stori

nid rhieni yn unig sy’n maethu, mae eu plant eu hunain yn gwneud hefyd!

Mae dewis maethu pan fydd gennych eich plant eich hun sy’n byw gartref, yn benderfyniad mawr. Mae’n hanfodol bod plant yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau a bod ganddynt ddealltwriaeth o’r hyn y mae maethu yn ei olygu.

Mae Lucy a Johnny wedi bod yn maethu ers 2021 ac mae ganddyn nhw dri o blant eu hunain, George, Arthur ac Edie. Pan benderfynon nhw faethu fel teulu, roedd y plant yn 5, 10 a 12 oed.

Ond mae Lucy yn dweud nad oedd hwn yn benderfyniad y gwnaethon nhw ei wneud yn ysgafn nac ar frys.

beth wnaeth i chi benderfynu mabwysiadu?

Lucy: “Roedd yn benderfyniad a wnaed dros nifer o flynyddoedd mewn gwirionedd gydag ambell sgwrs amdano bob hyn a hyn. Fodd bynnag, y rheswm pam y des i wneud yr alwad ffôn i Faethu Cymru Abertawe oedd oherwydd ffrind fy mab. Roedden nhw yn yr un dosbarth yn yr ysgol ond roedd ei ffrind yn byw mewn cartref preswyl a gwahanol staff yn ei godi bob dydd ac nid oedd yn ymddangos bod ganddo’r bywyd cartref teuluol arferol. Meddwl am hyn yw’r hyn a wnaeth i mi godi’r ffôn yn y pen draw. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am faethu ar y pryd ond roeddem ni’n gwybod bod gennym ystafell wely sbâr ac y gallem ni gynnig yr amgylchedd teuluol diogel a meithringar hwnnw i blentyn.”

Wrth i Lucy a Johnny sôn am y syniad o faethu, cafodd eu plant eu cynnwys yn llawn yn y trafodaethau.

beth oedd ymateb eich plant i’r syniad o ddod yn deulu maeth…

Lucy: “Mae ein plant yn hoffi sgwrsio, yn gymdeithasol ac yn brysur ar y cyfan, felly nid oedd y syniad am blentyn arall yn y pair yn codi braw ar y pryd. Roedden nhw’n ymddangos yn hapus gyda’r syniad o rywun yn dod i fyw gyda ni yn y tymor byr (dim ond gofal seibiant yr oeddem am ei wneud i ddechrau) ac yn meddwl y byddai’n hwyl. O edrych yn ôl, rwy’n difaru na chawsom ni ragor o drafodaethau gyda nhw am faethu a’u paratoi’n well nag y gwnaethom ni!”

Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod plant o blaid y penderfyniad i agor eu cartref i blant eraill sy’n llai ffodus na nhw.

pa mor bwysig yw hi yw sicrhau bod eich plant eich hun o blaid maethu?

Lucy: “Mae ein tri phlentyn yn arwain Johnny a minnau yn ofalwyr maeth, a’u hapusrwydd o fewn ein teulu maeth yw ein blaenoriaeth bennaf. Pe na baen nhw o blaid nac yn hapus i rannu eu cartref a’u teulu, fydden ni ddim yn gallu parhau i faethu.”

Mae llawer o bobl yn mynegi diddordeb mewn maethu ond yn poeni’n ormodol am yr effeithiau y gallai eu cael ar eu plant eu hunain. Mae hwn yn ymateb naturiol a dealladwy iawn ond ni fyddai unrhyw wasanaeth maethu byth eisiau pwyso ar deulu pe na bai eu plant eu hunain yn 100% o blaid. Mae llawer o’n gofalwyr maeth sydd â’u plant eu hunain sy’n byw gartref, yn aml yn siarad am sut mae maethu wedi cael effaith dda ar eu plant – sef eu bod yn sylweddoli pa mor lwcus ydyn nhw, effeithiau cadarnhaol bod yn fodel rôl da, ac wedi dysgu bod yn fwy amyneddgar, cydymdeimladol a gofalgar.

Nid yw Lucy’n wahanol ac yn gallu gweld sut mae ei phlant ei hun wedi tyfu a datblygu ers dod yn deulu maeth, ond pa gyngor y byddai hi’n ei roi i rieni eraill sy’n ystyried maethu?

pa gyngor byddech chi’n ei roi i rieni eraill sy’n ystyried maethu?

Lucy: “Byddwn i’n gwneud llawer o ymchwil ar-lein am faethu yn gyffredinol ac yn meddwl am y math o faethu a fyddai’n addas i chi fel teulu… Er enghraifft, a fyddai’n well gan eich plant rywun sy’n ymgartrefu’n hirdymor yn y teulu, cael plant yn ôl ac ymlaen am gyfnodau byrrach, neu a fyddai’n well ganddyn nhw fabis neu blant iau a fyddai’n mynd ymlaen i gael eu mabwysiadu.

“Byddwn hefyd yn gofyn am siarad â gofalwr maeth sydd â phlant o oedran tebyg i chi fel y gallwch glywed y realiti absoliwt/profiad byw ohono. Mae gwybodaeth yn rym a hyder, ac roeddwn i’n teimlo, hyd yn oed ar ôl y broses asesu, nad oeddem ni’n barod ac wedi cael ein taro gan fws pan ddechreuon ni mewn gwirionedd!”

Felly… beth mae plant Lucy a Johnny wir yn ei feddwl am fod yn rhan o deulu maeth?

sut ydych chi’n ymdrin â phlentyn maeth newydd sy’n dod i fyw gyda chi?

Arthur (13): “Mae maethu ychydig bach fel pan fydd plentyn newydd yn ymuno â’ch dosbarth yn yr ysgol, gan fod y plentyn maeth yn edrych yn nerfus pan fydd yn cerdded i mewn, felly rwy’n ceisio bod mor gyfeillgar ag y galla i. Y peth cyntaf dwi’n ei wneud yw dangos yr oergell iddyn nhw a lle mae’r cwpwrdd byrbrydau, gan fy mod i’n meddwl mai dyna’r peth cyntaf byddwn i eisiau ei wybod!”

beth ydych chi wedi’i ddysgu ers dod yn deulu maeth?

George (15): “Roeddwn i wastad yn meddwl bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr un bywyd da â mi, ond ers i ni ddechrau maethu, rwy wedi sylweddoli nad yw pawb yn gallu byw gyda’u teulu. Rydyn ni wedi cael tri o bobl yn dod i fyw gyda ni, a’r rhan fwyaf o’r amser mae wedi bod yn wych.”

Edith (8): “Rwy’n hoffi bod yn garedig, yn gymwynasgar a rhoi ordors, felly mae maethu yn dda i mi, ac efallai y bydd yn dda i chithau hefyd.”

beth yw’r manteision / pethau da am faethu?

George (15): “Y peth gorau am faethu yw bod ein cartref ni’n hwyl ac yn brysur, ac mae wastad rhywun i siarad ag e a chwarae dwli gyda nhw. Mae’n teimlo’n dda pan fyddan nhw’n teimlo’n hapus ac yn gyfforddus yn ein cartref ni.”

Arthur (13): “Rwy’n hoffi gwybod fy mod i’n helpu rhywun y mae ei angen arno. Dwi wedi bod yn lwcus i gael dau fachgen yma oedd yn hoffi chwarae pêl-droed gyda fi.”

Edith (8): “Mae maethu yn dda iawn nawr bod gennym ni ferch yn byw gyda ni gan fy mod i’n credu ei bod hi fel chwaer i mi, sy’n well na chael dau frawd drewllyd! Rydyn ni wir yn hoffi cael sba gyda’n gilydd, gwneud gymnasteg ar y trampolîn a gwneud fideos dawnsio gyda’n gilydd.”

Arthur: “Rwy’n hoffi cwrdd â phobl newydd a dwi’n hoffi’r partïon a phethau hwyliog eraill rydyn ni’n eu gwneud fel teulu maeth megis syrffio a phaentio graffiti.”

George: “Y peth gorau am faethu yw nad yw fy mam yn fy mhlagio i bellach am yfed dŵr, bwyta mwy o ffrwythau, rhoi fy ffôn i ffwrdd na thacluso fy ystafell! Mae hi’n dweud fy mod i’n garedig wrth i mi faethu brawd mawr, ac mae’n ymddangos mai dyna’r unig beth y mae’n poeni amdano erbyn hyn nawr, sy’n wych i mi!”     

beth all fod yn heriau wrth faethu? 

George: “Beth sy’n anodd yw pan fydd plentyn yn blino, gan eu bod nhw’n gallu gweiddi yn uchel iawn a ddim bob amser yn gwneud y peth iawn! Gall y person ifanc gynhyrfu hefyd, sy’n anodd ei weld a dwi ddim yn gwybod beth i’w ddweud i’w helpu.”

Arthur: “Dydw i ddim yn ei hoffi pan fydd plentyn maeth yn grintachlyd, ond dwi’n meddwl fy mod i’n deall pam y maen nhw nawr. Mae gyda ni rywun sy’n byw gyda ni sy’n chwerthin mwy am bethau doniol gyda ni nawr.”

Edith: “Dydw i ddim yn ei hoffi pan fydd hi’n mynd â phethau o’m hystafell heb ofyn. Rwy’n dal i ddweud wrthi am ofyn yn gyntaf ond mae hi’n dal i anghofio, ond dwi’n dal i anghofio fy nhablau!”

mae Lucy’n adfyfyrio ar farn onest ei phlant am fod yn rhan o deulu maeth.

Lucy: “Gweld fy mhlant yn dangos caredigrwydd, amynedd a chydymdeimlad i blentyn neu berson ifanc mewn angen yw’r cyfan rwy’n poeni amdano erbyn hyn, ac er eu bod nhw yn fy ngyrru’n wallgof bron bob dydd, rwy’n hynod falch ohonyn nhw am y rôl anhygoel y maen nhw’n ei chwarae yn ein teulu maeth.

“Mae maethu wedi dod â’r gorau ynddyn nhw (y rhan fwyaf o’r amser!) ac wedi dangos iddyn nhw yn uniongyrchol rym caredigrwydd.

“Roeddwn i’n chwerthin yn uchel serch hynny wrth ddarllen sylw George amdana i’n ei blagio’n llai i fwyta mwy o ffrwythau ac yn yfed mwy o ddŵr ers i ni ddechrau maethu, gan ei fod yn iawn. Ers i ni ddechrau maethu, nid yw’n ymddangos mor bwysig ag y gwnaeth ar un adeg.”

cysylltwch  

Os ydych chi’n meddwl am faethu ond yn naturiol yn poeni sut y bydd yn effeithio ar eich plant eich hun, mynnwch air ag aelod o Dîm Maethu Cymru Abertawe. Gallan nhw esbonio’r broses, sut mae eich plant yn cymryd rhan, a sut rydyn ni’n eu cefnogi ar ôl i chi ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy. Cysylltwch â ni heddiw am sgwrs anffurfiol.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am effeithiau maethu ar eich plant eich hun, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael, darllenwch ein blog.

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r atebion i gwestiynau cyffredin yma.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch