blog

“bodau dynol â theimladau yw gofalwyr maeth, nid robotiaid”

Fy enw i yw Hannah ac ar hyn o bryd rwy’n uwch-weithiwr cymdeithasol goruchwyliol ar gyfer Maethu Cymru Abertawe. Dwi wedi gweithio i sawl tîm maethu dros yr 8 mlynedd diwethaf, ac fel gweithiwr cymdeithasol ar gyfer y Gwasanaethau Plant am gyfanswm o 12 mlynedd. Mae gennyf hefyd gefndir o weithio mewn ysgol arbennig ar gyfer plant ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. 

Y tu allan i’r gwaith mae gennyf 11 mlynedd o brofiad fel modryb, hyd yn oed mwy na hynny gyda phlant fy ffrindiau a phum mlynedd o brofiad fel mam.

Drwy fy ngwaith a’m bywyd personol, rwy’n teimlo fy mod i wedi ennill digon o brofiad o weithio gyda phlant, yn enwedig y rheini sy’n ddiamddiffyn yn ein cymdeithas.

“cefais brofiad a arweiniodd at un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr dwi wedi’i ddysgu hyd yma”

Fodd bynnag, yn ddiweddar cefais brofiad a arweiniodd at un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr dwi wedi’i ddysgu hyd yma. Cynigiais weithio shifft 12 awr, dros nos, er mwyn cefnogi plentyn ifanc a oedd yn byw mewn lleoliad preswyl.

Pan gefais i’r cyfle, roeddwn i’n gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at y profiad. Er fy mod i’n gweithio, i fi roedd e’n gyfle i dreulio amser gyda pherson ifanc hynod ddewr, i ffwrdd o fy rôl feunyddiol.

“nawr fe gei di brofi sut mae gofalwyr maeth yn teimlo”

Siaradais â chydweithiwr a oedd wedi cael profiad o roi cefnogaeth o’r fath hon i bobl ifanc – ei gyngor oedd “nawr fe gei di brofi sut mae gofalwyr maeth yn teimlo.” Mae gen i gydweithiwr ystyriol’, meddyliais ar y pryd.

Drwy’r blynyddoedd fel gweithiwr cymdeithasol, dwi bob amser wedi teimlo’n eitha’ hyderus yn cefnogi plant a phobl ifanc, felly roedd unrhyw bryder a oedd gen i’n bryder  am y person ifanc. Roedd hi ar fin cwrdd â dau berson hollol ddieithr a fyddai’n gofalu amdani drwy’r nos. Gall neb ohonon ni werthfawrogi sut y byddai hyn wedi teimlo iddi hi neu, mewn gwirionedd, unrhyw blentyn sydd wedi profi hyn.

“a oeddwn i’n ddigon dda i wneud hyn”

Awr cyn i fi gyrraedd ar gyfer fy shifft, dechreuais deimlo’n nerfus fy hun. Roeddwn i’n cwestiynu a oeddwn i’n ddigon dda i wneud hyn. Roeddwn i’n nerfus am wneud rhywbeth o’i le a dweud y pethau anghywir. Ond roeddwn i’n atgoffa fy hun yn gyson y byddai’r profiad yn llawer gwaeth i’r person ifanc.

Aeth y noson yn dda ac roedd y person ifanc roedden ni’n gofalu amdano’n ddewr iawn. Roeddwn i, ar y llaw arall, yn pendroni dros beth i’w wneud nesaf. Teimlais fel hyn o’r eiliad y cyrhaeddais i nes yr eiliad y cwympodd y person ifanc i gysgu. Roeddwn i’n asesu fy hun yn ystod pob eiliad, ac yn gofyn i fi fy hun:

“a fydd denu sylw’r person ifanc yn stopio hyn rhag digwydd?”

“mae’r plentyn yn gyffrous iawn ond dylai’r drefn amser gwely ddechrau nawr”

“mae’r gwaith papur yn dweud y dylai hi fod wedi tawelu erbyn hyn”

“dwi newydd ei thawelu a nawr efallai y bydd brwsio’i dannedd yn gwneud pethau’n anodd”

“sut ydw i’n atal y sefyllfa hon rhag gwaethygu?”

Waw…roeddwn i mor amharod ar gyfer y cwestiynau roeddwn i’n eu gofyn i fi fy hun. Roeddwn i’n ofni y byddwn i’n cael pethau’n anghywir ar gyfer y person ifanc.

gwersi a ddysgwyd

Yr hyn dwi wedi’i ddysgu o’r shifft untro hon yw sut y mae gofalwyr maeth yn teimlo pan fyddwn yn eu ffonio i ddweud bod y gofalwr cymdeithasol a’r plentyn ar y ffordd, neu pan fyddwn yn gofyn iddyn nhw ddilyn cynllun gofalu mwy diogel, gan dybio y bydd popeth yn gweithio’n berffaith y tro cyntaf. Dyw hyn ddim bob amser yn wir, a dysgais hyn yn gyflym. Mae gofalwyr maeth yn profi hyn drwy’r amser wrth geisio gwneud i’r plentyn deimlo’n gyfforddus yn eu cartref nhw. Doedd fy mab ddim yno yn ystod y shifft, felly doedd dim angen i fi ystyried ei deimladau e’ fel y mae’n rhaid i rai o’n gofalwyr maeth ei wneud gyda’u plant eu hunain a/neu blant eraill maen nhw’n  gofalu amdanyn nhw.

Rwy’n bendant yn teimlo bod gen i well dealltwriaeth nawr, a fy mod i’n gallu cydymdeimlo â’r teimlad hwn o bwysau. Bodau dynol â theimladau yw gofalwyr maeth…nid robotiaid”

“nawr rwy’n gwybod sut mae gofalwyr maeth yn teimlo”

Hannah, y gofalwr cymdeithasol â 12 mlynedd o brofiad oeddwn ar ddechrau’r sefyllfa hon, gydag 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant. Roedd fy nheimladau o straen yn rhai go iawn. Eisteddais gyda’r teimlad hwn, a chydnabod ei bod yn iawn teimlo fel hyn. Nid robot ydw i, ‘chwaith. Roedd fy nghydweithiwr yn llygad ei le… nawr rwy’n gwybod sut mae gofalwyr maeth yn teimlo. Mae’r person ifanc hwn a’r profiad gofalu wedi fy helpu i weld pethau ychydig yn gliriach. Rwyf wir yn credu fy mod i wedi newid y ffordd rwy’n meddwl, fel gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny.

Story Time

Stories From Our Carers