stori

clare & gareth

Yn ystod COVID-19, roedd y rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi’n anodd bod gartref, gan ddyheu am yr adeg pan fyddai rhywfaint o normalrwydd yn dychwelyd a chyfyngiadau’n cael eu codi. Roedd yn gyfnod anodd, yn enwedig gan nad oeddent yn gallu gweld eu hanwyliaid ac yn gorfod bod yn athrawon dros nos.

Fodd bynnag, gwnaeth un cwpl benderfyniad na allai llawer hyd yn oed fod wedi’i ystyried ar yr adeg honno oherwydd prin yr oeddent yn llwyddo i ymdopi â gorfod aros yn y tŷ.

Daeth Clare a Gareth Pritchard ar draws erthygl am bedwar o siblingiaid a oedd yn chwilio am gartref maeth. Mae Gareth yn gweithio yn ei gymuned leol, ac yn ystod COVID-19, fe drafodon nhw’r heriau yr oedd plant yn eu cymuned yn eu hwynebu. Sbardunodd hwn y sgwrs am faethu ac wrth i amser fynd yn ei flaen cynyddodd y sgyrsiau hynny.

Gan fod eu plant hŷn wedi gadael gartref, roedd ganddyn nhw ystafell wely sbâr. Fe benderfynon nhw gysylltu â’u cyngor lleol, Abertawe, i gael rhagor o wybodaeth. Roeddent yn bresennol mewn digwyddiad gwybodaeth rhithwir a gallech ddweud bod y gweddill yn hanes.

Yn ddi-os, mae ’na bobl a fyddai wedi cael eu digalonni gan y posibilrwydd y byddai popeth yn rhithwir. Gan nad oedd hi’n bosib cynnal ymweliadau cartref, roedd yn rhaid cynnal yr asesiad cyfan drwy Microsoft Teams, rhywbeth sydd wedi dod yn gyfarwydd i lawer o bobl.

Ond ni wnaeth hyn rwystro Clare a Gareth rhag dod yn ofalwyr maeth.

“Fel y rhan fwyaf o bobl, roeddem yn gweld bod ein gwaith wedi symud ar-lein yn ystod COVID-19, felly roedd yn iawn cael ein hasesu fel hyn. Os rhywbeth, roedd yn ein gwneud ni’n fwy cyfforddus gan ein bod ni yn ein hamgylchoedd ein hunain ac yn ei gweld hi’n hawdd gweithio o gwmpas y gwaith a’r teulu.”

mae cael cefnogaeth yn hanfodol

Mae cefnogaeth i ofalwyr maeth, a’u teuluoedd, yn hanfodol ond gyda’r holl gyfyngiadau ar y pryd, roedd ‘na bryder y byddai pobl yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth. Ond nid yw hyn yn rhywbeth y teimlai Clare a Gareth drwy gydol eu hasesiad ac ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.

“Mae’n bwysig iawn cael cefnogaeth gan eich ffrindiau a’ch teulu pan ydych yn ofalwyr maeth. Mae’r daith faethu’n brofiad llawn cyfnewidiadau. Pan brofon ni heriau, rydym wedi gweld bod ein gweithiwr cymdeithasol a’r timau estynedig wedi bod mor gefnogol. Mae’n bwysig iawn cyfleu’r hyn sydd ei angen arnoch a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi.”

Cymeradwywyd Clare a Gareth fel gofalwyr maeth ers Gorffennaf 2021 ac nid oedd yn hir nes i blentyn fynd i fyw gyda nhw, rhywbeth y dywedon nhw oedd fwyaf anodd gan nad oedden nhw’n siŵr beth i’w ddisgwyl.

y plentyn cyntaf i gael ei leoli gyda ni

“Roeddem i gyd yn lladd ein hunain am y 48 awr gyntaf i wneud yn siŵr bod pawb yn hapus ac wedi ymgartrefu. Ar ôl hynny daethom i arfer â phethau a dechreuodd pawb ymlacio’n fwy.Y cyntaf yw’r anoddaf gan nad ydych chi’n siŵr beth i’w ddisgwyl.”

buddion maethu

“Mae cynifer o fuddion wrth faethu, mae’r rhain i’w gweld yn y pethau bach beunyddiol y gallwn ni i gyd eu cymryd yn ganiataol. O wylio plentyn yn peidio â bod mor wyliadwrus ac yn ymddiried mewn oedolion, i’w weld wedi’i gyffroi pan fyddwch chi’n sefyll ar linellau ochr ei gêm rygbi.Er ein bod wedi cael ein herio fel teulu, yn gyffredinol mae wedi bod yn beth mor gadarnhaol i ni gyd.”

Gall maethu hefyd gael effaith ddwys ar blant gofalwyr maeth eu hunain. Mae gan Clare a Gareth fab 10 oed gartref. Yn ddiweddar, meddai, “Mae maethu’n brofiad cyfnewidiol ond pan fyddwch chi ar eich pwynt isaf rydych chi’n agored i’ch newid mwyaf.”

Os oes gennych eich plant eich hun, rydych chi’n siŵr o fod eisiau gwybodaeth am sut bydd maethu’n effeithio arnynt. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein blog.

pam maethu, felly?

“Yn ein cymunedau mae llawer o blant y mae angen cefnogaeth arnynt. Pan fyddwch yn cynnig eich cartref i roi amgylchedd diogel iddyn nhw i ffynnu, rydych chi hefyd yn dysgu perthnasoedd cadarnhaol iddyn nhw. Rydych chi’n helpu’r plentyn hwn nawr ond rydych hefyd yn effeithio ar ei ddyfodol. Bydd yr hyn a wnewch i gefnogi’r plentyn hwn nawr yn effeithio ar ei holl berthnasoedd yn y dyfodol, o’i bartner, i blant, i berthnasoedd yn y gwaith ac yn y gymuned.

“Penderfynon ni fel teulu gynnig ein cartref i gefnogi plentyn ac mae wedi bod yn heriol ond yn un o’r pethau gorau rydym wedi’i wneud.”

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol i gynnig cartref diogel a chariadus iddo, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch