blog

y broses o ddod yn ofalwr maeth

cwestiynau cyffredin: y broses faethu

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod y broses, beth sy’n digwydd ym mhob cam, a pha mor hir y mae’n ei gymryd mewn gwirionedd.

Isod ceir atebion i gwestiynau amrywiol y mae pobl yn eu gofyn ynghylch y broses o ddod yn ofalwr maeth.

faint o amser mae’r broses yn ei gymryd?

Ni ddylai’r cyfnod asesu gymryd mwy na chwe mis o’r cais i’r cam cymeradwyo.

Weithiau gall hyn gymryd mwy o amser ond mae hyn yn aml oherwydd argaeledd yr ymgeisydd neu oedi wrth aros am eirdaon. Beth bynnag fo’r rheswm dros yr oedi, byddwn yn eich hysbysu’n rheolaidd.

Mae gofalu am blant a phobl ifanc yn ymrwymiad pwysig, felly mae angen i ni ddod i adnabod ein gilydd yn dda a bod yn siŵr ei fod yn addas i bawb yn eich cartref. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir, gwiriad meddygol gyda’ch meddyg teulu, asesiadau a hyfforddiant. Eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu fydd yn eich cefnogi a bydd gyda chi bob cam o’r ffordd.

mae sawl cam yn y broses o gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth.

Cam 1: Cysylltwch â ni – drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ein gwefan

Cam 2: Bydd aelod o’r tîm yn trafod eich diddordeb â chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Os ydych am fwrw ymlaen, byddwn yn llenwi ffurflen cofrestru diddordeb gyda chi. Mae hyn yn golygu cael gwybodaeth sylfaenol amdanoch ac nid yw’n cymryd llawer o amser i’w llenwi.

Cam 3: Y cam nesaf yw ymweliad cartref cychwynnol. Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i’r cam nesaf hwn ac rydym yn fodlon eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd cychwynnol, byddwn yn trefnu i aelod o’r tîm ymweld â chi a’ch teulu yn eich cartref. Mae’r cam hwn yn ymwneud â dod i’ch adnabod yn well, gweld eich cartref, a chael golwg ar yr ystafell/ ystafelloedd gwely sydd ar gael ar gyfer y plentyn/plant maeth. Rydym yn gofyn hefyd i’r awdurdod lleol wneud gwiriadau.

Cam 4: Bydd yr aelod o staff a ymwelodd â chi’n cwblhau asesiad o’r ymweliad cartref. Yna bydd rheolwr yn cynnal asesiad sicrhau ansawdd cyn penderfynu a allwch symud ymlaen i’n hyfforddiant cyn cymeradwyo. Gelwir hyn yn ‘Sgiliau Maethu’ ac mae’n gwrs hyfforddiant tridiau. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu ar ôl yr ymweliad cartref nad ydych yn dymuno mynd ar drywydd maethu, yna does dim rhwymedigaeth i fynd ymhellach yn y broses.  

Cam 5: Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r hyfforddiant ‘Sgiliau Maethu’, bydd gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn dechrau llunio’ch asesiad Ffurflen F (mae hyn yn cynnwys sawl sesiwn gyda chi a’ch teulu, gwiriadau cefndir, asesiad meddyg gyda meddyg teulu, a geirdaon). Bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn trefnu i ymweld â chi a’ch teulu yn rheolaidd drwy gydol eich cyfnod asesu. Byddwch yn dod i adnabod eich gilydd yn dda a bydd yn llenwi’ch adroddiad asesu gyda chi. Gyda’ch gilydd, byddwch yn trafod pa fathau o faethu sy’n gweddu orau i’ch ffordd o fyw a’ch teulu, a’r plant a’r bobl ifanc y byddwch yn cael eich paru orau â nhw. 

Cam 6: Unwaith y bydd eich asesiad Ffurflen F wedi’i gwblhau, byddwch yn mynd i gyfarfod panel maethu i gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr amrywiol sy’n gofyn cwestiynau’n seiliedig ar eich asesiad Ffurflen F. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yno i’ch cefnogi. Bydd y Panel yn gwneud argymhelliad ynghylch a ddylid eich cymeradwyo ai peidio. Gwneir y penderfyniad terfynol gan Wneuthurwr Penderfyniadau’r Asiantaeth, fel arfer Pennaeth y Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae’r cadarnhad hwn fel arfer yn cymryd 1-2 wythnos.

Cam 7: Dod yn ofalwr maeth a chael eich paru â phlentyn/phlant

pa wiriadau cefndir a geirdaon sydd eu hangen arnaf i ddod yn rhiant maeth?

Pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ofalwr maeth, asesir pawb yn y teulu/ar yr aelwyd. Rydych chi’n maethu gyda’ch gilydd, fel teulu. Cyn i ni wneud unrhyw wiriadau cefndir arnoch chi a’ch teulu, bydd angen i ni gael eich caniatâd yn gyntaf.

Dyma’r gwiriadau a wnawn:

  • gwiriadau troseddol gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
  • gwiriadau meddygol gyda’ch meddyg teulu
  • gwiriadau cefndir gydag awdurdodau lleol
  • geirdaon cyflogwyr – cyflogwr presennol ac unrhyw/yr holl gyflogaeth, â thâl neu’n wirfoddol, lle’r ydych wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion sy’n agored i niwed
  • geirdaon personol x 4
  • geirdaon aelodau o’r teulu x 2
  • Gwiriadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chyfwerth os yw’r ymgeiswyr wedi byw mewn rhannau eraill o’r DU
  • Archwiliad iechyd a diogelwch o gartref yr ymgeisydd

beth yw ffurflen f?

Yn syml, dyma’r asesiad a gwblhawyd gan eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer maethu. Mae’r ddogfen Ffurflen F yn offeryn asesu generig y mae’n rhaid i bob gwasanaeth maethu gadw ato.

Ar ôl cwblhau hyfforddiant cyn cymeradwyo, y cam nesaf o ddod yn ofalwr maeth yw’r asesiad Ffurflen F. Dyma lle bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn gweithio gyda chi i lunio’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer eich asesiad a’ch cymeradwyaeth. Mae’n crynhoi eich addasrwydd ac yn manylu ar eich sgiliau a’ch profiadau.

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol a chynnig cartref diogel a chariadus  iddo, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers