Ydych chi’n ystyried naill ai maethu neu fabwysiadu ond nid ydych yn siŵr pa lwybr sy’n cyd-fynd orau â’ch nodau a’ch amgylchiadau personol?
Mae deall y gwahaniaethau rhwng maethu a mabwysiadu’n hanfodol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch tyfu eich teulu, boed hynny dros dro neu’n barhaol.
Bydd ymgyfarwyddo â’r holl wybodaeth y gallwch ddod o hyd iddi am faethu a mabwysiadu’n eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ar ba un sy’n cyd-fynd orau â’ch anghenion a’ch nodau.
Bydd y naill lwybr yn newid eich bywyd (er gwell, wrth gwrs).
Mae’r ddau ddewis yn cynnig cefnogaeth a sefydlogrwydd gwerthfawr i blant mewn angen, ond mae gwahaniaethau sylfaenol rhwng mabwysiadu a maethu; mae’r ddau ohonynt yn cynnig canlyniadau gwahanol i blant a phobl ifanc.
beth yw’r prif wahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?
Mabwysiadu
Yn syml, trwy fabwysiadau, rydych chi’n dod yn rhiant cyfreithiol i blentyn, gyda’r holl hawliau a chyfrifoldebau sy’n berthnasol i fod yn rhiant. Bydd ganddo’r un enw â chi; bydd yn rhan o’ch teulu’n gyfreithiol. Mae hyn yn barhaol. Ni fydd ganddo gyswllt uniongyrchol â’i rieni geni na’i deulu ehangach o bosib. Mae mabwysiadu’n darparu cartref am byth i blentyn, gan gynnig ymdeimlad o sefydlogrwydd a pherthyn iddo.
Maethu
Trwy faethu, bydd gofalwyr maeth yn darparu cartref dros dro neu dymor hir i blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u teulu geni. Mae gofalwyr maeth yn cynnig amgylchedd sefydlog, cariadus a meithringar tra bod teulu geni’r plentyn yn ceisio goresgyn rhwystrau fel y gall y plant ddychwelyd adref, neu hyd nes y gwneir trefniadau parhaol eraill – gallai hyn gynnwys mabwysiadu neu ofal maeth tymor hir.
Mae gan yr awdurdod lleol a rhiant/rhieni geni neu warcheidwaid y plentyn gyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn. Fodd bynnag, mae gofalwyr a thimau maeth yn y cyngor yn cydweithio i gyflawni’r canlyniadau gorau i’r plentyn.
Fel gofalwr maeth, rydych chi’n gofalu am y plentyn ac yn ei fagu, a gellir gwneud hyn ar sail tymor byr neu dymor hir.
Mae gofal maeth yn caniatáu i blant gynnal cysylltiadau â’u teuluoedd geni lle bo hynny’n briodol, gan hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth a pharhad.
Gall maethu hwyluso twf ac iachâd, a all fod yn amhrisiadwy i blentyn.
Mae llawer o fythau’n bodoli o hyd ynghylch pwy all faethu. Darllenwch ein blog a fydd yn tanseilio bri llawer o’r camdybiaethau.
Bydd y blog hwn yn esbonio’r prif wahaniaethau rhwng maethu a mabwysiadu’n fanylach. Bydd hefyd yn esbonio’r gwahanol opsiynau sydd ar gael o dan y naill opsiwn.
- Y broses – Beth sy’n digwydd?
- Amserlenni – Pa mor hir mae’n ei gymryd nes bod plentyn yn dod i fyw gyda chi?
- Cefnogaeth – Pa gefnogaeth a roddir?
- Y cyfnod y mae’r plentyn gyda chi – Am ba hyd fydd hyn yn digwydd?
- Gwneud penderfyniadau – Pwy all wneud penderfyniadau?
- Cadw mewn cysylltiad â’r teulu geni – Beth sy’n digwydd?
- Ystyriaethau ariannol – Ydych chi’n cael eich talu?
- Opsiynau maethu a mabwysiadu – Pa lwybrau sydd ar gael?
1. y broses – beth sy’n digwydd?
Mae’r prosesau mabwysiadu neu faethu’n debyg iawn.
- Byddwch yn siarad ag aelod o’r tîm maethu neu fabwysiadu. Trwy hyn, gallwch gael rhagor o wybodaeth a bydd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau
- Bydd aelod o’r naill dîm neu’r llall yn dod i ymweld â chi yn eich cartref. Byddant yn gofyn mwy o gwestiynau i chi i ddod i’ch adnabod yn well ac asesu eich addasrwydd i faethu neu fabwysiadu
- Wedyn, byddwch yn mynd ar gwrs hyfforddiant cyn cymeradwyo
- Bydd aelod o’r tîm penodol wedyn yn cynnal asesiad – mae’r rhan hon o’r broses yn fanylach a bydd yn cynnwys y teulu cyfan. Bydd yr asesiad yn cymryd 4-6 mis i’w gwblhau
- Wedyn, byddwch yn mynd i gyfarfod panel maethu neu fabwysiadu lle byddwch yn cael eich argymell ar gyfer cymeradwyaeth
Mabwysiadu
Mae’r broses fabwysiadu‘n gofyn i ddarpar fabwysiadwyr gael asesiad trylwyr i sicrhau eu bod yn gallu darparu amgylchedd sefydlog a chariadus. Er bod teuluoedd mabwysiadu’n derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth mabwysiadu, mae mabwysiadu’n ymrwymiad cyfreithiol gan deulu mabwysiadu i fod yn deulu am byth i blentyn, heb unrhyw gysylltiadau cyfreithiol i’r rhieni geni.
Mae’n rhaid i riant/rieni geni’r plentyn gytuno i’r plentyn gael ei fabwysiadu, oni bai am y canlynol:
- Ni ellir dod o hyd iddynt
- Ni allant roi caniatâd
- Byddai’r plentyn mewn perygl pe na fyddai’n cael ei fabwysiadu
Maethu
Mae’r broses faethu hefyd yn broses drylwyr. Yn y pen draw, mae angen i wasanaeth maethu fod yn hyderus bod ymgeisydd/ymgeiswyr yn addas i ddarparu cartref sefydlog, diogel a chariadus i blant, waeth a ydynt yn maethu ar sail tymor byr neu dymor hir.
2. amserlenni – pa mor hir mae’n ei gymryd nes bod plentyn yn dod i fyw gyda chi?
Maethu
Pan fyddwch wedi cael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, gall plentyn gyrraedd y diwrnod nesaf, neu mewn wythnos neu ddwy o bosib. Mewn gwirionedd, mae eich lleoliad cyntaf yn debygol o ddigwydd yn eithaf cyflym. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod llawer o blant maeth y mae angen cartref arnynt. Fodd bynnag, ein blaenoriaeth yw paru’r plentyn iawn â’r teulu cywir felly mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn i bawb.
Mabwysiadu
Gall hyn gymryd llawer mwy o amser ac mae sawl ffactor yn effeithio ar yr amserlenni.
Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yw’r asiantaeth fabwysiadu leol ar gyfer Abertawe, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr. Wrth i chi gael eich asesu, efallai y bydd ganddynt blentyn mewn golwg i chi ei fabwysiadu, ond wrth gwrs, mae angen iddynt aros nes eich bod chi’n cael eich cymeradwyo’n ffurfiol.
Pan fyddwch yn cael eich cymeradwyo fel mabwysiadwr, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at Gofrestr Mabwysiadu Cymru fel y gellir eich ystyried ar gyfer plant ar draws Cymru.
Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn dechrau gweithio gyda’i Dîm Mabwysiadu Dod o Hyd i Deulu i nodi plant y gallech ddiwallu eu hanghenion.
Os yw’r gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu’n teimlo y gellir paru babi neu blentyn yn berffaith, dyma fydd y broses:
- Byddant yn dechrau’r broses paru
- Byddant yn eich cyflwyno i’ch gilydd – bydd hyn yn cynnwys gofalwr maeth y plentyn
- Bydd y plentyn yn symud i’ch tŷ
- Rhoddir Gorchymyn Mabwysiadu – mae’r plentyn yn gyfreithiol yn blentyn i chi
Mae’r broses o nodi’r plentyn cywir ar gyfer mabwysiadwyr yn amrywio. Yn aml, bydd yn cymryd o leiaf 3-6 mis arall ar ôl eich cymeradwyaeth. Weithiau gall gymryd yn hirach.
Mae’r amser y mae’n ei gymryd i chi gael eich paru â phlentyn fel arfer yn dibynnu ar eich meini prawf – oedran y plentyn/plant rydych yn dymuno ei fabwysiadu/eu mabwysiadu, nifer y plant rydych chi’n gobeithio eu mabwysiadu ac a ydych yn fodlon ystyried plant ag anghenion cymhleth neu’r rheini sydd â chyflyrau meddygol.
Os ydych chi eisiau mabwysiadu babi, yna fel arfer gall y broses paru gymryd mwy o amser. Fodd bynnag, gellir cyflymu hyn os ydych chi:
- yn agored i blant ag ystod odran ehangach
- yn gallu mabwysiadu mwy nag un plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd
- yn fodlon mabwysiadu plant ag anghenion cymhleth neu’r rheini sydd â chyflyrau meddygol
Mae’r amserlenni hefyd yn dibynnu ar y plant sy’n aros i ddod o hyd i fabwysiadwr/fabwysiadwyr ar yr amser penodol hwnnw.
3. cefnogaeth – pa gefnogaeth a roddir?
Os ydych chi eisiau maethu neu fabwysiadu, mae cael cefnogaeth yn hanfodol – boed hynny oddi wrth aelodau’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cyflogwyr, mabwysiadwyr eraill neu ofalwyr maeth eraill.
Nid yw gofalu am blant sydd wedi profi trawma’n hawdd a gall gyflwyno heriau. Mae’n bwysig nad ydych byth yn teimlo’n unig. Fodd bynnag, p’un a ydych chi’n penderfynu maethu neu fabwysiadu, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth maethu neu’r gwasanaeth mabwysiadu.
Bydd Maethu Cymru Abertawe a Gwasanaeth Mabwysiadau Bae’r Gorllewin yno i chi bob cam o’r ffordd.
Cefnogaeth gan Faethu Cymru Abertawe
Byddwch yn derbyn llawer o gefnogaeth gan Faethu Cymru Abertawe. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol, yn ogystal â’ch gweithiwr cymorth dynodedig, yn ymweld â chi’n rheolaidd. Bydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn hefyd yn ymweld â’ch tŷ, yn bennaf i gefnogi’r plentyn ond bydd hefyd yn darparu cefnogaeth lle bo angen.
Byddwch hefyd yn derbyn llawer o gefnogaeth anffurfiol gan y gwasanaeth maethu fel eich bod yn gymwys i ddarparu’r gofal a’r sefydlogrwydd angenrheidiol i unrhyw blentyn.
Disgwylir hefyd i chi fynd i gyrsiau hyfforddiant a mabwysiadu dull dysgu hyblyg i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad fel gofalwr maeth.
Caiff gofalwyr maeth eu cefnogi’n ariannol ar gyfer pob plentyn y maent yn gofalu amdano.
Bydd unrhyw gymorth a dderbynnir gan eich cyflogwr yn dibynnu ar a yw’n ‘croesawu maethu’ neu a oes ganddo bolisi gweithio hyblyg. Mae Maethu Cymru Abertawe’n annog pob busnes lleol i ystyried croesawu maethu os nad ydynt eisoes yn gwneud hynny.
Mae’n golygu rhoi gwyliau blynyddol ychwanegol i ofalwyr maeth fel y gallant gymryd amser i helpu plentyn i ymgartrefu yn eu teulu maethu newydd, mynd i gyrsiau hyfforddiant neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â maethu.
Cefnogaeth gan Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin
Pan fyddwch yn cael eich paru â phlentyn a’u bod wedi trosglwyddo o’u gofalwr maeth i chi fel mabwysiadwr, bydd eich gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu a gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn ymweld â chi ac yn eich cefnogi.
Yn ystod y broses paru, llunnir Cynllun Cefnogi Mabwysiadu ar gyfer y plentyn, a fydd yn ystyried ei anghenion presennol a’r hyn y mae’n debygol y bydd ei angen arno yn y dyfodol.
Bydd ymweliadau rheolaidd â’ch cartref a bydd y lleoliad yn cael ei adolygu’n unol â’r rheoliadau mabwysiadu i sicrhau bod popeth yn iawn a bod anghenion eich plentyn a rhai’r teulu’n cael eu diwallu. Yn y pen draw, gallwch gael mynediad at y lefel angenrheidiol o gefnogaeth ar gyfer mabwysiadu pan fydd ei hangen arnoch.
Ni fydd y llysoedd yn ystyried cais mabwysiadu nes bod y plentyn/plant wedi byw gyda chi am o leiaf 10 wythnos. Yn aml, mae’r cyfnod hwn yn hirach gan fod angen i bawb deimlo bod y plentyn wedi ymgartrefu gyda’r teulu a bod pawb yn y teulu mabwysiadu’n fodlon bod yn deulu newydd neu estynedig.
Unwaith y bydd cais i fabwysiadu wedi’i gyflwyno yn y llys, mae’r broses llys yn dechrau. Byddwch yn cael eich hysbysu o’r cynnydd ar bob cam o’r ffordd. Weithiau gall gymryd ychydig fisoedd i’r llysoedd ganiatáu Gorchymyn Mabwysiadu. Ar ôl gwneud hyn, byddwch yn dod yn rhiant y plentyn yn gyfreithiol.
Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad at gefnogaeth gan Dîm Ôl-fabwysiadu Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin. Maent yn fedrus wrth gefnogi teuluoedd a phlant sy’n profi anawsterau neu y mae angen arweiniad a chyngor arnynt. Bydd y rhan fwyaf o fabwysiadwyr yn cael mynediad at y gefnogaeth hon ac maent yn cydnabod y manteision.
Fel mabwysiadwr, bydd cymorth ariannol fel lwfans mabwysiadu ond ar gael mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae gan fabwysiadwyr sydd wedi’u cyflogi hawl gyfreithiol i absenoldeb mabwysiadu, sy’n debyg i absenoldeb mamolaeth a thadolaeth.
4. y cyfnod y mae’r plentyn gyda chi – am ba hyd fydd hyn yn digwydd?
Mae hyd cyfnod y plentyn gyda chi, boed a yw am byth, am gyfnod byr neu am flynyddoedd lawer, yn dibynnu ar a ydych yn maethu neu’n mabwysiadu.
Maethu
Mae llawer o bobl yn dweud y byddent yn hoffi maethu ond maen nhw’n cael eu rhwystro oherwydd y byddai angen iddynt ffarwelio â’r plant. Maent yn poeni y byddant yn dod yn rhy hoff ohonynt. Mewn gwirionedd, mae dod yn hoff o’r plentyn yn beth cadarnhaol oherwydd mae’n dangos faint rydych chi’n gofalu am y plant ac yn eu caru. Dyna’n union beth rydyn ni ei eisiau i’n gofalwyr maeth.
Wrth gwrs, mae’n anodd pan fydd plentyn yn symud ymlaen ac ni ddylid lleihau’r emosiynau rydych chi’n eu teimlo pan fydd yn gadael na’u cymryd yn ganiataol. Pan fydd gofalwr maeth yn symud plentyn, gallant fod yn helpu trosglwyddo plentyn yn ôl i’w deulu, i gael ei fabwysiadu, i leoliad byw’n annibynnol neu i ofalwyr maeth sy’n gallu gofalu amdano fel rhan o drefniant tymor hir.
Pan fydd plentyn yn gadael, does dim rhaid iddo ffarwelio am byth. Mae llawer o’n gofalwyr maeth yn cadw mewn cysylltiad â’r plant maen nhw wedi gofalu amdanynt. Mae hyn yn digwydd naill ai’n uniongyrchol drwy’r plant (os ydynt yn hŷn) neu drwy deuluoedd, gofalwyr maeth neu fabwysiadwyr.
Yr unig ffordd y gall plant elwa yw trwy gael llawer o bobl yn eu bywydau sy’n eu caru ac yn gofalu amdanynt.
Yn y pen draw, nod maethu yw dychwelyd y plentyn i’w deulu os yw’n ddiogel gwneud hynny. Os nad yw hynny’n bosib, byddant yn parhau i fyw gyda gofalwyr maeth sy’n gallu darparu amgylchedd teuluol diogel a chariadus gan gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae’r plant yn dod yn rhan o’ch teulu, ond nid yw hyn yn swyddogol mewn unrhyw ffordd.
Os nad yw’r syniad o ofalu am blant am gyfnodau byr yn addas i chi, efallai y byddai maethu tymor hir fod yn fwy addas. Dyma lle gall plentyn fyw gyda chi nes eu bod yn 18 oed neu’n hŷn.
Mabwysiadu
Mae hyn yn syml iawn mewn perthynas â mabwysiadu. Bydd y plentyn yn dod yn aelod cyfreithiol a pharhaol o’ch teulu. Chi yw ei riant. Byddwn gyda chi am byth.
5. gwneud penderfyniadau – pwy all wneud penderfyniadau?
Maethu
Pan fyddwch yn maethu, rhennir y cyfrifoldeb rhiant rhwng y rhiant geni a’r awdurdod lleol, sydd wedyn yn dirprwyo’r cyfrifoldeb i’r gofalwr maeth.
Pan fydd plentyn yn mynd i fyw gyda gofalwr maeth, penderfynir pa benderfyniadau pob dydd y gall y gofalwr eu gwneud ei hun. Fodd bynnag, gwneir penderfyniadau penodol ar y cyd rhwng gweithwyr cymdeithasol, teulu geni a gofalwyr maeth y plentyn.
Rhoddir gwybod i ofalwyr maeth pa benderfyniadau y gallant eu gwneud ai peidio fel bod popeth yn dryloyw ac nid oes unrhyw ddryswch.
Mabwysiadu
Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, byddwch yn dod yn rhiant iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud penderfyniadau am bob agwedd ar fywyd eich plentyn – pa ysgol mae’n mynd iddi, a all fynd ar daith ysgol, unrhyw driniaeth feddygol y mae’n ei derbyn neu a all fynd i dŷ ffrind.
6. cadw mewn cysylltiad â’r teulu geni – beth sy’n digwydd?
Os ydych yn ofalwr maeth neu’n fabwysiadwr, mae cynnal perthynas gadarnhaol â’r teulu geni mor bwysig i blant. Mae’n eu helpu i ddeall eu hanes a symud ymlaen i’r dyfodol mewn ffordd gadarnhaol.
Maethu
Fel gofalwr maeth, gall cyswllt â theulu geni’r plentyn fod mor aml â chyswllt dyddiol neu wythnosol, yn enwedig ar gyfer plant sydd wedi dod i ofal yn ddiweddar, babanod ifanc neu blant sy’n debygol o ddychwelyd i’r teulu geni. Mae hyn fel arfer yn digwydd wyneb yn wyneb yn y gymuned leol.
Gan amlaf, mae amser teulu’n cael ei gydlynu gan weithwyr cyswllt sy’n cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol. Mewn rhai achosion, bydd gofalwyr maeth yn rheoli cyswllt â’r teulu’n uniongyrchol.
Ar gyfer maethu tymor hwy, gallai amlder y cyswllt ag aelodau o’r teulu ostwng i gyswllt misol, sawl gwaith y flwyddyn, neu hyd yn oed yn flynyddol.
Mabwysiadu
Dylai plant bob amser wybod eu bod wedi cael eu mabwysiadu o oedran ifanc ac yn ddelfrydol, cyn iddynt gyrraedd oed ysgol. Dylent wybod pwy yw eu ‘teulu geni’ – bydd hyn yn eu helpu i ddeall eu hanes, datblygu ymdeimlad o hunaniaeth, ac yn eu helpu i gysylltu â’u perthnasau geni.
Yn dibynnu ar y trefniant mabwysiadu, gall plentyn mabwysiedig gadw mewn cysylltiad â brodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu sy’n bwysig iddo. Bydd yr amlder a’r math o gyswllt yn wahanol i bob plentyn – mae’r cyfan yn dibynnu ar yr hyn sydd er budd gorau’r plentyn.
Bydd gan y rhan fwyaf ohonynt gyswllt anuniongyrchol trwy flwch llythyrau a reolir gan yr asiantaeth fabwysiadu. I rai plant, bydd hyn yn aros yr un peth, neu wrth i’r plentyn dyfu, efallai y bydd yn dechrau cael cyswllt mwy uniongyrchol â’i berthnasau geni.
Beth bynnag sy’n cael ei benderfynu, mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar yr hyn y mae’r plentyn ei angen neu ei eisiau.
7. ystyriaethau ariannol – ydych chi’n cael eich talu?
Maethu
Mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfans plentyn wythnosol i dalu am gostau gofalu am blentyn yn ogystal â ffi gofalwr am eu hamser a’u sgiliau wrth ofalu am blentyn. Maent yn derbyn lwfans plentyn a ffi gofalwr am bob plentyn sy’n cael ei leoli gyda nhw.
Yr isafswm y byddwch yn ei dderbyn gan Faethu Cymru Abertawe yw £442 yr wythnos, fesul plentyn. Mae’r tâl y mae gofalwr maeth yn ei dderbyn yn dibynnu ar oedran y plentyn yn ogystal â’i anghenion. I ddarganfod mwy am dâl gofalwyr maeth, darllenwch ein blog.
Mabwysiadu
Os ydych chi’n mabwysiadu trwy awdurdod lleol, yn wahanol i asiantaethau mabwysiadu preifat/annibynnol, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd yr asiantaeth fabwysiadu, a allant gostio miloedd o bunnoedd.
Gall rhieni sy’n mabwysiadu fod yn gymwys i gael lwfans mabwysiadu, sy’n daliad prawf modd i helpu gyda chostau magu plentyn mabwysiedig.
Gall fod rhai rhieni sy’n mabwysiadu’n gymwys ar gyfer y Gronfa Cymorth Mabwysiadu, sef cynllun a ariennir gan y llywodraeth sy’n darparu cymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau therapiwtig i blant sydd wedi’u mabwysiadu.
8. opsiynau maethu a mabwysiadu – pa lwybrau sydd ar gael?
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn penderfynu rhwng dod yn ofalwr maeth neu’n fabwysiadwr ond mae mwy o opsiynau i’w hystyried.
Maethu ac yna mabwysiadu
Mae nifer bach o ofalwyr maeth wedi mabwysiadu’r plant yn eu gofal. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gyffredin iawn ac nid mabwysiadu yw nod maethu. Yn gyntaf, y cynllun gofal ar gyfer llawer o’r plant neu’r bobl ifanc mewn gofal maeth yw gofal maeth tymor hir, nid mabwysiadu. Yn ail, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd y gofalwr maeth yn cael ei ddewis yn awtomatig fel y mabwysiadwr os bydd yn cyflwyno cais i fabwysiadu plentyn y mae ei gynllun gofal yn cynnwys mabwysiadu. Mae’r cyfan yn dibynnu ar baru a gwneir y penderfyniad gan weithiwr cymdeithasol y plentyn, ynghyd â’r gwasanaeth mabwysiadu.
Yn ogystal, nid yw cael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth yr un peth â chael eich cymeradwyo fel rhiant mabwysiadu, felly byddai angen i chi fynd drwy’r broses gymeradwyo er mwyn mabwysiadu.
Bydd hefyd angen i chi ystyried sut y gall eich perthynas â’r rhieni geni gael ei effeithio pe baech chi’n cael eich dewis i fabwysiadu’r plentyn.
Sefydlogrwydd Cynnar
Yng Nghymru, ceir opsiwn i ‘faethu i fabwysiadu’ bellach.
Mae’r math hwn o fabwysiadu, a elwir yn Sefydlogrwydd Cynnar Cymru, yn cynnwys canran fach o blant mewn gofal, y mae eu cynlluniau gofal yn debygol o arwain at fabwysiadu.
Mae gofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn cael eu cymeradwyo fel mabwysiadwyr a gofalwyr maeth ar yr un pryd. Mae mabwysiadwyr posib yn maethu’r plentyn tra bod y penderfyniad am ei gynllun gofal yn cael ei gadarnhau.
Mae babanod neu blant bach yn cael eu rhoi gyda’r gofalwyr hyn cyn gynted â phosib a chyn i’r cynllun ar gyfer mabwysiadu gael ei gadarnhau gan y llys.
Byddwch yn cael eich asesu, eich hyfforddi a’ch cefnogi fel gofalwr maeth yn ystod y cyfnod hwn.
Os yw’r llys yn cytuno ar gynllun mabwysiadu ar gyfer y plentyn, bydd trosglwyddiad di-dor heb i’r plentyn orfod symud o gartref y gofalwyr maeth y mae eisoes wedi meithrin perthynas â nhw. Byddai’r gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn mynd o fod yn ofalwr maeth y babi i’w riant mabwysiadol.
Fodd bynnag, mae’n hanfodol nodi pan fydd y plentyn/babi yn cael ei leoli gyda gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru mai gofalwr maeth y plentyn ydyw ar y cam hwn, nid y rhiant mabwysiadu. Er enghraifft, ni all ddefnyddio’r enw ‘mam/dad’ ac ni ellir galw ei deulu ehangach yn ‘nain/taid/modryb/ewythr’. Dim ond pan fyddant yn dod yn rhieni mabwysiadol y plentyn yn swyddogol y gall hyn ddigwydd.
Dan y cynllun sefydlogrwydd cynnar hwn, ni ellir gwarantu 100% y caiff y plentyn ei fabwysiadu. Mewn nifer bach iawn o achosion, gall y llys benderfynu ei bod yn iawn i’r plentyn ddychwelyd at ei rieni neu aelodau ehangach o’r teulu.
Gallwch ddarganfod mwy am gynllun Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yma.
Mabwysiadu yna maethu
Mae rhai mabwysiadwyr yn penderfynu maethu flynyddoedd ar ôl iddynt fabwysiadu. Maen nhw eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, gan wybod y gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i’w plentyn cyn iddo gael ei fabwysiadu.
Gan eu bod wedi bod drwy’r broses fabwysiadu, bydd ganddynt lawer o wybodaeth a phrofiad i’w gynnig.
Byddant wedi dangos bod ganddynt y nodweddion sy’n ofynnol i fod yn ofalwr maeth – amynedd, empathi, cydnerthedd, dealltwriaeth, ymrwymiad, cyfathrebu da, a bod yn gefnogol.
Unwaith eto, nid yw cael eich cymeradwyo fel mabwysiadwr yr un peth â chael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth, felly bydd angen i chi fynd drwy’r broses gymeradwyo i faethu. Fodd bynnag, gellir defnyddio eich asesiad mabwysiadu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer rhannau penodol o’r asesiad maethu.
Cyn i chi ddechrau’r daith i faethu, mae’n bwysig bod eich plentyn/plant mabwysiedig yn barod amdani a’ch bod yn barod pe bai’r asesiad maethu yn eu hatgoffa am unrhyw brofiadau o’r gorffennol.
Mabwysiadu a pharhau i faethu
Efallai y bydd rhai gofalwyr maeth yn parhau i faethu ar ôl iddynt fabwysiadu plentyn. Efallai eu bod wedi mabwysiadu babi neu blentyn bach ond yn dal i ddarparu gofal seibiant, neu ofal maeth tymor byr neu dymor hir i blant eraill.
Os ydych yn parhau i faethu ar ôl i chi fabwysiadu plentyn, efallai y bydd y plentyn yn eich gofal yn gofyn rhai cwestiynau anodd ynghylch pam nad ydych chi’n eu mabwysiadu. Yn dibynnu ar statws cyfreithiol y plentyn, efallai na fydd mabwysiadu hyd yn oed yn opsiwn ond serch hynny, bydd angen rhoi esboniad yn ofalus i’r plentyn fel nad yw’n teimlo’n wahanol, yn ansicr ac fel petai’n cael ei eithrio.
Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig
Nid yw lleoli plentyn gyda chi dan orchymyn gwarcheidwaeth arbennig yr un peth â maethu neu fabwysiadu.
Gorchymyn llys sy’n lleoli plentyn yng ngofal tymor hir rhywun heblaw am eu rhieni gan barhau i gynnal cysylltiadau cyfreithiol y plentyn â’i deulu geni yw Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.
Mae’n rhoi cyfrifoldeb rhiant gwarcheidwad arbennig am y plentyn nes iddo droi’n 18 oed sy’n golygu y gall wneud penderfyniadau am fagwraeth y plentyn, megis ble mae’n byw, pa ysgol mae’n mynd iddi a phenderfyniadau am driniaeth feddygol.
Yn wahanol i fabwysiadu, nid yw Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn torri perthynas y plentyn â’i riant/rieni geni. Gall fod achlysuron o hyd lle mae angen caniatâd y teulu, h.y. i newid cyfenw.
Nid ystyrir plentyn dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig bellach fel plentyn sy’n derbyn gofal ac felly mae cyfranogiad gweithwyr cymdeithasol yn lleihau. Fodd bynnag, gall yr awdurdod lleol ddarparu cymorth o hyd.
Gall gofalwyr maeth wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig ar gyfer plentyn neu berson ifanc pan fydd wedi byw gyda nhw am o leiaf 12 mis.
Pan fydd plentyn dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig, gall ddarparu ymdeimlad dyfnach o sefydlogrwydd a pharhaol i blentyn.
maethu neu fabwysiadu – myfyrdod terfynol
Os ydych chi eisiau i rywun eich galw’n ‘mam’ neu ‘dad’ ac rydych chi eisiau cael plentyn i chi’ch hun am byth, mabwysiadu yw’r peth iawn i chi.
Os oes gennych rywbeth i’w gynnig i lawer o blant dros gyfnod a hoffech eu helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair, yna mae’n debyg bod maethu’n fwy addas i chi.
Os ydych chi’n penderfynu maethu neu fabwysiadu, byddwch yn darparu cartref cariadus i un plentyn neu sawl plentyn o hyd.
Yn y pen draw, mae dewis rhwng maethu a mabwysiadu’n dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch nodau unigol. Mae’r ddau opsiwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc elwa o sefydlogrwydd a chefnogaeth mewn cartref cariadus. Mae’r ddau’n cyflwyno eu heriau a’u buddion eu hunain, felly dylech ystyried eich sefyllfa eich hun yn ofalus cyn gwneud penderfyniad.
I ddarganfod mwy am fabwysiadu yn Abertawe, cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin.
I ddarganfod mwy am faethu yn Abertawe, cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe.