Felly, rydych chi’n eithaf siŵr eich bod chi am faethu. Mae’n rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl amdano ers blynyddoedd lawer ond bob amser yn teimlo nad oedd yr amser yn iawn i chi.. hyd yn hyn.
Rydych chi wedi treulio amser yn teipio gwahanol dermau chwilio i mewn i Google, yn marcio bob tro’r gwefannau sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Rydych chi’n gwneud cymaint o ymchwil â phosibl am beth mae maethu yn ei olygu, y broses, ac a fyddech chi’n addas i faethu. Rydych chi’n darllen popeth y gallwch chi ddod o hyd iddo am faethu fel y gallwch chi fod yn siŵr ei fod yn iawn i chi cyn i chi ddechrau gwneud unrhyw ymholiadau i ddod yn ofalwr maeth.
Ond beth sy’n sefyll allan pan fyddwch chi wedi ymchwilio i faethu, a beth sy’n eich drysu chi, yw bod llawer o wahanol asiantaethau maethu i ddewis rhyngddyn nhw, heb sôn am opsiwn eich Cyngor lleol. Hyd yn oed pan fyddwch chi’n teipio ‘Maethu yn Abertawe’ , gall yr opsiynau fod yn llethol iawn.
Yr hyn sy’n anodd i rywun heb unrhyw wybodaeth am faethu, yw bod pob un yn dweud fwy neu lai yr un peth ar eu gwefannau …… maen nhw’n darparu gwell cymorth i’w gofalwyr maeth, byddan nhw’n darparu gwell hyfforddiant, byddan nhw’n dod o hyd i’r beth sy’n cyfateb yn iawn i’w gofalwyr maeth, ac maen nhw’n talu eu gofalwyr yn hael – mwy na’r hyn a gewch chi os ydych chi’n maethu i’ch awdurdod lleol (rhywbeth nad yw’n wir).
Ond beth yw’r gwahaniaeth go iawn rhwng y gwahanol asiantaethau maethu a maethu ar gyfer Maethu Cymru Abertawe, a sut ydych chi’n penderfynu gyda phwy i faethu pan fo cymaint o opsiynau?
Dyma lle nad yw asiantaethau maethu annibynnol bob amser yn rhoi’r darlun cyfan o sut mae maethu yn gweithio. Ond rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn dryloyw, o’r cychwyn cyntaf.
Yn y pen draw, dylai unrhyw un sy’n ystyried maethu feddu ar yr holl ffeithiau cyn iddyn nhw benderfynu pa wasanaeth maethu i’w ddewis. Dyna yw eu hawl nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniad mor fawr a fydd yn effeithio ar eu bywyd (yn bennaf mewn ffordd gadarnhaol wrth gwrs).
felly, pa wybodaeth sy’n bwysig i bobl fod yn ymwybodol ohoni wrth benderfynu gyda phwy i faethu gyda nhw?
Yn Abertawe, pan fydd penderfyniad bod angen lleoli plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd gyda theulu maeth, cyfrifoldeb Cyngor Abertawe yw hynny. Wedyn bydd y tîm maethu (Maethu Cymru Abertawe) yn cysylltu â’u gofalwyr maeth awdurdod lleol eu hunain sydd â swydd wag dros ben i drafod y plentyn neu’r grŵp brodyr a chwiorydd gyda nhw.
Bydd blaenoriaeth bob amser yn cael ei rhoi i’r gofalwyr hynny a fyddai’n cyd-fynd yn dda â’r plentyn neu’r grŵp brodyr a chwiorydd. Dim ond pan nad oes gofalwyr maeth mewnol ar gael, mae’r tîm maethu wedyn yn cysylltu ag asiantaethau maethu annibynnol i weld a oes ganddyn nhw ofalwyr maeth ar gael sy’n addas.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn fel arfer ar gyfer plant hŷn, grwpiau brodyr a chwiorydd, plant sydd ag anghenion ychwanegol, a lleoliadau rhieni a phlant.
Felly, mewn gwirionedd, os oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu babanod neu blant o dan 11 oed heb unrhyw anghenion ychwanegol, ni fydd maethu i asiantaeth yn gweddu i’ch gofynion chi, ac mae’n debygol iawn na fydd pobl yn cysylltu â chi am blentyn o’r ystod oedran honno.
I roi hyn mewn cyd-destun, o’r 141 o blant a roddwyd mewn gofal maeth yn ystod 2023/2024, dim ond 30 o blant a gafodd eu rhoi gyda gofalwyr asiantaeth faethu annibynnol. O’r rhain, roedd 4 yn rhan o leoliadau rhieni a phlant, roedd 14 yn rhan o grŵp brodyr a chwiorydd, 5 dros 13 oed a’r 7 arall o dan 10 oed ond roedd gan bob un anghenion cymhleth.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod asiantaethau maethu annibynnol yn fusnesau i raddau helaeth sy’n elwa o’u gofalwyr maeth. Yn syml, mae’r holl awdurdodau lleol yn ddielw tra bo’r rhan fwyaf o asiantaethau maethu, ac eithrio llond llaw sy’n gweithredu fel elusennau neu sefydliadau 3ydd sector.
A siarad yn blaen, mae asiantaethau maethu yn codi tâl ar awdurdodau lleol o leiaf ddwywaith yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei dalu i’w gofalwyr maeth eu hunain yr wythnos. Fodd bynnag, nid yw’r ffi wythnosol a godir gan yr asiantaethau maethu yn cael eu trosglwyddo i’w gofalwyr maeth eu hunain, maen nhw’n elw i’w cyfranddalwyr.
Er gwaethaf yr hyn y mae llawer o bobl yn ei dybio, yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw gofalwyr maeth asiantaeth yn cael eu talu yn fwy na gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yn enwedig yn Abertawe lle mae’r ffioedd a’r lwfansau ymhlith un o’r uchaf yng Nghymru.
Beth bynnag, y brif flaenoriaeth i Faethu Cymru Abertawe yw dod o hyd i deulu maeth diogel a chariadus i blant neu frodyr a chwiorydd, ni waeth a yw’r gofalwyr maeth y maen nhw’n byw gyda nhw yn maethu i’r awdurdod lleol neu asiantaeth faethu.
“Roedd y broses o drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe yn hawdd iawn. Y cyfan oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd cwblhau’r blynyddoedd rhwng ymuno â’r asiantaeth breifat a phan ymunes i â Maethu Cymru Abertawe. Gan nad oedd llawer wedi newid o ran fy amgylchiadau i, roedd y broses yn gynt o lawer.”
Wendy Jenkins, Gofalwr Maeth
o ystyried hynny i gyd, beth yw prif fanteision maethu ar gyfer maethu cymru abertawe o’i gymharu ag asiantaeth?
1. nid ydym yn gweithredu fel busnes, yn wahanol i lawer o asiantaethau maethu annibynnol
Rydym yn asiantaeth nid-er-elw, yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r asiantaethau maethu annibynnol. Mae llawer yn gweithredu’n fusnesau ac yn gwneud elw allan o’r hyn maen nhw’n ei godi ar awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid yw gofalwyr maeth asiantaeth yn aml yn cael eu talu yn fwy na’n gofalwyr maeth ni. Mewn llawer o achosion, rydyn ni’n talu mwy i’n gofalwyr. Os yw gofalwr maeth asiantaeth yn dymuno trosglwyddo atom ni ond yn cael ei dalu’n fwy gan eu hasiantaeth, byddwn ni’n talu swm cyfatebol i’r cyflog y maen nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd.
“Roedden ni am faethu ar gyfer sefydliad nid er elw a chadw plant lleol yn eu hardal leol.”
Paul & Sharron Hammond, Gofalwyr Maeth
2. mae gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol am blant Abertawe mewn gofal maeth
Mae Cyngor Abertawe yn gyfrifol am blant Abertawe, felly rydyn ni’n cysylltu â’n gofalwyr maeth bob amser yn gyntaf pryd bynnag y bydd angen i ni leoli plentyn. Dim ond pan na ellir lleoli plant gyda’n gofalwyr maeth ein hunain, y mae angen i ni fynd at asiantaethau maethu annibynnol, sy’n tueddu i fod ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd, plant sydd ag anghenion ychwanegol, a lleoliadau rhieni a phlant.
3. mae’r plant yn lleol i chi!
Pan fyddwch chi’n maethu i ni, mae’r plant yn lleol felly mae’n debygol iawn y bydd yn rhaid i chi gludo o fewn sir Abertawe yn unig. Bydd yr ysgol, amser teulu a chyfarfodydd yn digwydd yn lleol i chi. Os ydych chi’n maethu i asiantaeth, gallech chi gael eich paru â phlentyn o unrhyw le yng Nghymru, a allai arwain at dreulio llawer o amser yn cludo’r plentyn i’r ysgol, gweithgareddau, neu amser teulu a allai fod wedi’i leoli mewn awdurdodau lleol cyfagos neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.
“Rydym yn credu ei fod yn bwysig iawn cadw plant yn eu hardal leol.”
Paul & Sharron Hammond, Gofalwyr Maeth
4. gallwch chi helpu i gadw’r plant yn lleol i bopeth maen nhw’n ei wybod
I blant maeth, mae aros yn lleol i’w hysgol, ffrindiau, teulu a chymuned mor bwysig iddynt; mae’n golygu’r byd iddyn nhw. Trwy faethu gyda Maethu Cymru Abertawe, gallwch chi helpu i leihau’r aflonyddwch y maen nhw eisoes wedi’i brofi yn eu bywydau.
5. rydych chi’n dod yn rhan o’r ‘tîm o amgylch y plentyn’
Mae’r gweithwyr cymdeithasol ar gyfer y plant a’r gofalwyr maeth, yn ogystal â llawer o weithwyr proffesiynol eraill, yn cydweithio’n agos iawn. Pam? Oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gweithio yn yr un adeilad ac yn yr un adran â Chyngor Abertawe. Pan fyddwch chi’n maethu gyda Maethu Cymru Abertawe, mae gweithiwr cymdeithasol y plentyn, y gweithiwr cymdeithasol maethu a gofalwyr maeth i gyd yn rhan o’r un sefydliad. Gyda’r gweithwyr proffesiynol yn gweithio yn yr un swyddfa, gyda mynediad i’r un systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth, mae’r cyfathrebu yn llawer haws ac yn rheolaidd. Yr hyn sy’n hanfodol yw y gall gwybodaeth gyfredol lifo’n rhwydd rhwng pawb sy’n cymryd rhan. Mae’n ddull tîm o amgylch y plant i raddau helaeth sy’n arwain at well canlyniadau i blant.
”Mae maethu gyda’r awdurdod lleol wedi bod yn wych. Mae’r wybodaeth rydym yn ei derbyn yn dod atom yn syth ac rydym yn hoffi derbyn atebion yn syth o’r ffynhonnell. Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth fwy manwl am y plant rydym yn eu maethu sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Bev Jones, Gofalwr Maeth
6. rydyn ni’n adnabod y plant a’u teuluoedd; rydyn ni’n gwybod eu stori!
Gan mai ein cyfrifoldeb cyfreithiol yw pob plentyn o Abertawe, mae gennym dimau sy’n ymwneud â gwneud cynlluniau ar gyfer y plentyn, ei deulu a’u hysgol. Bydd gofalwyr maeth yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r timau hyn. Rydyn ni’n adnabod y plentyn; rydyn ni’n gwybod eu stori gyfan; rydyn ni’n ei rannu â’n gofalwyr maeth.
”Yn y gorffennol roedd trefnu i blentyn aros dros nos yn teimlo fel neidio dros rwystrau diddiwedd. Gyda’r asiantaeth fasnachol, roedd llawer o gyfathrebu’n ôl ac ymlaen. Ond gyda’r awdurdod lleol mae pethau’n llawer mwy llyfn. Dwi’n derbyn atebion clir, yn gyflym, ac mae’r broses yn teimlo’n fwy effeithlon.”
Sharon Oliver, Gofalwr Maeth
7. i ni, mae’n golygu llwyddo i baru’n iawn
Rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar ddod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn, ar gyfer y plant a’r teuluoedd maeth. Mae ein gwybodaeth fanwl am y plant, yn ogystal ag adnabod ein teuluoedd maeth yn dda iawn, yn golygu bod gennym ni’r gallu i greu’r paru gorau. Fel y porth cyntaf i bob plentyn y mae arno angen gofal maeth, rydyn ni’n fwy tebygol o gael ystod oedran a math o faethu sy’n addas i’ch ffordd chi o fyw a’ch deinameg deuluol. Byddwn ni’n dod i’ch adnabod chi a’ch teulu yn dda iawn. Rydyn ni’n paru plant i weddu i’ch sgiliau, eich ffordd o fyw a’ch cartref – gan gynnwys eich plant eich hun. Oherwydd ein bod ni’n gwybod, pan fyddwn ni’n llwyddo i baru’n iawn, gall maethu fod yn llwyddiannus i chi, eich teulu a’n plant.
8. mae’r hyn rydyn ni’n ei dalu i’n gofalwyr maeth yn gystadleuol – ni fyddwch chi o reidrwydd yn cael mwy trwy faethu gydag asiantaeth
Mae’r ffioedd a’r lwfansau rydyn ni’n eu talu i’n gofalwyr maeth yn uwch na’r isafswm cyfraddau a bennir gan Lywodraeth Cymru. Er bod llawer o asiantaethau maethu annibynnol yn awgrymu eu bod nhw’n talu’n fwy nag awdurdodau lleol, nid yw hyn yn aml yn wir yn Abertawe. Sut ydyn ni’n gwybod? Oherwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau gan ofalwyr asiantaeth a phan rydyn ni wedi datgelu beth rydyn ni’n ei dalu i’n gofalwyr maeth, maen nhw wedi datgelu eu bod nhw’n cael eu talu ychydig yn llai. Os yw gofalwr asiantaeth yn dymuno trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe, a’u bod nhw’n digwydd cael eu talu’n fwy gan eu hasiantaeth, byddwn ni’n gwneud i’w cyflog gyfateb.
- Rydyn ni’n yn darparu taliad cadw wythnosol i’n gofalwyr maeth os oes ganddyn nhw gyfnod lle nad yw plentyn yn cael ei roi gyda nhw – er nad yn aml iawn y mae ein gofalwyr heb blentyn oni bai eu bod nhw yn cael eu hatal
- Rydyn ni’n cynnig taliadau ychwanegol tuag at benblwyddi plant, Nadolig, gwyliau, a gwyliau crefyddol.
- Rydym yn cydnabod pŵer argymhellion ar lafar. Gall gofalwyr maeth fod y ffynhonnell recriwtio fwyaf effeithiol ac felly gall ein gofalwyr maeth ennill hyd at £500 am bob person y maen nhw’n ei argymell i’w faethu.
- Rydyn ni’n cyfrif ein gofalwyr maeth os ydyn nhw’n cefnogi ein hymgyrchoedd marchnata neu’n helpu mewn digwyddiadau recriwtio.
9. byddwch yn cael arbenigedd a phrofiad gyda maethu cymru abertawe
Mae llawer o’r tîm yn gweithio i Faethu Cymru Abertawe ers blynyddoedd lawer, felly cewch chi fanteisio’n syth ar ein harbenigedd ni ym maes maethu, yn ogystal â’n gwybodaeth fanwl am yr ardal leol a’r gwasanaethau a’r sefydliadau sydd ar gael i ofalwyr maeth fanteisio arnyn nhw, naill ai iddyn nhw eu hunain neu i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Yn bwysig, mae’r rhan fwyaf wedi gweithio ym maes amddiffyn plant o’r blaen felly bydd ganddyn nhw ddealltwriaeth wych o’r broses gyfan.
”Rwyf wedi derbyn cefnogaeth pan roedd ei hangen arnaf ac mae tîm Maethu Cymru Abertawe bob amser wedi bod ar gael i’m cefnogi. Rwy’n teimlo fy mod i’n rhan o dîm sydd wir yn poeni am les y plant a’m lles i fel gofalwr maeth.“
Sharon Oliver, Gofalwr Maeth
10. ni yw’r gymuned faethu fwyaf yn abertawe
Ni yw’r gymuned faethu fwyaf yn Abertawe gyda 123 o aelwydydd maethu. Mae hynny’n golygu bod llawer o ofalwyr maeth ar gael i’ch cefnogi chi yn eich ardal leol. Yn wahanol i asiantaethau maethu annibynnol, dydyn nhw ddim wedi’u gwasgaru ledled Cymru. Mae’n golygu na fyddwch chi byth ar eich pen eich hun.
11. byddwch chi’n derbyn cymorth gan ofalwyr maeth eraill, ni fyddant byth yn bell i ffwrdd
Gallwn ni eich cyfeillio chi â gofalwyr mwy profiadol a fydd wrth law i gynnig cyngor a chymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi, boed pryd y byddwch chi newydd gael eich cymeradwyo newydd neu hyd yn oed â blynyddoedd o brofiad y tu ôl i chi. O grwpiau cymorth cymheiriaid ffurfiol i ddal i fyny gyda gofalwyr maeth eraill – gall gofalwyr maeth gefnogi ei gilydd. Er y gall teulu a ffrindiau fod o gymorth mawr, ni fyddan nhw’n deall yn iawn beth rydych chi’n mynd drwyddo tra bydd gofalwyr maeth eraill yn ‘ei deall hi’ heb fod angen esbonio unrhyw beth.
12. rydyn ni’n ymfalchïo yn y pecyn cymorth rydyn ni’n ei gynnig
Rydyn ni’n darparu cymorth helaeth, nid yn unig i ofalwyr maeth ond i’r teulu cyfan. Byddwch chi’n cael cymorth 24/7, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.
- Bydd gennych chi eich gweithiwr cymdeithasol goruchwylio pwrpasol eich hun
- Bydd gennych chi eich gweithiwr cymorth pwrpasol eich hun
- Rydyn ni’n darparu sawl grŵp cymorth – mae grŵp cymorth misol ar gyfer gofalwyr maeth, grŵp cymorth i ddynion sy’n maethu, grŵp ar gyfer plant gofalwyr maeth, grŵp ar gyfer gofalwyr maeth sy’n gofalu’n benodol am blant ag anghenion dysgu ychwanegol, a hefyd grwpiau cymorth lleol
- Darperir boreau coffi wythnosol
- Mae sesiynau 1-i-1 misol ar gael gyda’r rheolwyr
- Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau i’r teulu drwy gydol y flwyddyn
- Trefnir gweithgareddau i blant (plant maeth a phlant gofalwyr eu hunain) yn ystod gwyliau’r ysgol
- Gall gofalwyr maeth gael gafael ar ostyngiadau ar wasanaethau diwylliannol a hamdden
- Mae gennym fynediad i’r Tîm Therapi Mewnol
- Rydyn ni’n dathlu cerrig milltir gofalwyr maeth
- Rydyn ni’n trefnu digwyddiad gwerthfawrogi gofalwyr maeth
“Y manteision o fod gyda Maethu Cymru Abertawe yw bod y plant yn lleol, mae llawer o gyfleoedd hyfforddi, mae’r grwpiau cymorth yn lleol, ac rydyn ni’n derbyn gwybodaeth reolaidd a chyfredol.“
Wendy Jenkins, Gofalwr Maeth
13. gallwn ni gynnig cymorth i chi gan ofalwyr maeth lleol pe bai angen seibiant arnoc
Rydyn ni’n deall nad yw maethu bob amser yn hwylio plaen ac weithiau mae’n dod â heriau. Weithiau, efallai y bydd angen i ofalwyr gymryd seibiant i ail-lenwi eu batris, neu weithiau gallai plentyn maeth elwa o seibiant rheolaidd. Gall ychydig o gymorth gan ofalwr maeth arall wneud yr holl wahaniaeth. Yn ffodus, mae gennym ofalwyr maeth seibiant sy’n cynnig y seibiannau byr hyn i ofalwyr maeth eraill. Byddwch chi’n dod i’w hadnabod nhw a gallan nhw ddod i adnabod y plant.
14. rydyn ni’n buddsoddi yn ein gofalwyr maeth fel eu bod nhw’n cael y cyfle i ddatblygu
Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau hyfforddi craidd ac arbenigol ar gael i’n gofalwyr maeth. Rydyn ni hefyd wedi mabwysiadu dull hyblyg o ddysgu a datblygu ar gyfer ein gofalwyr maeth felly mae dysgu bellach yn cael ei gydnabod ar ffurf rhaglenni dogfen, podlediadau, llyfrau, erthyglau a llawer mwy.
15. rydyn ni’n cynnig opsiynau maethu hyblyg i weddu i bob ffordd o fyw a phrofiad
Rydyn ni’n cydnabod bod amgylchiadau pawb yn wahanol. Mae rhai yn gweithio’n amser llawn, eraill yn rhan-amser, eraill mewn sefyllfa i faethu yn amser llawn. Dyna pam mae hyblygrwydd o ran y math o faethu y gallwch chi ei ddarparu. Gallwch chi ddechrau trwy gynnig ymweliadau penwythnos rheolaidd a gwyliau ysgol – trochwch eich traed i mewn fel maen nhw’n ei ddweud! Efallai y byddwch chi’n penderfynu bod hyn yn gweddu i’r dim i’ch ffordd chi o fyw, neu ar ôl ychydig, efallai y byddwch chi’n penderfynu eich bod chi am faethu ar sail fwy amser llawn. Dyna sy’n hyfryd am faethu gyda ni. Yn syml, rydych chi’n mynd yn ôl i’r panel i newid cymeradwyaeth. Does dim rhaid i chi roi’r gorau i’ch gyrfa a’ch incwm ariannol – gallwch chi barhau i weithio a maethu os yw hynny’n gweddu i chi’n well.
16. rydyn ni o’r farn fod cyfathrebu yn hollbwysig
Rydyn ni’n credu fod darparu lefel uchel o gyfathrebu i’n gofalwyr maeth yn hanfodol boed hynny ar ffurf neges destun, e-bost, cylchlythyr, grŵp Facebook, wyneb yn wyneb, galwad fideo, neu dros y ffôn.
Bydd ein gofalwyr maeth ni bob amser yn gallu siarad â rhywun o’u tîm oherwydd bydd ganddyn nhw fynediad at y manylion cyswllt ar gyfer:
- Eu gweithiwr cymdeithasol goruchwylio
- Eu gweithiwr cymorth dynodedig
- Dyletswydd – mae aelod o staff ar ddyletswydd drwy gydol yr wythnos
- Llinell gymorth i ofalwyr – mae aelod o staff ar gael gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Tîm dyletswydd brys – mae aelod o staff ar gael y tu allan i’r oriau arferol (yn ystod y nos/yn gynnar yn y bore) a phenwythnosau
- Swyddog Datblygu Busnes
”Pan fydd angen cefnogaeth arnom, mae Maethu Cymru Abertawe bob tro ar ben arall y ffôn, yn barod i helpu.”
Jackie Howells, Gofalwr Maeth
17. rydyn ni’n gwrando ar ein gofalwyr maeth yn wirioneddol
Rydyn ni’n rhoi llais iddyn nhw, fel eu bod nhw’n teimlo bod yn eu clywed. Yn y pen draw, nhw yw’r rhai sy’n gofalu am y plant. Maen nhw’n gwybod beth yw’r heriau, ac maen nhw’n eiriolwyr dros y plant. Bob blwyddyn, rydyn ni’n ymgynghori â gofalwyr maeth ar bob agwedd ar y gwasanaeth fel y gallwn ni ddarganfod beth rydyn ni’n ei wneud yn dda a beth y mae angen i ni wella arno. Gan weithio ar y cyd â’n gofalwyr maeth, rydyn ni’n edrych yn gyson ar ffyrdd o ddatblygu’r gwasanaeth yn unol â’r adborth y mae ein gofalwyr maeth wedi’i roi i ni.
ydych chi’n ofalwr maeth asiantaeth?
Os ydych chi’n ofalwr maeth asiantaeth, yn byw yn Abertawe, ac yn ystyried trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe, byddwn ni’n gwneud y broses drosglwyddo mor llyfn â phosibl.
- Ni fydd yn rhaid i chi fynychu hyfforddiant Sgiliau i Faethu
- Byddwn ni’n cyflymu eich trosglwyddiad
- Byddwn ni’n sicrhau y bydd eich tâl yn cyfateb i’r un a gewch chi ar hyn o bryd gan eich asiantaeth (os yw’n uwch).*
- Dim ond plant o Abertawe fydd yn cael eu lleoli gyda chi
Peidiwch ag oedi, trosglwyddwch atom a manteisiwch ar holl fanteision maethu i’ch awdurdod lleol. Byddwch chi’n rhan o dîm o amgylch y plentyn lle rydyn ni’n eu rhoi nhw yn gyntaf, nid elw.
*Bydd hyn yn digwydd os ydych yn derbyn tâl uwch ar hyn o bryd nag y byddech chi gyda Maethu Cymru Abertawe a bydd yn parhau nes i’r plentyn/plant sydd yn eich gofal ar hyn o bryd adael.
“Rwy’n teimlo bod trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe wedi bod yn un o’r pethau gorau rydw i wedi’i wneud. Hoffwn pe bawn i wedi gwneud hynny yn gynt. Rwyf wedi cwrdd â chymaint o blant gwych gyda chymeriadau gwych ac maen nhw wedi dod â chymaint o lawenydd i mewn i’m cartref. Rwy wedi bod yn ffodus i gael gweithiwr cymdeithasol goruchwylio gwych, sydd wedi rhoi’r lefel gywir o gymorth y mae ei hangen arnaf.”
Wendy Jenkins, Gofalwr Maeth
byddwch yn rhan o’r newid yng nghymru
Mae gofal maeth yng Nghymru yn newid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo dileu elw o ddyfodol gofal plant.
Ym mis Chwefror 2025, pasiwyd deddf gan y Senedd, sy’n gwahardd elw preifat ym maes gofal preswyl a gofal maeth plant.
Dim ond gan y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau dielw y bydd gofal i blant sy’n derbyn gofal yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.
Bydd hyn yn sicrhau bod arian sy’n mynd i’r system yn cael ei ail-fuddsoddi i les plant, yn hytrach na’i gymryd yn elw i gyfranddalwyr.
“Dydyn ni erioed wedi difaru am drosglwyddo i’r awdurdod lleol a byddem yn annog holl ofalwyr maeth yr asiantaethau maethu annibynnol lleol i feddwl am ymuno â ni.”
Paul & Sharron Hammond, Gofalwyr Maeth
ymunwch â maethu cymru
Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd yng Nghymru i rannu arferion gorau a dod â chysondeb i holl ofalwyr maeth awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hynny’n cael ei wneud trwy wrando ar ein gofalwyr maeth a gweithio mewn cyd-gynhyrchu i helpu i lunio’r dyfodol.
Ar gyfer dyfodol gwell, canlyniadau gwell i blant a gofalwyr maeth – mynnwch lais. Byddwch yn rhan o’r ateb a gadewch i ni wneud pethau’n well gyda’n gilydd.
oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu gyda maethu cymru abertawe?
Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu neu os ydych chi’n ofalwr maeth asiantaeth ac â diddordeb mewn trosglwyddo i Faeth Cymru Abertawe, cysylltwch â ni heddiw am sgwrs anffurfiol.