal arno na phlentyn o’r un oed nad oes ganddo anabledd
  • mae’n cael trafferth yn mynd o le i le

Mae’n rhaid bod y plentyn wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf 3 mis a disgwylir iddynt bara am o leiaf 6 mis.

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Byw i’r Anabl i blant yn GOV.UK

I lenwi ffurflen hawlio, cliciwch yma

a yw gofalwyr maeth yn cael gostyngiadau?

Ydyn. Gall gofalwyr maeth yn Abertawe fwynhau amrywiaeth o ostyngiadau a manteision a gynlluniwyd i wneud bywyd ychydig yn haws ac yn llawer mwy o hwyl. Dyma beth sydd ar gael:

Gostyngiadau lleol

Mae gofalwyr maeth yn derbyn cerdyn Pasbort i Hamdden, sy’n rhoi mynediad gostyngol i leoliadau diwylliannol a hamdden ledled Abertawe. P’un a yw’n nofio, amgueddfeydd, neu berfformiadau theatr, mae rhywbeth at ddant pawb.

Gweithgareddau a digwyddiadau am ddim

Drwy gydol y flwyddyn, gwahoddir teuluoedd maeth i weithgareddau a digwyddiadau am ddim – nid i blant maeth yn unig, ond i blant y gofalwyr eu hunain hefyd. Mae’r profiadau hyn yn ymwneud â chreu atgofion melys a rhoi cyfle i deuluoedd feithrin perthynas a chael hwyl gyda’i gilydd.

Manteision cenedlaethol

Caiff pob gofalwr maeth ei gofrestru’n awtomatig fel aelod o’r Rhwydwaith Maethu, sef elusen maethu fwyaf y DU. Mae aelodaeth yn cynnwys mynediad at ostyngiadau unigryw ar:

  • Ddiwrnodau mas i’r teulu
  • Gwyliau
  • Adloniant

Mae’n un ffordd arall o ddweud diolch wrth ein gofalwyr am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.

allwch chi weithio a maethu?

Gallwch – ac mae llawer o ofalwyr maeth yn gwneud hynny’n llwyddiannus. Mae maethu’n rĂ´l hyblyg ac amrywiol, sy’n golygu y gellir ei chydbwyso ochr yn ochr â chyflogaeth yn aml. Mae rhai gofalwyr yn dewis gweithio’n rhan-amser, ac mae eraill yn camu i ffwrdd o’r gwaith yn gyfan gwbl i ganolbwyntio ar faethu’n amser llawn, yn enwedig os oes ganddynt bartner sy’n gweithio.

Diolch i’r ffĂŻoedd a’r lwfansau hael a ddarperir, mae llawer o ofalwyr maeth yn canfod y gallant fforddio fod yn hollol ymroddedig i’r rĂ´l os dymunant. Mae’n well gan eraill barhau i weithio, ac mae hynny’n berffaith iawn hefyd.

 Mae gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir

Mae ein gofalwyr yn gweithio ar draws ystod eang o broffesiynau, gan gynnwys:

  • Staff y cyngor
  • Athrawon a chynorthwywyr addysgu
  • Gofalwyr ysgol
  • Peirianwyr
  • Staff y GIG
  • A llawer mwy

P’un a ydych yn gyflogedig ai peidio, gall maethu fod yn rhan o’ch bywyd – yr hyn sy’n bwysig yw dod o hyd i’r cydbwysedd cywir.

Ystyriaethau ar sail Oedran

Mae ychydig o bethau i’w cadw mewn cof yn dibynnu ar oedran y plant rydych chi’n gofalu amdanynt:

  • Plant 0-5 oed: Rhaid i rywun yn yr aelwyd fod ar gael yn amser llawn, gan nad yw’r plant hyn mewn addysg orfodol eto.
  • Plant 5 oed ac yn hĹ·n: Rhaid i rywun fod ar gael i ollwng plant yn yr ysgol a’u casglu, ac i fynychu cyfarfodydd sy’n ymwneud â gofal y plentyn.

Dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi

Mae pob teulu’n wahanol, ac efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un aelwyd yn gweithio i un arall. P’un a ydych yn parhau i weithio neu’n dewis canolbwyntio ar faethu yn unig, byddwch yn dal i dderbyn eich tâl gofalwr maeth. Mae’r cymorth ariannol hwn yno i’ch helpu i ddarparu’r gofal gorau posib, waeth beth fo’ch amgylchiadau.

Wrth gwrs, mae angen bod yn hyblyg er mwyn gallu maethu. Bydd angen amser arnoch ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd, gwyliau ysgol, ac – yn bwysicaf oll – i fod yn bresennol i’r plentyn yn eich gofal.

Os nad ydych yn siŵr sut y gallai maethu gyd-fynd â’ch bywyd gwaith, mae’r tĂ®m ym Maethu Cymru Abertawe bob amser yn hapus i gynnig cyngor ac arweiniad personol.

a yw rhai gofalwyr maeth yn cael eu talu mwy nag eraill?

Ydynt. Mae gofalwyr maeth yn derbyn gwahanol lefelau o gyflog yn dibynnu ar sawl ffactor allweddol, gan gynnwys:

  • Y math o faethu rydych yn ei ddarparu
  • Nifer y plant rydych yn gofalu amdanynt
  • Oedran y plentyn rydych yn gofalu amdano
  • Anghenion penodol plentyn

Er bod pob gofalwr maeth yn derbyn cyfradd safonol hael, mae yna hefyd ffĂŻoedd arbenigol ar gyfer y rheini a chanddynt leoliadau mwy cymhleth neu ddwys.

  1. Gofalwyr Maethu a Mwy: Mae’r gofalwyr hyn yn cefnogi plant ag anghenion uwch neu gymhleth ac yn derbyn ffi gofalwr ddwbl i adlewyrchu’r gofal a’r arbenigedd ychwanegol y mae eu hangen
  2. Gofalwyr Camu i Lawr Preswyl: Mae’r gofalwyr hyn yn croesawu pobl ifanc sy’n trosglwyddo o ofal preswyl i leoliad teuluol. Mae’n gam mawr i’r plentyn – ac yn ymrwymiad mawr i’r gofalwr – felly darperir ffi gofalwr uwch.
  3. Gofalwyr Rhieni a Phlant: Mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys un neu’r ddau riant yn byw gyda’u plentyn (babi fel arfer) yng nghartref y gofalwr maeth am oddeutu 12 wythnos. Oherwydd dwyster y trefniadau hyn, mae gofalwyr yn derbyn ffi plentyn a lwfans gofalwr ar gyfer pob unigolyn yn y lleoliad.

a yw gofalwyr maeth asiantaethau maethu preifat yn cael mwy o dâl na gofalwyr maeth awdurdodau lleol?

Er ei fod yn dybiedig fel arfer bod gofalwyr asiantaethau maethu annibynnol yn cael mwy o dâl na’r rheini sy’n maethu ar gyfer eu hawdurdod lleol, nid yw hyn yn aml yn wir. Yn ogystal, mae gofalwyr sy’n maethu gydag asiantaethau maethu annibynnol yn gofalu am y plant a’r bobl ifanc hynny nad oeddent wedi gallu cael eu lleoli’n fewnol gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol. Mae’r rhain yn tueddu i gynnwys:

  • Plant yn eu harddegau
  • Plant ag anghenion cymhleth
  • Grwpiau siblingiaid mawr
  • Rhiant a phlentyn

yn barod i ddysgu mwy?

Mae deall yr ochr ariannol i faethu yn allweddol i wneud penderfyniad hyderus a gwybodus. P’un a ydych chi newydd ddechrau archwilio’r syniad neu eich bod chi’n ystyried cymryd y cam nesaf o ddifrif, mae cael gwybodaeth glir yn eich helpu i benderfynu a yw maethu yn addas i chi a’ch teulu.

Mae’r tĂ®m ym Maethu Cymru Abertawe yma i’ch helpu gyda phob manylyn – o lwfansau a ffĂŻoedd i gymorth arbenigol ac opsiynau hyblyg. Byddant yn eich helpu i ddeall pa gymorth ariannol sydd ar gael a sut y gall weithio ar gyfer eich amgylchiadau unigryw.

Cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe – bydd y tĂ®m yn esbonio popeth.

  • Ffoniwch: 0300 555 0111

Gadewch i ni ddechrau’r sgwrs – a gweld ble y gallai maethu fynd â chi.  

Story Time

Stories From Our Carers