blog

cwestiynau cyffredin: plant maeth

foster-children-with -foster-carers

Yn naturiol, pan fydd pobl yn ystyried dod yn ofalwyr maeth, mae ganddynt restr hir o gwestiynau.

O gofio hynny, rydym wedi creu cyfres o flogiau i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, yn ogystal â’r cwestiynau hynny nad yw pobl yn eu gofyn yn aml nes eu bod yn bellach ar eu taith faethu.

Mae’r blog cyntaf yn cynnwys cwestiynau sy’n ymwneud yn benodol â’r plant maeth.

rwy’n poeni y byddaf yn drist iawn pan fydd yn rhaid i blentyn symud ymlaen, a yw’n anodd iawn?

Mae’n gwbl normal teimlo’n bryderus, yn ofidus neu’n orbryderus pan fydd plentyn yn gadael eich cartref. Rydych chi’n meithrin perthynas â’r plant ac weithiau gallwch deimlo ymdeimlad o golled.

Fodd bynnag, pan ddaw’r amser, os bydd y teimladau hyn yn codi, yna bydd gennych sawl ffynhonnell o gymorth i’ch cefnogi drwy’r amser anodd hwnnw. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, byddwn yma i’ch cefnogi’n emosiynol a chynnig arweiniad arbenigol drwyddi draw.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i’n gofalwyr maeth ar ymlyniad a sut i ddelio ag ef.

beth fyddaf yn ei wybod am fy mhlentyn maeth cyn iddo gyrraedd?

Fel gyda’r rhan fwyaf o agweddau ar ofal maeth, mae’r manylion yn dibynnu ar bob achos unigol. Rydym bob amser yn rhannu’r holl wybodaeth sydd gennym am eich plentyn maeth posib ond weithiau efallai mai dim ond manylion sylfaenol fydd gennym. Mae hyn yn aml yn wir mewn sefyllfaoedd brys lle mae’n rhaid symud plant neu bobl ifanc yn gyflym iawn.

Ym mhob achos, bydd ein tîm yn gweithio cyn gynted ag y gallant i roi popeth at ei gilydd. A chi fydd yr un sy’n penderfynu a ydych chi’n teimlo eu bod nhw’n addas i’ch teulu. Ni fyddwn byth yn eich gorfodi i sefyllfa lle rydych yn teimlo dan bwysau neu fod yn rhaid i chi wneud rhywbeth.

sut alla i roi croeso cynnes i blentyn?

Mae cael plentyn sydd erioed wedi aros gyda chi o’r blaen yn dod â heriau a chyfleoedd gwahanol.

Mae gan bob plentyn anghenion gwahanol felly wrth groesawu plentyn newydd i’ch cartref bydd yr anghenion hyn yn wahanol bob tro. Fodd bynnag, bydd cael agwedd gyfeillgar a chariadus at blentyn yn ei helpu i deimlo’n gyfforddus a bod croeso iddo. Mae cysondeb a sicrwydd yn allweddol.

Pan fydd plentyn maeth yn cael ei leoli mewn amgylchedd newydd, mae’n debyg na fydd yn teimlo’n gyfforddus ar unwaith, ac felly bydd angen i chi fod yn amyneddgar a rhoi amser iddo addasu.

a all plant symud ysgolion i fod yn agosach at ble rwy’n byw?

Mae mor bwysig i blant a phobl ifanc aros yn eu hysgolion presennol. Maent am gael cymaint o ddiogelwch a normalrwydd â phosib, yn ogystal ag aros yn agos at eu ffrindiau.

Felly, oni ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol h.y. er diogelwch y plentyn neu oherwydd materion yn yr ysgol bresennol, ni fyddai plentyn yn symud ysgolion.

allwn ni fynd â’r plant ar dripiau dydd a gwyliau?

Yn bendant! Rydym yn annog gofalwyr maeth i fynd â’r plant maeth ar dripiau dydd ac ar unrhyw wyliau fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan neu’n teimlo’n wahanol i’ch plant eich hun. Mae’n wych i blant maeth gael profiadau newydd a chael eu cynnwys yn eich bywyd teuluol.

Os ydych am fynd â nhw ar wyliau, yna byddai angen caniatâd gan eu rhieni geni. Os nad oes gan y plentyn basbort, yna bydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn helpu i’w ddatrys ar eich rhan.

ydw i’n gallu maethu babanod os nad oes gennyf ystafell wely sbâr?

Nac ydych, mae angen i chi gael ystafell wely sbâr er mwyn maethu. Unwaith y bydd plentyn yn cyrraedd 1 oed, mae’n rhaid iddo symud i’w ystafell wely ei hun.

Yn amlach na pheidio, nid yw’r llysoedd wedi penderfynu ar eu dyfodol erbyn iddynt gyrraedd eu pen-blwydd cyntaf, felly byddai’n golygu symud y baban hwnnw i ofalwr maeth arall am ychydig fisoedd neu wythnosau’n unig cyn iddo symud ymlaen i gael ei fabwysiadu, neu ddychwelyd i’w rieni geni neu aelodau’r teulu.

Ein blaenoriaeth yw rhoi cymaint o sefydlogrwydd a chysondeb â phosib i blant felly ni fyddai’n deg i’r plentyn symud am gyfnod mor fyr.

oes rhaid i ni dderbyn unrhyw blant?

Dim o gwbl. Rydym yn ymfalchïo mewn paru’r plentyn cywir â’r gofalwr/gofalwyr maeth cywir, ond oherwydd argyfyngau, yn naturiol nid yw hyn bob amser yn bosib.

Pan fydd angen i ni ddod o hyd i gartref maeth ar gyfer plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd, byddwn yn ystyried pa ofalwyr maeth sydd â lle ac yn ystyried a ydym yn meddwl y byddai’n addas i’r plentyn a’r teulu maeth. Os credwn eich bod chi a’r plentyn yn addas ar gyfer eich gilydd, byddwn yn eich ffonio i drafod y plentyn a rhoi’r holl wybodaeth sydd gennym i chi. Os nad ydych yn credu ei fod yn addas i chi a’ch teulu ar ôl clywed yr wybodaeth, yna gallwch ei wrthod.

Os bydd plant yn dod i ofal mewn argyfwng (sy’n gallu digwydd), yna dyma lle nad ydym bod amser yn gallu dod o hyd i’r trefniadau mwyaf addas i chi a’r plentyn. Yn yr achosion hyn, byddem yn cysylltu â’r holl ofalwyr maeth sydd ar gael gan mai ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i gartref diogel i’r plentyn/plant hwnnw/hynny.

ydych chi’n cael dewis y grŵp oedran rydych chi’n ei faethu?

Ydych, pan fyddwch yn cael eich asesu, bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn trafod eich dewisiadau â chi a bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi am ei farn. Rydym yn gweithio gyda chi i gytuno ar oedrannau’r plant a fyddai’n cyd-fynd orau â’ch teulu a’ch sgiliau.

Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr maeth yn cael eu cymeradwyo ar gyfer plant 0-18 oed ond mae’n well gan rai ddewis ystod oedran penodol.

Oherwydd ein hanghenion presennol, ni allwn dderbyn pobl sydd am gael ystod oedran gyfyngedig iawn h.y. 0-2 oed, 5-9 oed etc.

ydych chi’n cael rhoi cwtsh i blentyn maeth?

Ydych. Yn wir, bydd adegau pan fydd angen cwtsh ar blentyn mewn gwirionedd.

Fodd bynnag, pan ddaw plentyn atoch am y tro cyntaf, efallai na fydd yn gyfforddus â hyn. Efallai na fyddai wedi profi llawer o anwyldeb neu gallai effeithio arno’n emosiynol. Mae’n rhywbeth a allai ddod dros amser pan fydd y plentyn yn dysgu y gall ymddiried ynoch.

a yw’r plant rwy’n gofalu amdanynt yn cael cysgu dros nos gyda ffrindiau?

Ydyn, gall plentyn maeth wahodd ffrindiau draw i gysgu dros nos. Oni bai fod rheswm penodol pam na ddylai hyn ddigwydd, dylid rhoi’r un cyfleoedd i blant maeth ag unrhyw blant eraill. Byddai angen i weithiwr cymdeithasol y plentyn ei ystyried yn addas ac yn briodol.

beth sy’n digwydd pan fydd y plentyn rwy’n ei faethu’n troi’n 18 oed?

Pan fydd plentyn yn troi’n 18 oed, ystyrir ei fod yn oedolyn. Mae sawl opsiwn ar gael i bobl ifanc. Gallant fynd i fyw gyda chymorth neu fyw’n annibynnol, neu dan y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’, gallant aros gyda’u gofalwyr maeth tan eu bod yn 24 oed. Bydd y gofalwyr maeth yn derbyn ffi am y person ifanc sy’n aros gyda nhw.

beth yw’r amser byrraf y gall plentyn maeth aros gyda fi?

Os byddwn yn lleoli plentyn gyda chi mewn argyfwng, efallai y bydd gyda chi am noson yn unig tra bod trefniadau tymor hwy yn cael eu gwneud.

a allaf faethu nifer o blant ar yr un pryd?

Gallwch, ac rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl sy’n gallu cynnig cartref i frodyr a chwiorydd! Fodd bynnag, mae’n dibynnu ar nifer yr ystafelloedd sbâr sydd gennych a maint y rhain. Os oes gennych ystafell wely fawr ar gael i faethu yna mae’n bosib y gall dau blentyn o’r un grŵp o frodyr a chwiorydd rannu ystafell.

Nid yw gofalwyr maeth yn cael eu cymeradwyo ar gyfer mwy na thri phlentyn na grŵp o frodyr a chwiorydd.

a allwn ni gael plant i gymryd rhan mewn grwpiau cymunedol/chwaraeon fel fy mhlant fy hun?

Wrth gwrs, byddem yn annog hynny! Os hoffai’r plentyn gymryd rhan yn y math hwn o weithgareddau fel eich plant eich hun, yna bydd yn rhoi emosiynau cadarnhaol iddo gan y bydd yn gallu gweld nad yw’n cael ei drin yn wahanol i’r plant eraill yn yr aelwyd.

Byddem am i ofalwyr maeth hefyd gefnogi plant i barhau ag unrhyw grwpiau/glybiau/weithgareddau maent eisoes yn cymryd rhan ynddynt.

pan fydd plant maeth yn gadael eich gofal, a allwch chi gadw mewn cysylltiad â nhw?

Gallwch, os mai dyma yw dymuniad y ddau ohonoch, mae hynny’n iawn. Mae llawer o’n gofalwyr maeth yn dal i gadw mewn cysylltiad â phlant y maent wedi gofalu amdanynt o’r blaen – gallai hynny fod yn blant ifanc sydd wedi symud ymlaen i ofalwyr maeth eraill neu blant hŷn sydd wedi dod yn oedolion eu hunain, mae gan rai eu plant eu hunain yn awr hyd yn oed.

a fyddai’n rhaid i mi roi’r gorau i ofalu am blentyn maeth er mwyn iddo fynd i gartref parhaol?

Mae hyn yn dibynnu ar nifer o bethau. Os mai dim ond fel gofalwr maeth tymor byr y cawsoch eich cymeradwyo, nid oedd y lleoliad yn arbennig o addas i’r naill neu’r llall ohonoch, neu ni allech gynnig lleoliad tymor hir i’r plentyn, yna mae’n debygol y bydd yn symud i leoliad tymor hir gyda gofalwr arall.

Fodd bynnag, pe bai’n cael ei ystyried yn drefniant addas i chi a’r plentyn, a’ch bod am gynnig lleoliad hirdymor i’r plentyn, yna byddai angen i chi fynd yn ôl i’r panel i newid eich statws cymeradwyo i gynnwys maethu hirdymor.

ga i faethu babi newydd-anedig nes ei fod yn 18 oed?

Na. Mae babanod, ac mewn llawer o achosion, blant dan bump oed, naill ai’n cael eu symud ymlaen i fabwysiadu, yn cael eu symud i leoliad maeth gyda theulu a ffrindiau neu’n cael eu hailsefydlu gartref.

Cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol a chynnig cartref diogel a chariadus iddynt, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers