blog

paratoi ar gyfer panel maethu: beth i’w ddisgwyl

beth yw panel maethu?

Cyfarfod a gynhelir yn ystod cam olaf y broses o gael cymeradwyaeth fel gofalwr maeth yw’r panel maethu. Swyddogaeth y Panel Maethu yw gwneud argymhelliad ar geisiadau i fod yn ofalwr maeth. Cyflwynir eich adroddiad asesiad maethu i banel o oddeutu 5-12 o bobl sydd â phrofiad ym maes gofal cymdeithasol, addysg, gofalwyr maeth ac yn aml pobl â phrofiad o fod yn ofalwyr eu hunain. Byddwch hefyd yn mynd i gyfarfod panel maethu i barhau i gael eich cymeradwyo ar ôl eich blwyddyn gyntaf a hefyd i ddod â’ch cymeradwyaeth i ben.

felly, sut beth yw cyfarfod panel maethu mewn gwirionedd?

Gall y gair ‘panel’ arwain at bryder yn syth a swnio’n eithaf brawychus.

‘Ydy e’n mynd i deimlo fel cyfweliad swydd?’ ‘Pwy fydd ar y panel?’ ‘Beth maen nhw’n mynd i’w ofyn i mi?’ ‘A fydda i’n teimlo’u bod yn fy marnu?’

Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau sy’n aml yn mynd trwy feddyliau pobl pan fyddant yn cyrraedd cam olaf eu hasesiad ar gyfer maethu.

Daeth y ofalwr maeth Lucy, a’i gŵr, yn ofalwyr maeth ym mis Gorffennaf 2021. Dyma Lucy yn rhannu’i phrofiad ei hun o sut brofiad yw bod mewn cyfarfod panel maethu mewn gwirionedd a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl.

cwestiynau’r asesiad maethu

Pan fyddwch chi’n creu’ch bod wedi gorffen eich asesiad maethu, rydych chi wedi ateb pob cwestiwn posib am eich plentyndod a’ch magwraeth, rydych chi wedi siarad am y gwahanol berthnasoedd rydych chi wedi’u cael dros y blynyddoedd ac rydych chi wedi adrodd stori’ch bywyd yn fanwl… rydych chi’n dysgu bod gennych un rhwystr terfynol o hyd cyn cyrraedd y llinell derfyn o ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy – y panel maethu!

Doedd gan fy ngŵr a minnau ddim syniad beth i’w ddisgwyl ond roedden ni hefyd yn teimlo na allai fod unrhyw gwestiynau ar ôl i ofyn i ni. Mae’n wir dweud bod y ddau ohonom ychydig yn bryderus cyn y panel maethu gan ei fod yn rhywbeth cwbl anghyfarwydd i ni. 

Ar y pryd, byddai wedi bod yn hynod fuddiol clywed am brofiadau rhywun arall am y panel maethu, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth ar-lein, er gwaethaf y chwiliadau Google niferus.

Cynhaliwyd ein panel maethu cyntaf trwy Microsoft Teams ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hi’n fore arbennig o brysur i ni. Gwyliau’r ysgol oedd hi ac roedd ein tri phlentyn gartref, a phob un eisiau fy sylw fel arfer.

beth i’w wisgo i’r panel maeth

Fe wnes i benderfyniad cyflym i wisgo crys gwaith smart ac eisteddon ni’n amyneddgar wrth i ni aros i gael gwahoddiad i’r cyfarfod Teams. Sylweddolais fy nghamgymeriad cyn hir. Roedd y nerfau, yn ogystal â chlywed ‘mam’ am y 47ain tro’r bore hwnnw, yn golygu fy mod wedi anghofio brwsio fy ngwallt. Doeddwn i ddim yn gallu stopio meddwl am y peth, ac am ba argraff y byddai hynny’n ei gwneud!

Fodd bynnag, pan gawsom ein derbyn i’r cyfarfod Teams, rhoddais wên enfawr yn syth ac edrych ar y bobl oedd ar y sgrîn. Yn ffodus, roedd pawb ar y panel maethu’n ymddangos yn bobl agos atoch ac roedden nhw i gyd yn gwenu, yn groesawgar, ac yn gyfeillgar!

pwy sy’n rhan o banel maethu?

Roedd y gweithiwr cymdeithasol fu yn ein hasesu hefyd yng nghyfarfod y panel maethu, felly roedd hi’n braf iawn gweld wyneb cyfarwydd. Roedd yn help mawr i wybod bod gennym gefnogaeth ddiffuant gan y person oedd wedi dod i adnabod fy nheulu dros y misoedd diwethaf. Roedd y person a oedd yn ddieithryn i ddechrau nawr yn ein cefnogi’n gryf.

Cyflwynodd cadeirydd y panel ei hun ac yna gofynnodd i bawb arall yn y cyfarfod i gyflwyno’u hunain. Roedd sawl person ar y panel maeth ac roedd ganddynt gefndiroedd a phrofiadau gwahanol, ond perthnasol. Roedd y panel yn cynnwys gofalwyr maeth profiadol, aelodau annibynnol a rhai pobl â rôl yn y byd addysg.

Ond, gallaf eich sicrhau nad yw aelodau’r panel maethu yno i’ch dal ar eich cam; maen nhw dim ond eisiau gwneud yn siŵr bod maethu’n iawn i chi.

pa gwestiynau fydd yn cael eu holi mewn panel maethu

Roedd pawb ar y panel wedi darllen ein hasesiad enfawr ‘Ffurflen F’, yr oedd ein gweithiwr cymdeithasol wedi’i llunio, ac roedd yr holl gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau’r panel i’w gweld yn gysylltiedig â’n hamgylchiadau personol.

Gofynnwyd pob cwestiwn mewn ffordd ddymunol ond roedd yn anodd peidio â theimlo dan rywfaint o bwysau.

Rhwng fy ngŵr a fi, a gyda chefnogaeth ein gweithiwr cymdeithasol, fe lwyddon ni i ateb pob cwestiwn hyd eithaf ein gallu a dim ond awr oedd hyd y cyfarfod.

Roedd y cwestiynau a ofynnodd aelodau’r panel i ni yn cynnwys y canlynol:

  • Pam ydych chi eisiau maethu pan mae gennych chi deulu prysur gyda thri o blant yn barod?
  • Sut ydych chi’n mynd i ymdopi â pherson arall yn eich cartref?
    • Sut ydych chi’n meddwl bod eich tri phlentyn yn mynd i deimlo gyda phlentyn arall sydd eisiau ac angen eich sylw?
    • Sut byddwch chi i gyd yn ffitio mewn un car?
    • Sut ydych chi’n mynd i allu cludo person arall yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, cyswllt teuluol, gweithgareddau etc. gyda’ch ymrwymiadau teuluol a gwaith eraill?
    • Sut ydych chi’n bwriadu dod o hyd i amser i chi’ch hun ac fel pâr?

    Roedden ni eisoes wedi trafod llawer o hyn yn barod â’n gweithiwr cymdeithasol, felly doedd y cwestiynau hyn ddim yn rhy anodd – dwi’n meddwl eu bod nhw eisiau ei glywed gennym ni.

    Ar ôl i ni ateb eu holl gwestiynau, gofynnwyd wedyn i ni adael y cyfarfod tra bo’r panel maethu’n ystyried ein cais i faethu.

    Ar ôl sawl munud cawsom ein gwahodd yn ôl i’r cyfarfod a chawsom wybod y newyddion da bod y panel maethu’n argymell ein bod yn cael ein cymeradwyo.

    Roedd yn deimlad hyfryd, ac yn syth ar ôl hynny, aethon ni allan am ginio i ddathlu.

    beth sy’n digwydd ar ôl y panel maeth?

    Wedyn bu’n rhaid i ni aros i Wneuthurwr Penderfyniadau’r Asiantaeth gytuno ar ein cymeradwyaeth, a gadarnhawyd wythnos ar ôl hynny. Cawsom ein cymeradwyaeth ar ffurf llythyr ffurfiol oddi wrth yr awdurdod lleol gyda’n hystod oedran a nifer y plant cawsom ein cymeradwyo i ofalu amdanynt. Fel rhan o’r asesiad, treuliom amser yn trafod y math cywir o faethu i ni â’n gweithiwr cymdeithasol.

    ar ôl cymeradwyaeth

    Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, gofynnir i chi arwyddo Cytundeb Gofalwyr Maeth. Mewn gwirionedd, fydd hi ddim yn hir cyn iddyn nhw gysylltu â chi ynghylch plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd.

    Ond peidiwch byth â phoeni ynghylch teimlo eich bod ar eich pen eich hun. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol ymroddedig yno i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Bydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer croesawu’ch plentyn cyntaf i’ch cartref. Bydd yn eich tywys drwy bob cam o’ch gyrfa faethu.

    Nid eich gweithiwr cymdeithasol goruchwylio’n unig sy’n eich cefnogi chwaith; rydym yn un tîm mawr, sy’n gweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.

    cyngor ar gyfer cyfarfod panel maethu

    Beth roedd fy ngŵr a finnau wedi sylwi arno a’i werthfawrogi oedd bod pawb ar y panel maethu y tu ôl i ni gant y cant, a’r rheswm eu bod yn gofyn y cwestiynau hyn oedd am eu bod wir eisiau dod i wybod ychydig mwy am y bobl y tu ôl i’r gwaith papur. Er bod gan aelodau’r panel gyfrifoldeb pwysig wrth gymeradwyo gofalwyr maeth, maent yn edrych ymlaen at eich cyfarfod hefyd, felly fy nghyngor i unrhyw un sy’n mynd gerbron panel maethu am y tro cyntaf yw: gwenwch, peidiwch â bod yn nerfus, arllwyswch ddiod boeth i chi’ch hun, a chofiwch frwsio’ch gwallt!

    maethu yw un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil sydd i’w chael

    Gobeithiwn fod stori Lucy wedi gwneud i chi deimlo’n llai ofnus ynghylch wynebu panel maethu.

    Ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus wrth feddwl am ddechrau ar eich taith faethu? Os felly, cysylltwch â thîm maethu’ch awdurdod lleol heddiw! Byddant yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i chi benderfynu ai nawr yw’r amser cywir i chi faethu.

    Ydych chi’n byw yn Abertawe? Anfonwch neges atom a byddwn yn eich ateb cyn gynted ag y gallwn.

    Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion cyswllt ar gyfer timau maethu’r awdurdodau lleol.

    Awdur: Lucy, gofalwr maeth gyda Maethu Cymru.

    Story Time

    Stories From Our Carers