
“Galla’ i wir ddim dychmygu bywyd heb faethu’n rhan fawr ohono!”
Mae Julie yn ofalwr sengl sydd wedi bod yn maethu gyda’r awdurdod lleol ers dros 16 o flynyddoedd. Mae ganddi dri o blant ei hun, y mae dau ohonynt yn byw gyda hi.
Mae hi wedi maethu brodyr a chwiorydd, arddegwyr, plant ag anghenion cymhleth a llawer o fabanod, y mae wedi’u symud ymlaen i gael eu mabwysiadu.
Mae tri o blant wedi’u lleoli gyda hi ar hyn o bryd; merch 18 oed sy’n byw gyda hi dan y cynllun “Pan fydda’ i’n barod” ac efeilliaid 6 blwydd oed Mae gan y ddwy ferch oedi sylweddol o ran eu datblygiad ac mae ganddynt nam sylweddol ar eu golwg.
Mae ei thŷ byth a beunydd yn brysur ac mae cael ei hamgylchynu gan lawer o blant yn fwyd a diod iddi, ac ni fyddai byth am newid hyn.
Mae Julie yn adrodd ei stori am sut y dechreuodd faethu a pham nad yw byth am roi’r gorau iddo.
Beth wnaeth i chi benderfynu gwneud hyn?
“Roedd dau brif reswm pam y penderfynais ystyried maethu. Yn y bôn, y prif reswm oedd oherwydd bod fy mam wedi tyfu i fyny mewn gofal maeth ac roedd gofalwyr maeth wedi newid ei bywyd mewn ffordd gadarnhaol. A dweud y gwir, wnes i ddim sylweddoli tan fy mod yn ddigon hen mai’r bobl roeddwn i’n cyfeirio atyn nhw fel mam-gu a tad-cu oedd rhieni maeth fy mam mewn gwirionedd.
“Ond gwnaeth fy mam erioed guddio unrhyw beth oddi wrthyf am ei hamser mewn gofal maeth, a thrwy gydol fy mhlentyndod, siaradodd mam yn agored am ei phrofiadau mewn gofal maeth.
“Roedd hi’n lwcus, rhoddodd fy mam-gu a’m tad-cu fywyd da iddi. Roedd yr hyn wnaethon nhw i fy mam wedi ennyn ymateb ynof – roeddwn i am allu gwneud yr un peth i rywun arall. Efallai fel ffordd o ddiolch fod fy mam wedi cael ail gyfle i gael bywyd teuluol cariadus – dangoswyd iddi sut y dylai pethau fod, ac fe drosglwyddodd hi hynny i mi.
“Ond roedd rheswm arall pam y penderfynais i faethu. Pan oeddwn yn 12 oed, roedd fy ffrind gorau mewn gofal maeth ac roedd hi’n dod draw i fy nhŷ’n aml. Un diwrnod, penderfynais alw heibio tŷ fy ffrind i weld a oedd hi am ddod mas i chwarae. Ond, dywedodd ei rhieni maeth wrthyf ei bod wedi gadael. Roeddwn yn drist tu hwnt. Welais i fyth y ffrind hwn eto ac effeithiodd hynny’n fawr arna i. Roedd y profiad hwn wedi cryfhau fy awydd i faethu. Gwyddwn fod gennyf y cariad i’w roi, tŷ cynnes i groesawu plant a’r gwytnwch sydd ei angen.”
Beth yw’r buddion?
“Roeddwn i’n ddigon ffodus o gael gwybodaeth am ofal maeth a sut roedd y cyfan yn gweithio felly roeddwn i’n gwbl ymwybodol o’r hyn oedd o’m blaen.
“Dwi wir yn dwlu ar fod yn ofalwr maeth…. wel 90% o’r amser. Galla’ i wir ddim dychmygu bywyd heb faethu’n rhan fawr ohono! Dwi byth yn mo’yn rhoi’r gorau iddo, dwi ddim yn hoffi tŷ tawel!
“Dwi wrth fy modd yn gweld pob plentyn sydd wedi byw yma gyda fi’n datblygu ac yn cyrraedd cerrig milltir, waeth pa mor fawr neu fach ydynt. Maen nhw’n unigryw i’r plentyn hwn. Dwi hefyd yn mwynhau dysgu sgiliau newydd a datblygu fy ngwybodaeth fel y gallaf helpu plant gyda’r hyn y mae arnyn nhw ei angen gennyf i.
“Mae’r merched ifanc sydd gyda fi ar hyn o bryd yn colli eu golwg. I fi, roedd yn amlwg bod angen i fi ddysgu Braille fel y gallwn eu helpu a diwallu eu hanghenion parhaus. Mae fy nhŷ wedi cael ei addasu ar eu cyfer yn ddiweddar hefyd. Dwi am iddyn nhw fyw bywyd mor normal â phosib.
“Mae’n siŵr fy mod i’n gwneud hyn i roi dyfodol sicr i’r plant, yn union fel y cafodd fy mam ac yna’r hyn a roddodd fy mam i fi. Nid yw unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n dod i fyw gyda fi’n cael ei drin yn wahanol i’m plant fy hun. Byddaf yn ymladd dros bob un ohonyn nhw. Dyna mae’n nhw’n ei haeddu gennym on’d ife?”
Pam maethu ar gyfer eich awdurdod lleol?
“Pan benderfynais ddilyn fy mreuddwyd o ddod yn ofalwr maeth, fe wnes i fy ymchwil. Edrychais ar faethu ar gyfer yr awdurdod lleol a’i gymharu â maethu ar gyfer asiantaethau maethu annibynnol amrywiol. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglais, penderfynais faethu gyda Maethu Cymru Abertawe. Dwi’n falch fy mod wedi gwneud hynny ac yn hapus â’m penderfyniad, ac mae e’n bopeth roeddwn i’n ei ddisgwyl. Os dwi’n onest, allwn ni ddim gofyn am fwy.
“Mae’r gefnogaeth a gaf gan fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a’r tîm cyfan yn wych. Os oes angen i mi gael gafael yn rhywun, mae rhywun ar gael bob amser i siarad ag e’. Dwi byth yn teimlo ar fy mhen fy hun a dwi ddim yn ofni mynegi fy marn. Rwy’n teimlo bod pobl yn gwrando arna’i o ddifrif ac yn ystyried yr hyn dwi’n ei deimlo’i fod yn iawn ar gyfer y plant sydd dan fy ngofal.
Rwyf hefyd yn lwcus iawn fy mod trwy gydol fy mlynyddoedd fel gofalwr maeth wedi gwneud ffrindiau gyda gofalwyr maeth eraill sydd wir yn ffrindiau am oes. ‘Dyn ni’n cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnig cefnogaeth i’n gilydd pan fo’i angen. Mae’n amhrisiadwy.”
Unrhyw gyngor?
“Pe bawn yn rhoi cyngor i eraill sy’n ystyried maethu, byddwn yn dweud bod angen iddynt gael amynedd ac empathi go iawn ar gyfer yr hyn y mae’r plant wedi bod drwyddo. Hefyd, peidiwch â disgwyl gormod yn rhy fuan – gallwch chi byth danbrisio’r pethau y mae’r plant hyn wedi’u gweld neu eu clywed. Yn y bôn mae angen sefydlogrwydd, cysondeb a chartref cariadus a chefnogol ar y plant hyn. Dwi’n gweld bod synnwyr digrifwch yn helpu hefyd. Byddwn yn bendant yn argymell maethu i unrhyw un. A na…does neb wedi gofyn i mi ddweud hynny. “
cysylltu â ni
Os hoffech sgwrs anffurfiol i drafod eich diddordeb mewn maethu ymhellach, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt, cysylltwch heddiw.