blog

cwestiynau cyffredin: cefnogaeth ar gyfer gofalwyr maeth

Mae dewis bod yn ofalwyr maeth neu deulu sy’n maethu yn benderfyniad mawr i’w wneud.

Mae’n hanfodol bod gofalwyr maeth yn derbyn lefelau uchel o gefnogaeth fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a byth yn teimlo’n unig. I ni, mae’n bwysig bod gofalwyr maeth yn teimlo fel rhan o dîm Maethu Cymru Abertawe, sy’n gweithio tuag at ddarparu canlyniadau gwell ar gyfer plant lleol.

Mae rhoi’r gefnogaeth orau bosib i ofalwyr yn cyfrannu at ddyfodol gwell i blant sy’n derbyn gofal maeth. Dyna pam rydym yn rhoi gymaint o bwyslais ar y gefnogaeth rydym yn ei rhoi i’n gofalwyr.

Gweler isod gyfres o gwestiynau y mae pobl yn aml yn eu gofyn am y gefnogaeth cymorth y byddant yn ei derbyn gennym ni.

faint o gefnogaeth ydych chi’n yn ei derbyn?

Fel gofalwyr maeth Maethu Cymru Abertawe, byddwch yn derbyn digonedd o gefnogaeth i’ch helpu yn eich rôl.

  • Mae gan ofalwyr maeth weithiwr cymdeithasol goruchwylio penodedig sy’n eu cefnogi nhw a’u teulu bob cam o’r ffordd. Byddant hefyd yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’u gofalwyr i sicrhau bod popeth yn iawn neu i asesu a oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol
  • Yn ystod oriau swyddfa, bydd aelod o’r tîm ar gael bob dydd i ddarparu arweiniad a chefnogaeth
  • Mynediad at weithwyr cefnogi
  • Llinell cefnogi gofalwyr – Y tu allan i oriau swyddfa, mae aelod o’r tîm ar gael i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ofalwyr
  • Bob nos ar ôl 11pm, gall gofalwyr gael mynediad at y tîm dyletswydd brys
  • Hyfforddiant – mae gennym galendr hyfforddiant helaeth ar gyfer ein gofalwyr i helpu i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau
  • Rydym yn darparu lwfansau ariannol cystadleuol i’n gofalwyr er mwyn eu helpu i ofalu am blentyn neu blant. Rydym hefyd yn rhoi lwfansau ychwanegol ar gyfer pen-blwyddi, y Nadolig a gwyliau
  • Ffi gadw – os yw gofalwyr ar gael i faethu ac nad ydynt yn gofalu am blentyn arall, rydym yn talu ffi gofalwr wythnosol nes eu bod yn derbyn plentyn
  • Mae grwpiau cefnogi amrywiol ar gael ar gyfer yr aelwyd gyfan, gan gynnwys grŵp ar gyfer plant y gofalwyr
  • Gall gofalwyr newydd a phrofiadol gael mynediad at ein cynllun cyfeillio lle mae gofalwyr yn cefnogi ei gilydd 
  • Mae gan ein gofalwyr fynediad at weithiwr cyngor a chyfryngu annibynnol
  • Rydym yn talu i’n haelodau fod yn rhan o’r Rhwydwaith Maethu, yr elusen faethu genedlaethol
  • Rydym yn darparu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn fel y gall teuluoedd sy’n maethu gwrdd â’i gilydd ac ehangu eu rhwydwaith cefnogaeth, neu gael hwyl yn unig
  • Cerdyn MAX – Mae pob aelwyd sy’n maethu yn derbyn cerdyn MAX sy’n cynnig gostyngiadau ar atyniadau i ymwelwyr a diwrnodau mas ar draws y DU
  • Pasbort i Hamdden (PTL) – gall pob aelwyd sy’n maethu gael cerdyn PTL sy’n rhoi gostyngiadau ar gyfer lleoliadau hamdden a diwylliannol lleol ar draws Abertawe
  • Cynllun argymell ffrind – os bydd unrhyw un o’n gofalwyr maeth cymeradwy yn argymell ffrind sy’n cael ei gymeradwyo yn y pen draw, bydd yn derbyn gwobr o £500.

ydy maethu cymru abertawe’n cynnig unrhyw beth gwahanol o’i gymharu ag asiantaethau maethu eraill?

Maethu Cymru Abertawe yw gwasanaeth maethu nid er elw y cyngor.

Rydym yn gyfrifol am bob plentyn yn Abertawe sy’n dod i’r gwasanaethau gofal ac y mae angen lleoliad maethu arnynt. Rydym yn mynd at ein gofalwyr maeth mewnol yn gyntaf oll.

Dim ond pan na allwn leoli plentyn gyda’n gofalwyr ein hunain y byddwn yn cysylltu ag Asiantaethau Maethu Annibynnol i weld a oes gan unrhyw un o’u gofalwyr le gwag.

O’r holl leoliadau maethu newydd yr oedd eu hangen yn 2021/2022, lleolwyd 81% o blant gyda’n gofalwyr maeth mewnol.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod y gweithwyr cymdeithasol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn gweithio yn yr un adran â Maethu Cymru Abertawe felly mae’r timau’n gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd sy’n sicrhau bod plant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.

Yn ogystal â hyn, bydd y plant sy’n cael eu gosod gyda’n gofalwyr yn lleol iddynt, sy’n hanfodol ar gyfer dilyniant yn eu bywydau ac ar gyfer eu sefydlogrwydd.

pa hyfforddiant y byddaf yn ei dderbyn?

Cynhelir hyfforddiant rheolaidd a helaeth trwy gydol eich taith faethu.

Mae ein hyfforddiant paratoi Sgiliau Maethu’n trafod rôl y gofalwr maeth a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl. Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a yw maethu’n addas i chi.

Unwaith y byddwch wedi eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, mae’n ofynnol i chi fynychu o leiaf 15 awr o hyfforddiant y flwyddyn.  

Mae nifer o gyrsiau hyfforddiant gorfodol y mae’n rhaid i ofalwyr fod yn bresennol ar eu cyfer ond mae hefyd nifer o gyrsiau hyfforddiant amrywiol ac arbenigol i helpu gofalwyr maeth i ehangu eu gwybodaeth. Yn y pen draw, rydym am i’n gofalwyr maeth deimlo’n hyderus, yn wybodus a bod y gorau y gallant fod ar gyfer eu plant maeth.

Mae’r holl gyrsiau hyfforddiant rydym yn eu cynnig am ddim ac yn cael eu darparu yn lleol ac ar-lein.

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol a chynnig cartref diogel a chariadus  iddo, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers