Mae Claire a Michael Hyett-Evans yn maethu gyda Maethu Cymru Abertawe ers pum mlynedd, ochr yn ochr â’u dau blentyn, Alfie (14) a Rosie (12).
Dywed Claire fod maethu wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i’r teulu cyfan, yn enwedig ei phlant sy’n falch iawn o fod yn ofalwyr maeth.
Bydd bod yn deulu maethu bob amser yn addasiad mawr i gartref y teulu ar y dechrau. Er gwaethaf rhai o’r heriau y mae ein teuluoedd maeth weithiau’n eu hwynebu, mae llawer o’n gofalwyr maeth yn siarad am y pethau cadarnhaol y mae wedi’u cael ar eu plant eu hunain, fel y mae’r plant eu hunain.
Mae Claire yn sôn am sut y dechreuodd eu taith faethu gyntaf a sut ymatebodd eu plant, tra bod Alfie a Rosie yn datgelu eu gwir deimladau ynghylch bod yn rhan o deulu maeth.
y teulu maeth – pam penderfynoch chi faethu?
Claire: “Roeddwn i’n gwybod ers tro y byddai maethu yn rhywbeth yr hoffwn i ei wneud ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhywbeth y byddwn i’n edrych arno pan oeddem ni’n llawer hŷn, a bod ein plant ni wedi symud allan. Roedd gennym ni ddau o blant genedigol mewn tŷ dwy ystafell wely felly wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, prynon ni dŷ pedair ystafell wely. Roedd cael yr ystafell wely sbâr yn gwneud i mi feddwl y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallem ei wneud nawr. Doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau, felly dyma fi’n chwilio ‘Maethu’ ar Google a gwneud llawer o ymholiadau i asiantaethau maethu a ches i fy nghynghori i gysylltu â’m hawdurdod lleol. Cysylltais i â’m hawdurdod lleol a chael ymweliad cartref cyn i ni ddechrau ar ein hyfforddiant, ac felly y bu hi.”
beth oedd ymateb eich plant wrth drafod y syniad o ddod yn deulu maeth?
Claire: “Cyn i ni gael ein hymweliad cartref, dyma ni’n eistedd y plant i lawr i siarad am faethu. Ar y dechrau, doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd maethu felly roedd ganddyn nhw lawer o gwestiynau. Fe egluron ni nad oedd hyn yn rhywbeth yr oeddem yn bendant yn mynd i’w wneud gan fod angen i ni ddarganfod ai maethu oedd y peth iawn i ni fel teulu. Fe egluron ni, ar unrhyw bryd yn y broses, os nad oedd unrhyw un ohonom ni eisiau ei wneud, byddem ni’n stopio. Roedd eu hymateb cychwynnol yn gyffrous gan eu bod nhw ond yn meddwl bod maethu yn golygu bod ganddyn nhw ffrindiau yn byw gyda nhw.”
pa mor bwysig yw cael eich plant i faethu?
Claire: “Hwn oedd y peth pwysicaf i ni gan ein bod ni am i’n plant deimlo’n gyfforddus ynghylch maethu drwy’r broses gyfan. Yn naturiol, fy mhryder mwyaf oedd yr effaith y byddai maethu yn ei chael arnyn nhw. Roeddwn i’n teimlo’n angerddol iawn bod fy mhlant yn rhan o’r broses gyfan; Roedd fy aseswr yn gwybod pa mor bwysig oedd hyn i ni. Roedd hi’n eu cynnwys ac yn gweithio mor hyfryd gyda nhw – roedden nhw’n chwarae llawer o gemau hwyliog. Fe wnaethon nhw adeiladu perthynas agos â hi.”
pa gyngor y byddech chi’n ei roi i rieni eraill sy’n ystyried maethu ond sy’n poeni am yr effeithiau ar eu plant eu hunain?
Claire: “Byddwn i’n dweud bod hwn yn ymateb cwbl naturiol i’w gael gan fod yn rhaid i faethu fod yn iawn i’r teulu cyfan. Mae’n bwysig siarad â’ch plant a’u holi nhw wrth i chi fynd drwy’r broses. Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael atebion i’r cwestiynau a allai fod ganddyn nhw. Byddwn ni’n cynghori rhieni i gael sgwrs â gofalwyr maeth eraill sydd â’u plant eu hunain yn byw gartref. Mae hyn yn rhywbeth y gall eich asesydd ei drefnu ar eich cyfer. Os yw maethu yn rhywbeth rydych chi’n meddwl amdano, y ffordd orau o ddechrau yw mynychu digwyddiad rhithwir ar-lein fel y gallwch chi gael syniad am beth yw pwrpas maethu. Mae maethu wedi bod yn brofiad cadarnhaol i’n teulu ni, mae fy mhlant yn falch o fod yn ofalwyr maeth.”
Felly… Beth mae Alfie (14 oed) a Rosie (12 oed) wir yn ei feddwl am rannu eu cartref â phlant eraill?
beth yw eich barn am fod yn rhan o deulu maeth?
Alfie: “Mae fy meddyliau o fod yn deulu maeth yn gadarnhaol. Dwi’n hoffi bod fy nheulu i’n helpu plant bregus i fod yn ddiogel. Dwi’n hoffi cael tŷ prysur, mae pob diwrnod yn wahanol.”
Rosie: “Mae’n anhygoel achos dwi wedi ennill brawd, dwi’n ei garu e gymaint.”
beth yw’r pethau da am fod yn rhan o deulu maeth?
Alfie: “Y pethau da yw gwneud i blentyn deimlo bod croeso iddo ac yn rhan o’n teulu. Mae fy mrawd maeth wedi byw gyda ni ers dros bum mlynedd a gallaf weld y gwahaniaeth y mae fy nheulu wedi’i wneud i’w fywyd. Dwi’n teimlo bod maethu wedi chwarae rhan wrth lunio fy mywyd. Pan oeddwn i’n dewis fy opsiynau TGAU yn yr ysgol, roedd bod yn ofalwr maeth yn chwarae rhan yn yr hyn a ddewisais i.”
Rosie: “Rydym wedi cael llawer o blant yn byw gyda ni. Er bod rhai wedi symud i fyw gyda’u teuluoedd, dwi’n dal i gael eu gweld. Dwi’n teimlo bod gen i gymaint mwy o bobl yn fy mywyd ac wedi adeiladu llawer o wahanol gyfeillgarwch.”
pa heriau ydych chi wedi’u profi?
Alfie: “Mae gorfod dweud ffarwel wrth y plant wrth iddyn nhw adael yn anodd. Maen nhw’n byw gyda ni ac maen nhw’n teimlo fel brawd neu chwaer. Weithiau, hoffwn i na fyddai rhaid iddyn nhw adael.”
Rosie: “Gweld y plant yn strancio ac yn cynhyrfu, yn enwedig pan fyddan nhw’n uchel iawn. Nid yw’n braf gweld fy mrawd yn cael cymaint o drafferth gyda’i emosiynau a dwi’n dymuno y gallwn dynnu ei bryderon oddi wrtho.”
beth yw eich atgof/profiad gorau o faethu hyd yn hyn?
Alfie: “Roedd cyfarfod fy mrawd maeth am y tro cyntaf yn gyffrous. Roedd mor annwyl a doniol ac roeddwn i eisiau ei amddiffyn ar unwaith.
Rosie: “Aros yn Chessington World of Adventures gyda fy mrodyr maeth yr ydym yn cael ei wneud bob blwyddyn. Rydyn ni wedi mynd â llawer o blant yno ac rydw i’n hoffi fy mod i’n gallu eu dangos nhw o gwmpas.”
beth byddech chi’n ei ddweud wrth blant eraill y mae eu rhieni’n ystyried maethu?
Alfie: “Er ei fod yn gwneud newidiadau yn eich bywyd, mae wedi fy natblygu fel cymeriad o ran empathi a thosturi. Mae gen i ddealltwriaeth nad yw pob plentyn yn cael yr hyn sydd gen i, a dwi’n gwerthfawrogi pethau’n fwy. Dwi’n falch fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i blant eraill.”
Rosie: “Byddwn i’n dweud wrth blant eraill am yr holl weithgareddau rydyn ni’n cael eu gwneud. Dwi wedi gwneud pethau fel marchogaeth, syrffio, cwrs ymosod mwdlyd, gwersi coginio, Ninja Warrior, nofio, dringo creigiau, gwersi crochenwaith, gweithdy graffiti a llawer mwy dros y blynyddoedd. Rydych chi’n cael cwrdd â phlant eraill o deuluoedd maeth a gwneud ffrindiau newydd.”
fyddech chi’n argymell maethu i deuluoedd eraill?
Alfie: “Byddwn yn bendant yn argymell maethu i deuluoedd eraill oherwydd y pethau da a’r manteision sy’n dod yn ei sgil. Dwi wrth fy modd bod yn rhan o deulu maeth, alla i ddim cofio sut beth oedd bywyd hebddo.”
Rosie: “Ydw, byddwn i’n ei argymell. Pan fydd pobl yn gofyn y cwestiwn hwn i mi, mae bod mewn teulu maeth yn golygu bod yn ein teulu ni ac mae fy nheulu fel unrhyw deulu arall. Rydyn ni’n cael llawer o hwyl yn enwedig oherwydd bod gennym ni deulu mawr. Dwi’n dadlau gyda fy mrodyr a’m chwiorydd ac yn chwerthin gyda fy mrodyr, i mi dim ond teulu arferol ydyw. Dwi’n ei fwynhau gyda rhagor o bobl.”
eisiau dechrau eich stori faethu eich hun?
Os yw darllen stori Claire, Michael, Alfie a Rosie wedi gwneud i chi feddwl mwy am faethu, beth am gysylltu â’n tîm heddiw. Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, neu i’ch helpu i ddechrau’r broses o ddod yn ofalwr maeth eich hun. Cysylltwch â ni heddiw.
eisiau dysgu rhagor?
Dysgwch ragor am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.