stori

dafydd

Mae Dafydd wedi bod yn addysgu ers 20 mlynedd ond ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynodd ddod yn ofalwr maeth yn ychwanegol at ei brif gyflogaeth.

Fel athro, gwelodd yr effaith y gall byw mewn cartref â dylanwad cadarnhaol ei chael ar fywydau plant.

“Mae maethu’n rhywbeth roeddwn i wedi ystyried ei wneud flynyddoedd lawer yn ôl ond nes i erioed unrhyw beth amdano. Un diwrnod, roeddwn i’n sgwrsio â chydweithiwr yn yr ysgol a oedd yn maethu, a phenderfynais fod yr amser wedi cyrraedd i fi archwilio fy niddordeb. Gwelais wybodaeth am un o nosweithiau agored maethu’r awdurdod lleol, a phenderfynais fynd iddi i gael rhagor o wybodaeth. Mae pawb yn gwybod y gweddill.”

pam maethu ar gyfer eich awdurdod lleol?

“Drwy faethu gyda’r awdurdod lleol, rwy’n teimlo y gallaf helpu’r bobl ifanc yn y gymuned lle rwy’n byw drwy gynnig amgylchedd diogel, cadarn a chalonogol lle gallant ffynnu. Hefyd, yn ogystal â’r hyfforddiant cychwynnol sydd ei angen, maent hefyd yn darparu rhaglen hyfforddiant barhaus sy’n fy helpu i ddatblygu yn ogystal â gwella’r gofal y gallaf ei roi.

“O ddydd i ddydd mae gen i weithiwr cymdeithasol goruchwyliol sy’n gallu fy helpu a fy nghefnogi drwy roi cyngor a hyfforddiant, yn ogystal â fy nghefnogi gydag anghenion y bobl ifanc yn fy ngofal.”

beth yw buddion maethu?

Mae’n anodd iawn esbonio buddion maethu… y teimlad gorau yw gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn. Rwy’n cynnig seibiannau byr a maethu tymor hir, ac mae wedi bod yn hyfryd cynnig cefnogaeth i deuluoedd ar ffurf seibiant, yn ogystal â chynnig lleoliad tymor hir a sefydlogrwydd. Ar hyn o bryd rwy’n maethu bachgen 17 oed, yr wyf wedi bod yn ei faethu ers sawl blynedd, ac mae’n bleser ei weld yn datblygu’n ddyn ifanc cyfrifol, a’i baratoi at annibyniaeth pan fydd yn barod am hynny.

beth gall pobl ei ddisgwyl o fod yn ofalwr maeth?

“Dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn hawdd o bell ffordd, ond dwi erioed wedi gwneud rhywbeth mor wobrwyol.Fel gofalwr maeth, rydych yn cael y cyfle i gyfoethogi bywyd plentyn.”

pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth?

“Mae ambell agwedd ar ddod yn ofalwr maeth y gallwch baratoi ar ei chyfer, ac mae agweddau eraill does dim modd paratoi ar eu cyfer. Mae sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant diweddaraf yn ffordd wych o baratoi gorau y gallwch ar gyfer cynifer o sefyllfaoedd gwahanol â phosib. Drwy ddefnyddio’ch hyfforddiant, byddwch yn barod i wynebu unrhyw heriau. Ni fydd pob diwrnod yn her, ond byddwch yn sicr yn wynebu ambell her annisgwyl ar hyd y ffordd. Bydd cefnogaeth eich teulu a’ch ffrindiau yn eich helpu chi’n fawr, yn enwedig o ran gwarchod plant a chynnig clust i wrando pan fydd ei hangen arnoch.Mae’n rhaid i chi allu caru plant yn ddiamod – yr adegau anoddach i garu’n ddiamod yw pan fydd plentyn yn ceisio’ch gwthio i ffwrdd.I’ch helpu i ymdopi â’r cyfan, yn sicr mae angen synnwyr digrifwch. Peidiwch â bod ofn gofyn am help. Dydy gofyn am help ddim yn golygu eich bod wedi methu; mae’n golygu eich bod am wneud y gorau. Yn olaf, prynwch beiriant golchi llestri! Doeddwn i erioed wedi ystyried yr holl lestri brwnt y byddai angen eu golchi!”

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Neu, cysylltwch â ni heddiw i gael sgwrs heb unrhyw bwysau, am faethu.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.