
“Mae maethu wir wedi newid bywydau, nid yn unig i’r plant sy’n dod i fyw gyda ni, ond i fi hefyd.”
Mae plant gofalwyr maeth, p’un a ydynt yn dal i fyw gartref neu’n oedolion eu hunain, yn chwarae rôl allweddol mewn aelwyd sy’n maethu. Maen nhw’n helpu i greu teuluoedd croesawgar a chariadus i blant maeth.
Mae llawer o bobl yn meddwl am faethu ond pryder cyffredin y rheini sydd â’u plant eu hunain yn byw gartref yw sut bydd yn effeithio arnyn nhw. Yn ddealladwy, gall dod â phlentyn newydd i’r cartref fod yn gythryblus, neu gall beri i ddeinameg y teulu newid yn sydyn.
Mae gan bron 50% o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe eu plant eu hunain sy’n dal i fyw gartref, a gall eu presenoldeb wneud gwahaniaeth go iawn i blant maeth, a’u helpu i ymgartrefu yn eu cartref newydd.
Er eu bod yn gorfod rhannu eu teulu a’u cartref, yn ogystal ag ymdopi weithiau gydag ymddygiadau anodd, mae llawer o blant ein gofalwyr eu hunain yn dweud eu bod yn mwynhau maethu ac wedi profi sawl budd.
Mae maethu’n hyrwyddo sgiliau bywyd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc a all fod yn fwy anodd eu hatgynhyrchu yn unrhyw le arall, fel tosturi, empathi a charedigrwydd i eraill mewn angen.
Pan fydd plant yn cyrraedd y tŷ am y tro cyntaf oll, plant y gofalwyr maeth eu hunain sy’n arwain y ffordd drwy eu tywys o gwmpas y tŷ, ac egluro ble mae popeth yn cael ei gadw, gan gynnwys y tun bisgedi hollbwysig! Hefyd plant y gofalwyr eu hunain sy’n chwarae pêl-droed, gemau diddiwedd o chwarae cuddio, neu unrhyw beth arall y byddai’r newydd ddyfodiad yn hoffi’i chwarae neu ei wneud i’w helpu i ymgartrefu a theimlo’i fod yn cael ei groesawu.
Mae caredigrwydd anhygoel plant y gofalwyr eu hunain yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol a phwerus, gan ei fod yn creu ac yn hyrwyddo’r perthnasoedd pwysig a’r cysylltiadau cryf gan ganiatáu iddynt flodeuo rhwng pawb yn y teulu maethu, sy’n amhrisiadwy!
Ochr yn ochr â’u rhieni, mae Rosie (11) ac Alfie (13), wedi bod yn maethu ers dros bedair blynedd. Maen nhw’n dweud bod maethu wedi newid eu bywydau ac maent yn mwynhau gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
felly, beth maen nhw wir yn ei feddwl am fod yn rhan o deulu sy’n maethu?
Rosie: “Rydyn ni’n cael rhoi cyfle i blant eraill fod yn ddiogel ac yn hapus ac maen nhw’n cael cyfle i fyw bywyd hapus, rhywbeth y dylai pob plentyn ei gael. ‘Dych chi’n cael cwrdd â phlant eraill a bod yn fodel rôl da iddyn nhw, a ‘dych chi’n cael llawer o hwyl hefyd. Dwi’n hoffi bod fy nheulu’n maethu ac yn helpu plant, ac rydyn ni’n cael bod yn rhan o wneud gwahaniaeth i fywydau plant.”
Alfie: “Mae fy meddyliau o ran bod mewn teulu maethu i gyd yn gadarnhaol iawn. Rwy’n hoffi’r ffaith fy mod i’n gwybod fy mod i a fy nheulu’n helpu llawer o blant sydd angen lle diogel i aros. Dwi’n hoffi maethu achos dwi’n meithrin perthynas â phlant eraill dwi’n gwybod fydd yn aros gyda fi am byth. Mae maethu wir wedi newid bywyd, nid yn unig i’r plant sy’n dod i fyw gyda ni, ond i fi hefyd.”
ond ‘does bosib bod anfanteision a heriau i faethu?
Rosie: Pan mae plant yn gadael, dwi’n ei chael hi’n anodd, yn enwedig pan ‘dyn ni wedi adeiladu perthynas dda â nhw, ond dwi hefyd yn hapus drostyn nhw achos maen nhw’n symud ymlaen i deulu newydd.”
Alfie – Er fy mod yn dwlu ar faethu mae ‘na rai agweddau hefyd rwy’n eu cael yn heriol. Dwi’n dod yn hoff iawn o’r plant sy’n dod i’n teulu ni a phan fydd yn amser iddyn nhw adael, dwi’n aml yn mynd yn emosiynol. Rwy’n hapus dros y plant sy’n cael dechrau pennod newydd yn eu bywydau ond weithiau dwi ddim am iddyn nhw adael. Mae ein teulu ni’n dal i fod mewn cysylltiad â’r plant sydd wedi byw gyda ni, dwi’n dal i gael eu gweld nhw a dwi’n ddiolchgar am hynny.”
Mae plant y gofalwyr maeth eu hunain yn helpu i greu atgofion cadarnhaol i’r plant sy’n dod i fyw gyda nhw, waeth pa mor fyr yw eu hamser nhw yno.
felly, beth yw atgof gorau Alfie a Rosie o faethu hyd yn hyn?
Rosie: “Y Nadolig cyntaf i ni gael fel teulu maethu oedd y gorau. Roedd gweld fy mrawd maeth mor hapus a chyffrous yn gwneud i fi deimlo mor hapus. Gwnaeth hynny’r Nadolig hwnnw’n un arbennig iawn.”
Alfie: “Fy hoff atgof yw mynd i Chessington World of Adventures. Dwi’n dal i gofio’r wên ar wyneb fy mrawd maeth pan aeth ar reid am y tro cyntaf. Roedd ei weld yn cael cymaint o hwyl wedi gwneud i fi fwynhau’r daith honno’n fwy. Rydym wedi bod i Chessington unwaith neu ddwy ers hynny ac rydym bob amser yn cael cymaint o hwyl yno. Dwi’n hoffi fy mod yn gallu creu atgofion gyda fy mrawd maeth ond dwi hefyd yn hoffi’r ffaith fy mod i’n rhan o’i atgofion e’ hefyd.”
Ar hyn o bryd, mae angen rhagor o ofalwyr maeth i sicrhau y gallwn ddod o hyd i’r teulu maethu cywir ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd angen cartref diogel a chariadus. Mae Alfie a Rosie yn deall pa mor bwysig yw hi i ragor o bobl gynnig eu hunain i faethu.
Rosie: “Os nad oes digon o bobl yn cynnig eu hunain i faethu bydd yn golygu na fydd gan blant leoedd diogel i aros. Dwi’n teimlo’n lwcus bod gen i gartref diogel i fyw ynddo a dwi’n meddwl bod pob plentyn yn haeddu’r un peth â fi. Mae pob plentyn yn haeddu bod yn hapus a chael cartref cynnes, bwyd i’w fwyta, gwely i gysgu ynddo a theulu maen nhw’n gallu cael hwyl gyda nhw.”
Alfie – Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i fwy o bobl faethu gan fod ‘na blant sydd angen oedolion i’w helpu nhw i gadw’n ddiogel. Mae pob plentyn yn haeddu cael y cyfle i fod y gorau y gall e’ fod. Rhaid ei fod mor frawychus i adael eich teulu a mynd i fyw gyda dieithryn, ond gallech chi fod y dieithryn hwnnw sy’n dod yn llais y plentyn hwnnw, yn lle diogel y plentyn gan ddysgu iddo nad yw’r byd mor frawychus â hynny. Os oes gennych le yn eich cartref a chariad i’w roi, rwy’n credu y dylech roi cynnig arni. Dwi’n teimlo’n falch ein bod ni’n gallu helpu plant eraill, hyd yn oed os yw’n golygu bod yn rhaid i fi rannu fy mam a ‘nhad.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu pan fydd gennych eich plant eich hun, darllenwch ein blog yma.
Os oes gennych chi bryderon o hyd, neu os oes gennych gwestiynau yr hoffech iddynt gael eu hateb, beth am gysylltu â ni heddiw am sgwrs anffurfiol, heb bwysau? Gallwn hefyd drefnu i chi siarad ag un o’n gofalwyr maeth am wirioneddau maethu pan fydd gennych eich plant eich hun yn byw gartref.