I Sarah, bu’r awydd i weithio gyda phlant yno erioed, hyd yn oed os cymerodd ei gyrfa lwybr gwahanol. Yn gynnar yn ei phriodas â Steve, dyma nhw’n archwilio maethu ond yn penderfynu aros wrth iddyn nhw fagu eu teulu eu hunain. Gyda phedwar o blant eu hunain, roedd bywyd yn brysur – ond aeth y syniad o faethu byth i ffwrdd.
galwad gydol oes i ofalu
Roedd y penderfyniad i faethu wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd personol cryf, a theimlai’n un ystyrlon iawn.
“Mae maethu yn adlewyrchu fy ngwerthoedd Cristnogol, yn enwedig gofalu am blant sy’n agored i niwed a dangos tosturi i’r rhai sydd mewn angen. I mi, mae bob amser wedi teimlo’n bwysig byw allan y gwerthoedd hynny mewn ffordd ymarferol.”
Chwaraeodd dylanwadau teulu a ffrindiau hefyd rôl. Magwyd Sarah yn clywed straeon teuluol am ofal maeth a mabwysiadu. Roedd ei nain yn gweithio i Coram, sef sefydliad a oedd yn cefnogi plant agored i niwed. Cafodd hefyd ddealltwriaeth ddyfnach gan ei mam, a siaradodd yn aml am ei phrofiadau hi a phrofiadau ei brawd mabwysiadol. Roedd Sarah hefyd yn ddigon ffodus i gael ffrindiau a oedd wedi maethu yn y gorffennol. Mae’r holl sgyrsiau hynny, ochr yn ochr â’i ffydd Gristnogol a’i gwerthoedd ynghylch tosturi a gofal, wedi llunio ei chred y gall cartref diogel, cariadus gael effaith gadarnhaol ar blentyn.
darganfod yr amser iawn
Er i faethu fod ar feddwl Sarah ers blynyddoedd lawer, dim ond pan oedd eu plant yn hŷn y teimlai’r teulu’n barod i gymryd y cam nesaf. Roedd eu bywyd cartref wedi’i setlo, ac roedden nhw’n teimlo’n hyderus y gallen nhw ddiwallu anghenion plentyn arall.
Gan fod Steve yn weithiwr cymdeithasol yng Nghyngor Abertawe, roedden nhw’n meddwl i ddechrau y gallai hyn fod yn rhwystr ac effeithio ar eu cais. Fodd bynnag, derbyniodd Steve gefnogaeth gadarn gan y rheolwyr a’r awdurdod lleol cyfan.
“Gwnaeth dull cyfeillgar i faethu Cyngor Abertawe wahaniaeth sylweddol wrth ein helpu ni’n deulu i symud ymlaen gyda’n dymuniad i faethu.”
Pan leddfwyd eu pryderon am eu haddasrwydd, penderfynon nhw roi cynnig ar faethu.
Dechreuon nhw trwy ofalu am un plentyn yn y tymor byr i weld sut y byddai’n gweithio i bob un. Ar ôl i’r plentyn symud ymlaen, dyma nhw’n myfyrio fel teulu gyda’i gilydd a phenderfynu parhau â maethu tymor byr.
pwysigrwydd cymorth
Bu cymorth Maethu Cymru Abertawe yn ganolog i brofiad cadarnhaol Sarah a Steve.
“Mae’r cymorth yn hynod o bwysig. Gall maethu fod yn werth chweil ac yn heriol, ac mae gwybod bob amser fod rhywun i’ch tywys a thawelu’ch ofnau’n gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae hefyd ymdeimlad cryf o werthfawrogiad i ofalwyr a’u plant geni.”
O gyfleoedd hyfforddi i weithgareddau teuluol, mae’r gwasanaeth wedi eu helpu nhw i dyfu mewn hyder, adeiladu atgofion cadarnhaol gyda’i gilydd, a theimlo’n rhan o gymuned maethu ehangach.
“Mae Maethu Cymru Abertawe yn darparu llawer o weithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ac achlysuron arbennig, sy’n helpu plant i deimlo eu bod nhw wedi’u cynnwys ac yn rhoi cyfleoedd i’n teuluoedd dreulio amser cadarnhaol, hamddenol gyda’i gilydd a chwrdd â theuluoedd maeth eraill.”
Pan aeth Sarah trwy amgylchiadau anodd iawn – roedd hi’n hynod werthfawrogol o’r cymorth a gafodd.
“Pan fu farw fy nhad yn anffodus, bu’n rhaid i ni deithio i Ffrainc yn fyr rybudd iawn. Darparodd Maethu Cymru Abertawe gymorth ar unwaith, gan drefnu gofal seibiant fel y gallai’r teulu deithio heb straen ychwanegol. Roedd ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio yn hynod gydymdeimladol a chefnogol, a oedd yn golygu llawer iawn i ni.”
profiad gwerth chweil ac agoriad llygad
Mae Sarah a Steve yn maethu babanod a phlant ifanc yn bennaf ar sail tymor byr Mae cadw mewn cysylltiad a gweld plant yn setlo ac yn ffynnu wedi bod yn brofiad anhygoel o arbennig i’w teulu, yn ogystal ag un trawsnewidiol.
“Mae maethu wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o pam mae plant yn dod i ofal. Mae wedi rhoi mwy o dosturi i mi tuag at blant a’u teuluoedd geni.”
Cawson nhw hefyd fudd o gynnal perthynas gadarnhaol â theuluoedd geni, gan helpu i greu ymdeimlad o gysylltiad i’r plant trwy ystumiau meddylgar megis atgofion a fideo. Mae adborth gan deuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cefnogi hunaniaeth plentyn a pherthnasoedd ehangach.
cerrig milltir bach, effaith fawr
I Sarah, rhai o’r eiliadau mwyaf pwerus mewn maethu yw’r cerrig milltir tawel, bob dydd.
“Un o’r agweddau mwyaf buddiol ar faethu hyd yma yw adeiladu ymddiriedaeth gyda phlentyn, yn enwedig yn yr eiliadau cynnar hynny. Mae’r cerrig milltir bach fel plentyn yn ymgysylltu’n fwy neu’n ymlacio’n ddigon am y tro cyntaf i dderbyn cysur, yn teimlo’n hynod o ystyrlon.”
Un profiad arbennig o gofiadwy oedd babi a ddangosodd ychydig o ymateb neu angen cysur i ddechrau. Dros amser, trwy amynedd a chysondeb, dechreuodd y plentyn geisio sicrwydd.
“Roedd y tro cyntaf iddyn nhw ymlacio i gwtsh yn hynod iawn; roedd yn teimlo fel y foment y sylweddolon nhw eu bod nhw’n ddiogel ac yn gallu ymddiried. Roedd gweld y trawsnewidiad hwnnw yn werth chweil ac yn eich llorio chi”
Mae’r eiliadau hyn yn ail-bwysleisio pwysigrwydd amynedd, cysondeb, a darparu amgylchedd diogel.
llywio heriau
Fel pob gofalwr maeth, mae Sarah a Steve hefyd wedi wynebu heriau. Gall newidiadau mewn trefniadau amser teuluol, er enghraifft, fod yn ddryslyd ac yn anodd i blant ifanc, yn enwedig pan fydd cyswllt â’u teulu geni yn lleihau.
“Mae’r profiadau hyn wedi fy helpu i gydnabod pa mor bwysig yw cefnogi plant trwy drawsnewidiadau ac ansicrwydd.”
Maen nhw hefyd yn gweld yr ansicrwydd sy’n dod weithiau gyda maethu yn heriol, yn enwedig, ynghylch y canlyniadau hirdymor i blant.
“Does dim cymaint o fabwysiadwyr bob tro ag y gallai pobl ei ddisgwyl, ac ar adegau gall deimlo’n annifyr heb wybod beth fydd gan y dyfodol i rai plant.”
ymdrech deuluol
Mae maethu wedi cael effaith gadarnhaol ar y teulu cyfan. Mae eu plentyn ieuengaf, yn arbennig, wedi datblygu empathi a dealltwriaeth ddyfnach o eraill.
Mae Sarah yn pwysleisio nad yw maethu yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – mae’n ymrwymiad a rennir sy’n dod â’r teulu cyfan at ei gilydd.
edrych yn ôl – ac edrych ymlaen
Rhai o hoff atgofion Sarah yw’r rhai syml – dathlu cerrig milltir, cofio eiliadau, a chreu profiadau cadarnhaol i’r plant yn eu gofal.
“Rydw i bob amser yn gobeithio y bydd yr eiliadau hyn yn rhoi rhywbeth cadarnhaol i blant edrych yn ôl arno yn y dyfodol.”
cyngor i’r rhai sy’n ystyried maethu
I unrhyw un sy’n meddwl am faethu, mae Sarah yn eu hannog nhw i gymryd y cam cyntaf hwnnw.
“Os yw’n rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl amdano, byddwn ni’n eich annog chi i’w archwilio. Does dim rhaid eich bod chi wedi datrys popeth, dim ond bod yn agored i’r sgwrs gyntaf honno yn gam gwych.”
Mae hi hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys y teulu cyfan a bod yn onest am yr hyn fydd yn gweithio i chi.
“Mae maethu yn ymrwymiad go iawn, ond mae llawer o wahanol ffyrdd o wneud hynny ac mae’n debygol y bydd rhywbeth sy’n gallu gweddu i ystod eang o deuluoedd ac amgylchiadau.”
dechreuwch eich taith maethu eich hun
Os ydych chi’n chwilfrydig am faethu ond ddim yn siŵr sut y gallai effeithio ar eich teulu, rydyn ni yma i helpu. Gall ein tîm eich cynghori chi drwy’r broses, esbonio sut y bydd eich plant yn cael eu cefnogi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe ar 0300 555 0111 am sgwrs gyfeillgar heb bwysau neu cysylltwch â ni yma.