
Mae hanner tymor mis Chwefror yn prysur nesáu. Mae llawer o weithgareddau ar gael i blant yn Abertawe a’r cyffiniau yn ystod y cyfnod hwn.
P’un a ydych yn chwilio am rywbeth egnïol neu weithgaredd mwy tawel, rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n addas i chi a’ch teulu.
Gaeaf Llawn Lles

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Gaeaf Llawn Lles’, lle gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM y gaeaf hwn. Bydd y gweithgareddau canlynol hefyd yn mynd rhagddynt drwy gydol hanner tymor ac rydym yn siŵr na fyddwch am golli allan arnynt. Er bod aros gartref ac ymlacio’n braf ar adegau, gallai treulio ychydig oriau yn cymryd rhan yn un o’r digwyddiadau hyn i gwrdd â phlant neu deuluoedd eraill, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl fod yn newid braf i’ch trefn arferol.
Gweithgareddau beicio yn BikeAbility Wales

Cynhelir y sesiwn feicio hon i gefnogi teuluoedd, unigolion a grwpiau sy’n reidio beic am y tro cyntaf.
Lleoliad: Clwb Rygbi Dunvant, Cilâ, Abertawe
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Chwefror
Amser: 2pm -3pm
Oedran: 2 – 25 oed
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ewch i’r wefan: bikeabilitywales.org.uk
Ffôn: 07584 044284 / 07968 109145
Clwb Pêl-osgoi Parc Sgeti
Gweithgaredd hwyl, corfforol lle gallwch gyfarfod a chymdeithasu ag eraill wrth losgi llawer o egni.
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Parc Sgeti, Heather Crescent, Abertawe
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Chwefror
Amser: 4.00pm – 4.45pm
Oedran: 7-11 oed
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Drymwyr One Heart
Rythm a Chwarae – Drymio Affricanaidd, Drymio Samba, Gwneud a Chwarae, Drymio gyda Jync, arbrofion Symudiad a Sain, a gemau’n seiliedig ar rythm.
Lleoliad: Neuadd Eglwys St Catherine, Gorseinon, Abertawe
Mae’r dyddiadau’n cynnwys: 21, 22, 23 Chwefror
Yn addas i unrhyw un dan 25 oed a/neu rieni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Cutliffe yn [email protected] neu ewch i’r wefan oneheartdrummers.org
Oxfordshire Outdoors
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys: Cyfeiriannu, adeiladu cuddfannau, gweithgareddau coedwigaeth, cerdded arfordirol a dringo creigiau ym mhenrhyn Gŵyr.
Lleoliad: Canolfan Addysg Awyr Agored Maenor Cil-frwch, Parkmill
Dyddiadau: 24 a 25 Chwefror
Oedran: Yn addas i blant ysgolion cynradd sydd ym mlynyddoedd 5 a 6
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan yn [email protected]
All Sewn Up Wales
Mae All Sewn Up Wales yn cynnig gweithdai gwnïo rhagflas bach i blant, gyda gweithgareddau’n cynnwys crosio, gwnïo a brodwaith i ddysgu technegau newydd a gwella deheurwydd, sgiliau cyffredinol a lles.
Lleoliad: Neuadd Hamdden Cilâ Uchaf
Dyddiad: 26 a 27 Chwefror
Amser: dwy sesiwn bob dydd: 10.00am – 12.30pm a 1.30pm – 4.00pm
Oedran: 6+ oed. Yn addas ar gyfer pob gallu; mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Aber Taiko – Drymio Japaneaidd mewn Grŵp
Gweithdai drymio Japaneaidd i blant a phobl ifanc lle gallant ddysgu am y gelfyddyd a’i le yn niwylliant Japan; sut i ddefnyddio’r drwm; a sut i chwarae. Mae gweithgareddau’n cynnwys dysgu rhythm syml a phrofi’r teimlad o chwarae fel grŵp a gwrando ar yr holl seiniau
Lleoliad: Hwb Cymunedol y Gors, Heol-Y-Gors, Townhill
Dyddiad: 27 Chwefror
Amser: 11am-12pm
Oedran: yn addas i’r holl blant a phobl ifanc
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Rubba Bubba gyda Sara
Sesiynau chwarae cymdeithasol
Cyfle hyfryd i gwrdd â rhieni newydd ac i’ch plant bach ryngweithio â’u cyfoedion. Bydd amryw o orsafoedd synhwyraidd ar gael, cyfle i archwilio, byrbryd a diod boeth i’r rhieni hefyd.
Lleoliad: Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Penllergaer
Dyddiad: Dydd Llun 21 Chwefror
Amser: 11am – 12pm
Oedran: 0-2 oed
Lleoliad: Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Penllergaer
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Chwefror
Amser: 10am – 11.30am
Oedran: 0-2 oed
Sesiynau chwarae cymdeithasol cyn ysgol
Lleoliad: Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Penllergaer
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Chwefror
Amser: 12 – 1.30pm
Oedran: 2-4 oed
Rhaid i gyfranogwyr fyw yn Abertawe.
Am ragor o wybodaeth ewch i rubba-bubba-with-sara.class4kids.co.uk/ neu ffoniwch 07840 305339.
Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig (EYST)
Tair taith yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Oedran: yn addas i’r rheini rhwng 0 a 25 oed (gan gynnwys aelodau teulu ar gyfer grwpiau iau)
Mae gweithgareddau’n cynnwys taith gogartio, dringo creigiau dan do, taith y bydd cyfranogwyr yn penderfynu arni, PlayStation 5.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Parti ffyn gloyw hanner tymor – CanDo Connect CIC
Ar agor i unrhyw un 10+ oed sydd ag angen ychwanegol a’i frodyr a’i chwiorydd. Nodwch fod rhaid i riant/ofalwyr fod yn bresennol yn y neuadd pan fydd y sesiwn yn cael ei chynnal.
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Townhill
Dyddiad: Nos Iau 24 Chwefror
Amser: 6.00pm
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle, ewch i: sesiwn ffyn gloyw 24/2 | candohub
Air Assault UK Ltd
Sesiynau Gynnau Nerf, lle cyflenwir yr holl gyfarpar. Dewch i fwynhau!
Lleoliad: Amrywiol (New Lodge, Gorseinon; Neuadd Goffa Treforys; a Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Penllergaer)
Dyddiad: 21, 22 a 28 Chwefror
Oedran: 6-11 oed
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, ffoniwch Martin ar 07706 998574 neu e-bostiwch [email protected]
JP Dance Company Abertawe
Sesiynau dawns am ddim ar gael. Mae’r sesiynau’n cynnwys Dawnsio Stryd, Cyfoes, Bale, Jazz, Acro a hyfforddiant cystadlu. Mae croeso i ddechreuwyr! Yn addas i blant 3 – 16 oed.
Mae dosbarthiadau dawns ar gael i ddechreuwyr hyd at lefel uwch.
Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Meadowview, Townhill, Abertawe
Dyddiad: 22-26 Chwefror
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Jessica Phillips yn [email protected] neu ffoniwch 07368 377198.
Clwb Criced Tre-gŵyr
Amrywiaeth o sgiliau criced ar gyfer plant 5 – 16 oed. Gall uchafswm o 16 fynd i bob sesiwn. Gall pobl ifanc o bob lefel gallu, o ddechreuwyr i chwaraewyr medrus, fod yn bresennol
Lleoliad: Neuadd Chwaraeon Ysgol Tre-gŵyr
Dyddiad: 21 – 25 Chwefror (pedair sesiwn bob dydd)
Amserau:
- 10.00am – 11.00am: 5-16 oed (merched yn unig)
- 11.00am-12.00pm: 5-8 oed
- 1.00pm i 2.00pm: 9-11 oed
- 2.00pm i 3.00pm: 11+
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Dean Mason ar [email protected] neu ffoniwch 07976 056733.
Gymnasteg a Ffitrwydd
Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Castell-nedd
Dyddiad: Dydd Llun 21 Chwefror
Amser: 4.00pm – 5.00pm
Oedran: 5-9 oed
I archebu, ewch i www.celticleisure.org neu ffoniwch eich canolfan leol ar 08000 43 43 43.
Rygbi Tag
Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Castell-nedd
Dyddiad: Dydd Llun 21 Chwefror
Amser: 4.00pm – 5.00pm
Oedran: 5-9 oed
I archebu, ewch i www.celticleisure.org neu ffoniwch eich canolfan leol ar 08000 43 43 43.
Ioga’r Corff a’r Meddwl
Lleoliad: Canolfan Hamdden Pontardawe
Dyddiad: Dydd Llun 21 Chwefror
Amser: 4.30pm – 5.30pm
Oedran: 11-16 oed
I archebu, ewch i www.celticleisure.org neu ffoniwch eich canolfan leol ar 08000 43 43 43.
Beicio Dan Do
Lleoliad: Canolfan Hamdden Pontardawe
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Chwefror
Amser: 4.15pm – 5.00pm
Oedran: 14+ oed
I archebu, ewch i www.celticleisure.org neu ffoniwch eich canolfan leol ar 08000 43 43 43.
Ffitrwydd Paffio i bobl iau
Lleoliad: Canolfan Hamdden Pontardawe
Dyddiad: 24 Chwefror
Amser: 4.30pm-5.30pm
Oedran: 11-16 oed
I archebu, ewch i www.celticleisure.org neu ffoniwch eich canolfan leol ar 08000 43 43 43.
Gweithdai Shine Drama
Sesiynau drama i blant sy’n meithrin lles ac yn magu hyder, yn datrys problemau ac yn annog gwaith tîm a sgiliau llythrennedd.
Lleoliad: Canolfan Gymunedol y Cocyd, St Peter’s Terrace, Y Cocyd, Abertawe
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Chwefror
Oedran: Bydd y sesiwn gyntaf ar gyfer plant 2–3 oed. Bydd yr ail sesiwn ar gyfer plant 4–8 oed.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 07853 258872.
Ioga i’r Teulu
Lleoliad: Canolfan St Pauls, Aberafan
Dyddiad: Dydd Iau 24 Chwefror
Oedran: 5-8 oed
Amser: 4.15pm – 5.00pm
Oedran: 9-11 oed
Amserau: 5.00pm – 5.45pm
Sesiynau Sglefrio
Lleoliad: Parc Sglefrio Exist
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 a dydd Mercher 23 Chwefror
Oedran: Dechreuwyr 10 oed ac yn iau
Amserau: 12pm – 1pm
Oedran: Sesiwn Agored
Amserau: 1pm-3pm
Rhythm a Chwarae
Mae sesiynau rhythm a chwarae yn rhoi cyfle i bobl ifanc a theuluoedd ymuno â drymio, chwarae, symud, gwneud a chreu gyda drymwyr One Heart. Darperir yr holl offer, a bydd digon o help i sicrhau bod pawb yn cael amser hwyl ac yn gallu cymryd rhan.
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Melincryddan, Castell-nedd
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Chwefror
Amser: 4pm – 5pm
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Dyddiad: 24 a 25 Chwefror
Amser: 10am – 12pm
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: [email protected]
Ffôn: 07455 677711
Sgïo dull rhydd

I’r rheini sydd eisoes â’r gallu i sgïo, beth am fynd am y llethrau agosaf a mwynhau sesiwn sgïo rhydd am ddim? Os byddai hyn o ddiddordeb i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, archebwch le ar unwaith gan ddefnyddio’r rhif isod a sicrhau eich lle.
Lleoliad: Canolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre
Dyddiad: Nos Fawrth 22 Chwefror
Amser: 6pm – 7pm
Oedran: 14 – 17 oed
Amser: 7.30pm-8.30pm
Oedran: 18 – 25 oed
I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: 01554 834443.
Pier y Mwmbwls

Bydd hefyd nifer o weithgareddau y gallwch chi a’ch plant ymuno â nhw ym mhier y Mwmbwls.
Paentio creigiau thema glan môr
Bydd eich plentyn yn gallu dylunio ei graig ar thema glan môr ei hun y gall fynd â hi adref neu ei hychwanegu at ein harddangosfa glan môr i bawb ei mwynhau. Does dim modd cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae’n cael ei redeg ar sail y cyntaf i’r felin.
Dyddiad: Dydd Llun 21 Chwefror
Amser: 12pm – 4pm
Pris: Am ddim
Clwb plant
Cyfle perffaith i’ch plentyn gwrdd â phlant eraill a chael hwyl! Bydd y sesiwn yn llawn gweithgareddau i’ch plentyn eu mwynhau. Does dim modd cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae’n cael ei redeg ar sail y cyntaf i’r felin.
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Chwefror
Amser: 10.30am
Pris: Am ddim
Parti Dawns Encanto
Dydych chi ddim eisiau colli’r cyfle hwn i ddawnsio gyda Mirabel cyn cymryd rhan mewn crefft ar thema Encanto.
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Chwefror
Amser: 12.00pm
Pris: £7.50
I archebu tocynnau i ddawnsio, ewch i: Parti Dawns Encanto – Pier y Mwmbwls (mumbles-pier.co.uk).
Crefftau Llanast
Gallwch osgoi creu llanast yn eich cartref eich hun a gadael i rywun arall wneud y gwaith glanhau. Dyma’r ffordd orau o fod yn greadigol yn eu gweithdy crefftau llanast. Does dim modd cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae’n cael ei redeg ar sail y cyntaf i’r felin.
Dyddiad: Dydd Iau 24 Chwefror
Amser: 12pm – 4pm
Sioe Hud – Simon Sparkles
Sioe hud anhygoel sy’n llawn hwyl y bydd eich teulu cyfan yn gallu ei mwynhau. Dyma ffordd wych o ddod â’r wythnos hanner tymor i ben. I archebu tocynnau ar gyfer y sioe hud, ewch i: Sioe Hud Simon Sparkles – Pier y Mwmbwls (mumbles-pier.co.uk)
Dyddiad: Dydd Gwener 25 Chwefror
Amser: 2.00pm a 3.00pm
Pris: £2
Clwb Gwyliau – LC Abertawe

Yn yr LC, maent yn ymwybodol o’r anawsterau y mae rhieni’n eu hwynebu pan ddaw’r amser i ddod o hyd i bethau i’r plant eu gwneud yn ystod hanner tymor, yn enwedig os oes angen iddynt weithio. O ganlyniad, maent yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gadw plant yn ddiogel, yn actif ac yn iach drwy gydol yr wythnos.
Oedran: 5-12 oed
Bydd y clwb gwyliau yn rhedeg yn ddyddiol drwy gydol hanner tymor mis Chwefror, lle bydd plant yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:
- Parc Dŵr (dros 8 oed yn unig)
- Wal ddringo
- Ardal Chwarae
- Chwaraeon
- Hwyl a Sbri
Gallwch archebu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen yma: Hanner Tymor mis Chwefror yn yr LC| Freedom Leisure (freedom-leisure.co.uk)