Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto! Mae’r coed i fyny ac wedi’u haddurno, mae’r teulu draw ac mae caneuon Nadolig i’w clywed ym mhobman. Hoffech chi gael Nadolig llawn dop o hwyl?
Wel… does dim angen edrych ymhellach oherwydd mae gennym amrywiaeth o weithgareddau difyr sy’n addas i’r teulu i chi eu gwneud dros gyfnod yr ŵyl eleni.
pwdinau nadolig gan ddefnyddio rice krispies
Os ydych chi’n dwlu ar siocled neu am baratoi danteithion ar gyfer rhywun arbennig, gwisgwch eich ffedogau a pharatowch i baratoi’r pwdinau Nadolig blasus ac unigryw hyn gan ddefnyddio rice krispies.
Mae’r rysait ar gael yma:
Rice Krispie Christmas Puddings – Crumbs and Corkscrews (crumbscorkscrews.com)
mins-peis cwstard a chrymbl
Os nad ydych chi’n hoff iawn o siocled, gallwch chi a’ch teulu roi cynnig ar bobi’r mins-peis cwstard a chrymbl hyn.
Dim ond 45 munud mae’n ei gymryd i’w gwneud, a does dim amheuaeth y byddwch wrth eich bodd â nhw.
Mae’r rysáit ar gael yma:
https://www.bbcgoodfood.com/recipes/custard-crumble-mince-pies
coeden nadolig basta
Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys eitem fwyd, ond fyddwch chi ddim yn gallu’i bwyta.
Os ydych chi’n hoffi golwg y coed Nadolig pasta syml ond effeithiol hyn, beth am roi cynnig ar y dasg wych hon dros gyfnod y Nadolig?
I gael cyfarwyddiadau cam wrth gam ar y pethau y bydd eu hangen arnoch i greu’r coed, cliciwch ar y ddolen hon:
https://www.thebestideasforkids.com/christmas-tree-pasta-macaroni-craft/?
coeden nadolig acordion
Am greu rhywbeth gwych mewn llai na 10 munud? Dyma’r un i chi, felly!
Mae’r coed Nadolig acordion addurniadol hyn yn cymryd pum munud yn unig i’w creu a gallwch eu haddurno ym mha ffordd bynnag yr hoffech gyda gwahanol liwiau a meintiau o bapur.
I gael gwybodaeth am sut i greu’r coed acordion hyn, cliciwch ar y ddolen hon:
https://www.whitehousecrafts.net/post/2019/11/24/5-minute-kids-accordion-christmas-tree-craft
gwneud neu addurno tŷ bara sinsir
Mae paratoi bara sinsir yn weithgaredd difyr i’w wneud yn ystod cyfnod yr ŵyl, a gallwch ei wneud naill ai ar eich pen eich hun neu gyda rhywun arall.
P’un a hoffech chi wneud y bara sinsir neu helpu i’w addurno’n unig, gallwch wneud rhyw ran ohono.
I gael rhestr o’r cynhwysion sydd eu hangen, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar sut i wneud ac addurno’ch tŷ bara sinsir, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.bbcgoodfood.com/recipes/simple-gingerbread-house
marathon gwylio ffilmiau nadolig
Os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn cael Nadolig mwy hamddenol, mae marathon ffilmiau bob amser yn syniad da.
Isod gallwch weld ein hoff ffilmiau Nadolig rydym yn argymell i chi eu gwylio gartref eleni.
- Elf
- The Polar Express
- Home Alone
- Arthur Christmas
- The Holiday
- The Grinch
- Jingle All The Way
gweithgareddau awyr agored
Ar ôl treulio cymaint o amser dan do dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, gallai treulio amser o safon tu fas gyda’ch anwyliaid fod yn ffordd hyfryd o fwynhau cyfnod yr ŵyl eleni.
Byddai Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe’n lle perffaith i deulu a ffrindiau ddod ynghyd a chreu atgofion. Mae cynifer o atyniadau ar gael mewn un lle, fel:
yr Olwyn Fawr, reidiau, gemau, bwyd a diod yn y Pentref Alpaidd, yn ogystal â sglefrio iâ.
troeon awyr agored hardd
Efallai nad yw pawb am fod mewn lle prysur neu wario llawer o arian ar hyn o bryd, felly beth am fynd am dro hyfryd a gwerthfawrogi’r golygfeydd sydd o’ch cwmpas?
Llwybr Bae Bracelet i Langland
Os hoffech chi syllu ar olygfa o’r môr wrth gerdded, dyma’r llwybr i chi. Drwy gerdded ar hyd y palmant, gallwch gerdded yr holl ffordd o Fae Bracelet, y Mwmbwls i Fae Langland ac edmygu rhai golygfeydd syfrdanol.
Mynydd Cilfái
Efallai fod cyrraedd copa’r mynydd 85 metr yn ymarfer corff go iawn, ond mae’r olygfa o’r copa’n wych ac yn wir werth yr ymdrech. O gopa Mynydd Cilfái gallwch weld golygfeydd o’r môr, yn ogystal ag ardaloedd fel y marina yr holl ffordd i’r Mwmbwls. Mae wir yn syfrdanol.
Gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau ac yn aros yn ddiogel y Nadolig hwn. Os ydych chi’n gwneud unrhyw un o’r pethau rydym wedi’u hawgrymu dros y Nadolig hwn, rhowch wybod i ni. Hoffem glywed gennych!