
Mae Holly a Mark wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Abertawe ers mis Tachwedd 2022.
Am fod ganddyn nhw ddau blentyn eu hunain, roedd angen i Holly a Mark sicrhau eu bod nhw o blaid y syniad o ddod yn deulu maeth, ond mor belled, mae Sofie (8) ac Oscar (11) wedi mwynhau rhannu eu cartref â’r plant sy’n dod i fyw gyda nhw.
Roedd maethu yn benderfyniad y maen nhw wedi’i wneud fel teulu, a dydyn nhw ddim yn difaru mentro i gychwyn ar y daith faethu.
pam penderfynoch chi faethu?
Meddai Holly: “Roedden ni’n meddwl am faethu ers tro cyn i ni benderfynu mynd amdani llynedd. Yn fy hen swydd, roeddwn i’n gweithio gyda phlant mewn ysgolion ledled Abertawe a ches i fy synnu gan nifer y plant sy’n byw mewn gofal neu’r oedd angen cymorth arnyn nhw gan y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn eu cadw nhw’n ddiogel gartref. Roeddwn i eisiau helpu’r plant hyn ond roeddwn i’n teimlo ychydig yn ddi-rym ar adegau. Dyna un o’r rhesymau pam y gwnaethom ni benderfynu dechrau maethu, fel y gallem ni wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r plant bregus hyn.”
sut gwnaeth Sofie ac Oscar ymateb pan oeddech chi’n trafod y syniad o faethu?
“Pan wnaethon ni drafod maethu gyda’n dau blentyn am y tro cyntaf, roedden nhw ychydig yn ansicr ar y dechrau. Doedden nhw wir ddim yn deall beth oedd maethu a beth byddai’n ei olygu. Ar ôl i ni esbonio popeth wrthyn nhw, roedden nhw’n hapus i roi cynnig arni. Dwedodd y ddau y byddai’n well ganddyn nhw gael plant yn iau na nhw a’u bod nhw ychydig yn nerfus am orfod rhannu ein sylw ag eraill, ond roedden nhw’n hoffi’r syniad bod Mam gartref drwy’r amser a bod dim rhaid mynd i glwb ar ôl ysgol rhagor!”
Er bod gan lawer o rieni ddiddordeb mewn maethu, yn aml maen nhw’n gwthio’r syniad i’r naill ochr nes bod eu plant eu hunain wedi tyfu i fyny neu symud allan. Wrth reswm, maen nhw’n poeni sut y bydd maethu yn effeithio ar eu plant eu hunain ond mae llawer o’n gofalwyr maeth yn siarad am yr effeithiau cadarnhaol y mae maethu wedi’u cael arnyn nhw. Yn yr un modd, mae plant ein gofalwyr maeth yn aml yn siarad yn onest am faint maen nhw wedi’i ddysgu ers bod yn rhan o deulu maethu a’r mwynhad maen nhw’n ei gael ohono.
Mae merch Holly a Mark, Sofie, yn falch dros ben o gael rhannu ei phrofiad o faethu hyd yn hyn.
beth yw dy farn di am fod yn rhan o deulu maeth?
“Mae bod yn deulu maeth yn anhygoel! Un o’m hoff bethau i yw chwarae gyda’r plant sy’n dod i aros gyda ni ac maen nhw wrth eu bodd yn chwarae gyda ninnau hefyd. Mae’n wych gallu dysgu am y pethau maen nhw’n eu hoffi a’u helpu i ddysgu sgiliau newydd.”
wyt ti wedi gweld unrhyw fanteision o fod yn deulu maeth?
“Ydw, rwy mor gyffrous pan fydd plant newydd yn dod i aros gyda ni, yn enwedig pan fydd babi’n dod. Rwy’n hoffi helpu Mam a Dad i baratoi popeth iddyn nhw. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ac wedi tyfu i fyny ers i ni ddechrau maethu gan fy mod i’n dda iawn am helpu i ofalu am y plant iau. Mae fy ffrindiau yn yr ysgol yn meddwl bod hynny mor gŵl.”
beth yw’r heriau hyd yn hyn?
“Pan fydd y plant wedi’u cynhyrfu mae’n anodd gweld hynny. Rwy am eu helpu ond dydw i ddim yn gwybod sut bob tro. Mae’n anodd pan fydd rhaid i ni ffarwelio â’n gilydd.
“Weithiau rwy’n ei chael hi’n anodd gorfod rhannu Mam a Dad, ond rwy’n gwybod eu bod nhw’n fy ngharu i gymaint ag o’r blaen.”
beth yw dy atgof gorau am faethu hyd yn hyn?
“Fy atgof gorau hyd yn hyn yw mynd ag un o’r plant gyda ni ar wyliau i Ffrainc. Roedd hi’n gymaint o hwyl! Rwy’n meddwl mai hwn oedd ei wyliau tramor cyntaf erioed ac roedd e wrth ei fodd, yn enwedig yn y pwll nofio!”
pa gyngor byddet ti’n ei roi i blant eraill y mae eu rhieni yn ystyried maethu?
“Efallai eich bod chi ychydig yn nerfus ar y dechrau, ond peidiwch â phoeni! Os ydych chi’n hoffi cwrdd â phobl newydd a chwarae gyda phlant eraill, byddwch chi wrth eich bodd.”
felly, fyddet ti’n argymell maethu i deuluoedd eraill?
“Byddwn yn bendant yn argymell dod yn deulu maeth, mae’n wych!”
Mae Sofie yn un o lawer o blant sy’n mwynhau bod yn rhan o deulu maethu. Os ydych wedi bod yn meddwl am faethu ond bod gennych amheuon oherwydd pryderon am yr effeithiau y bydd yn eu cael ar eich plant eich hun, peidiwch ag oedi cyn siarad ag aelod o Dîm Maethu Cymru Abertawe a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Cysylltwch â ni heddiw am sgwrs anffurfiol heb bwysau.
Gallwn ni hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gofalwyr maeth sydd â phlant o oedran tebyg fel y gallan nhw roi darlun cywir i chi o sut brofiad yw maethu ar eu cyfer nhw a’u plant.
Gallwch chi hefyd ddod o hyd i atebion i gwestiynau y mae pobl yn aml yn eu gofyn o ran eu plant eu hunain yn un o’n blogiau. Gobeithio y bydd yr atebion yn helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd gennych.