Mae Wendy Jenkins yn fam sengl i’w mab 36 oed, yn fam-gu, gofalwr maeth ers bron pum mlynedd ac mae mewn gwaith amser llawn.
Mae hi wedi gweithio’n amser llawn ers i’w mab fod yn 12 oed, a dros ei gyrfa, mae hi wedi cael amrywiaeth o swyddi, a phob un mewn rolau gofal cymdeithasol yn gyffredinol.
Ers y gall Wendy gofio, roedd hi erioed am fod yn ofalwr maeth, ond roedd amgylchiadau yn ei hatal bob tro ar y pryd. Fodd bynnag, newidiodd y cyfan pan awgrymodd ei ffrind, a oedd yn gweithio mewn tîm maethu, y gallai Wendy gynnig seibiant.
I ddechrau, ymunodd Wendy ag asiantaeth faethu annibynnol, gan gynnig seibiant yn bennaf i bobl ifanc dros 11 oed.
“mae seibiant yn cyd-fynd â’m hamgylchiadau“
Meddai Wendy: “Gan fy mod i’n dal i weithio’n amser llawn ac yn ymwneud llawer â dau ŵyr ifanc, mae cynnig seibiant rheolaidd yn cyd-fynd â’m hamgylchiadau ac mae’n golygu y galla i gefnogi gofalwyr maeth eraill gyda gwasanaeth sydd ei angen yn fawr.
“Rwyf wrth fy modd â’r bobl ifanc hyn yn dod draw i aros. Yn un o’m rolau, gweithiais i gyda phobl ifanc oedd yn gadael gofal felly rwy’n ymwybodol o sut maen nhw’n teimlo am fod mewn gofal a pha mor bwysig yw cael y gofalwr maeth cywir a fydd yn cymryd yr amser i wrando, cynnig dod o hyd i atebion, a rhoi cyngor am eu pryderon. Mae hyn yn aml yn eu helpu i fod yn fwy sefydlog yn eu lleoliad parhaol.”
Wrth faethu ar gyfer asiantaeth, roedd gan Wendy berson ifanc oedd wedi’i lleoli gyda hi mewn argyfwng yn y tymor byr. Arhosodd gyda hi am ryw dri mis. Yn ystod y cyfnod hwn, dyma nhw’n datblygu cwlwm cryf.
“Dwedodd wrtha i, pan oedd mewn therapi, fod yn rhaid iddo ddewis tri pherson i fod ar ei ynys. Roedd e wedi fy newis i fod yno gydag e.”
Arhosodd Wendy gyda’i hasiantaeth am bedair blynedd ond penderfynodd drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe ar ôl peidio â chael ei defnyddio’n ddigonol.
pam gwnaethoch chi benderfynu trosglwyddo i faethu cymru abertawe?
“Fy rhesymu gwreiddiol dros symud i Faethu Cymru Abertawe oedd oherwydd bod y person ifanc a ges i ar seibiant wedi ei leoli gyda gofalwr Maethu Cymru Abertawe. Trwy drosglwyddo i’r awdurdod lleol, roedd yn golygu y gallwn i barhau i gynnig seibiant iddo. Dwy flynedd wedyn, a llawer o bitsa a sgyrsiau hir, mae’n dal i ddod ata i ar seibiant ac mae e’n rhan fawr o’n teulu.”
Mae llawer o ofalwyr maeth asiantaeth yn holi am drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe – gwasanaeth maethu’r Cyngor – ond yn aml dydyn nhw ddim yn gwneud oherwydd eu bod nhw’n ofni y bydd y broses o symud drosodd yn cymryd gormod o amser. Yn ogystal, mae llawer yn cymryd yn ganiataol y byddan nhw’n derbyn taliadau llai gan yr awdurdod lleol ar gyfer eu rôl yn ofalwr maeth, ac nid yw hynny’n wir.
sut oedd y broses o symud draw i faethu cymru abertawe?
Dwedodd Wendy: “Roedd y broses o drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe yn hawdd iawn. Y cyfan oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd cwblhau’r blynyddoedd rhwng ymuno â’r asiantaeth breifat a phan ymunais â Maethu Cymru Abertawe. Gan nad oedd llawer wedi newid o fewn fy amgylchiadau, roedd y broses yn gynt o lawer. Manteision bod gyda Maethu Cymru Abertawe yw bod y plant yn lleol, mae llawer o gyfleoedd hyfforddi, mae’r grwpiau cymorth yn lleol, ac rydyn ni’n cael gwybodaeth reolaidd a chyfredol.
pam gwnaethoch chi benderfynu trosglwyddo i’ch awdurdod lleol?
Y prif reswm y penderfynodd Wendy drosglwyddo i wasanaeth maethu ei hawdurdod lleol oedd oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd hi’n cael ei defnyddio digon. Fodd bynnag, ers ymuno â Maethu Cymru Abertawe, mae Wendy wedi cael ei chadw’n brysur gyda cheisiadau seibiant.
Meddai Wendy: “Ers ymuno â Maethu Cymru Abertawe yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy wedi cael cynnig sawl lleoliad seibiant ac argyfwng i bobl ifanc. Yn ddiweddar, rwy wedi dechrau taith newydd gyda pherson ifanc sydd â nifer o anghenion dysgu ychwanegol. Mae wedi bod yn dod un penwythnos y mis ers mis Mawrth. Roedd y bachgen ifanc wedi aros am wythnos o seibiant, ac yna dyma fe’n dweud, ‘Rwy’n mynd i weld eich eisiau chi’ wrth sôn am ddychwelyd adref. Roedd hon yn foment arbennig iawn i mi. Mae ei ofalwyr maeth yn dweud wrtha i ei fod e’n gofyn pryd bydd ei ymweliad nesaf ac yn edrych ymlaen at ddod. Rwy wedi datblygu perthynas mor dda â gofalwyr maeth y person ifanc ac yn aml rydyn ni’n mynd i ddigwyddiadau arbennig yn gyfan gwbl i ddangos i’r person ifanc faint mae pawb yn ei werthfawrogi.”
Nid yw Wendy yn difaru trosglwyddo o’i hasiantaeth i Faethu Cymru Abertawe ym mis Rhagfyr 2023.
ydych chi’n teimlo mai penderfyniad cywir oedd trosglwyddo i faethu cymru abertawe?
Meddai Wendy: “Rwy’n teimlo mai trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe yw un o’r pethau gorau rwyf wedi’u gwneud, ac rwy’n dymuno fy mod i wedi symud yn gynt. Rwy wedi cwrdd â chymaint o blant gwych gyda chymeriadau gwych ac maen nhw wedi dod â chymaint o lawenydd i mewn i’m cartref i. Os oedd angen cymorth arna i, rydw i bob amser wedi gallu cysylltu â rhywun yn yr adran i gael cyngor a gwybodaeth. Rwy hefyd wedi bod yn ffodus i gael gweithiwr cymdeithasol goruchwylio gwych, sydd wedi rhoi’r lefel gywir o gymorth sydd ei hangen arnaf. Byddwn wir yn argymell Maethu Cymru Abertawe i unrhyw un a phawb.
mae’r budd yn gorbwyso’r heriau
Ac er y gall maethu fod yn heriol ar adegau, bydd gofalwyr maeth bob amser yn dweud bod y budd yn gorbwyso’r heriau.
Meddai Wendy: “Galla i ddweud yn onest o waelod fy nghalon mai maethu yw un o’r swyddi anoddaf i mi eu gwneud erioed, ond mae’r budd yn gwbl anhygoel. Dwedes i wrth ffrind a oedd yn ystyried dod yn ofalwr maeth, am beidio â meddwl am y peth, dim ond ei wneud! Cynigiais rif Maethu Cymru Abertawe iddyn nhw yno ac yna.”
Allwch chi roi profiadau ac atgofion i blant fydd yn para am oes?
oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo i faethu cymru abertawe?
Fel eich gwasanaeth maethu awdurdod lleol, eich Cyngor lleol, nid ydym yn gwneud elw, ac ni fyddwn ni byth. Ein nod ni yw darparu gofal a sefydlogrwydd i’n plant lleol, drwy sicrhau bod gennym ni ofalwyr maeth ymroddedig ac ymrwymedig. Ein prif flaenoriaeth yw llesiant a dyfodol y plant hyn y mae gwir angen ein help ni arnyn nhw.
Os ydych chi’n ofalwr maeth asiantaeth ac yn ystyried trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe, cysylltwch yma. Gall y tîm roi gwybodaeth i chi am y broses drosglwyddo a rhoi mwy o wybodaeth i chi am faethu ar gyfer Maethu Cymru Abertawe, gan gynnwys y cymorth, y tâl a’r hyfforddiant a ddarparwn i’n gofalwyr maeth.
Ar gyfer gofalwyr maeth asiantaeth sy’n byw y tu allan i Abertawe, ewch i www.fosterwales.gov.wales i ddod o hyd i’ch gwasanaeth maethu awdurdod lleol.