stori

stori suzi a dennis: maethu fel teulu

Pan symudodd Suzi a Dennis Stock i Abertawe ym mis Mehefin 2023, roedden nhw’n mynd ar drywydd mwy nag awel y môr a gwell ansawdd bywyd – roedden nhw’n gwneud lle o’r diwedd ar gyfer breuddwyd hirsefydlog: maethu.

Gyda chwech o blant eu hunain, tri yn oedolion a thri gartref o hyd, mae eu tŷ bob amser wedi bod yn llawn cariad, chwerthin, ac anhrefn llawen bywyd teuluol. Mabwysiadon nhw eu plentyn ieuengaf yn ddiweddar, gan ychwanegu pennod hyfryd arall at eu taith gofalu am blant.

Am dros 18 mlynedd, bu Suzi a Dennis yn rhedeg busnes gofal plant o’u cartref yn Lloegr, gan gynnig gofal rheolaidd a chymorth brys a seibiant hefyd i deuluoedd mewn argyfwng. Roedd maethu bob amser wedi bod yn eu calonnau, ond heb ystafell wely sbâr, doedd hyn ddim yn bosib. Newidiodd hynny pan symudon nhw i Abertawe – a gwnaethon nhw ddim gwastraffu eiliad. Cysyllton nhw â Maethu Cymru Abertawe a dechreuon nhw ar eu taith.

Ym mis Mawrth 2024, daethant yn ofalwyr maeth cymeradwy. Heddiw, wrth i Suzi weithio fel gweinyddes feithrin, mae Dennis yn ofalwr maeth amser llawn. Ond nid eu rôl nhw’n unig yw maethu – mae’n rôl deuluol.

“dechreuom faethu i helpu eraill ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol newydd â’r plant a leolwyd gyda ni. rydyn ni am i bob plentyn sy’n byw gyda ni deimlo’n rhan o’n teulu, waeth pa mor fyr neu hir yw’r cyfnod y maen nhw gyda ni.”

Mae eu plant eu hunain wedi croesawu maethu gyda chalonnau agored. Gan eu bod wedi tyfu i fyny wedi’u hamgylchynu gan blant, maen nhw bob amser wedi gwybod beth mae’n ei olygu i rannu, croesawu, a gofalu. Nawr, maen nhw’n addasu a hefyd yn ffynnu.

“maen nhw’n mwynhau chwarae gemau gyda’i gilydd, darllen, helpu gyda gwaith cartref, mynd ar reidiau beic, gwyliau, a hyd yn oed dawnsio i just dance! mae’n hyfryd gwylio hyn.”

Mae maethu wedi newid eu plant mewn ffyrdd dwfn. Mae wedi dysgu empathi, amynedd, a dealltwriaeth ddyfnach o’r byd iddynt.

“mae wedi’u helpu i ddysgu am y materion y gall plant eraill eu hwynebu. maen nhw wedi dod yn fwy gwerthfawrogol o’u magwraeth eu hunain.”

Mae hoff atgofion Suzi yn syml ond yn bwerus – teithiau beicio yn Centre Parcs, chwerthin yn y môr ym Majorca, a chynhesrwydd traddodiadau’r Nadolig wedi’u rhannu â phlant maeth. Mae’r eiliadau hyn yn rhai llawen a hefyd yn drawsnewidiol.

“gwylio fy merch yn tawelu meddwl ein plentyn maeth ar y sleidiau mawr, eu gweld yn chwarae gyda’i gilydd yn y môr… mae’r rhain yn atgofion y byddaf yn eu trysori am byth.”

I Suzi a Dennis, mae maethu wedi dod â’u teulu’n agosach ac wedi agor llygaid eu plant i’r gwirioneddau y mae eraill yn eu hwynebu. Mae wedi’u gwneud yn fwy cariadus, yn fwy croesawgar ac yn fwy ymwybodol.

“mae wedi gweithio’n dda i ni. oes, mae heriau, ond mae’r pethau cadarnhaol yn drech na nhw.”

Os ydych chi’n rhiant sy’n meddwl tybed sut y gallai maethu effeithio ar eich plant eich hun, mae gan Suzi un neges:

“peidiwch â bod ag ofn. roedd ein plant yn ei ystyried fel cael mwy o ffrindiau i chwarae gyda nhw a mynd ar anturiaethau gyda nhw. mae wedi cyfoethogi eu bywydau.”

dechreuwch eich taith faethu eich hun

Os ydych yn chwilfrydig am faethu ond yn ansicr ynghylch sut y gallai effeithio ar eich teulu, rydyn ni yma i helpu. Gall ein tîm fynd drwy’r broses gyda chi, ac esbonio sut bydd eich plant yn cael eu cefnogi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Ffoniwch wasanaeth Maethu Cymru Abertawe ar 0300 555 0111 i gael sgwrs gyfeillgar, heb bwysau neu cysylltwch yma.

Am ddysgu mwy ynghylch sut mae maethu’n effeithio ar eich plant eich hun? Darllenwch ein blog yma.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch