blog

gweithgareddau’r pasg yn abertawe

Mae’r Pasg bron â chyrraedd ac rydym am i bawb gael hanner tymor llawn hwyl!

Felly rydym wedi gwneud yr ymchwil er mwyn gwneud pethau’n haws i chi. Isod mae amrywiaeth o opsiynau, gweithgareddau, ryseitiau a chrefftau y gallwch chi eu gwneud yn ystod eich amser i ffwrdd o’r ysgol a’r gwaith.

parc arfordirol newydd abertawe

DCIM\100MEDIA\DJI_0590.JPG

Pa ffordd well o ddechrau’r gwyliau na thrwy fynd i weld y parc arfordirol newydd ger Arena Abertawe? Gall y plant gael hwyl yn archwilio’r ardal chwarae newydd sbon. Mae hefyd fwyty newydd sbon sy’n gweini diodydd poeth a theisennau ar hyn o bryd, gydag ardal eistedd dan do ac awyr agored.

Mae’n lle gwych yn Abertawe i fynd fel teulu.

ewch i weld bwni’r pasg yn ei dwll ar bier y mwmbwls

Bydd pob plentyn sy’n galw heibio yn cael cyfle i gwrdd â Bwni’r Pasg a chael ŵy siocled. Os hoffech ychwanegu’r profiad difyr hwn at eich rhestr o atgofion, archebwch le nawr drwy’r ddolen isod fel nad ydych yn colli’ch cyfle!

Ymweld â Bwni’r Pasg yn ei Dwll! Pier y Mwmbwls (mumbles-pier.co.uk)

cefn bryn

OS ydych chi’n dwlu ar droeon hir, dyma’r lleoliad i chi. Llwybr cerdded 5 milltir o hyd yng Ngŵyr yw Cefn Bryn, gyda nifer o lwybrau troed ar draws y safle. Felly, os yw’r haul yn gwenu a hoffech gael awyr iach, mynd â’r ci am dro, gweld cefn gwlad hardd a’i fywyd gwyllt, yna dyma’r lle i chi!

Does dim maes parcio swyddogol ar gael yn y lleoliad hwn, ond mae safle bach garw ar ben y bryn ac mae digon o leoedd parcio ar y stryd yn y pentrefi gerllaw.

llyn cychod singleton

Os nad ydych wedi bod i lyn cychod Singleton, pam oedi? Bydd y llyn cychod ar agor drwy gydol gwyliau’r Pasg o

ddydd Gwener 8 Ebrill i ddydd Llun 25 Ebrill. Gallwch chi, eich ffrindiau a’ch teulu fynd ar gwch pedal a llywio’ch ffordd o amgylch y llyn, wrth fwynhau’r golygfeydd ar yr un pryd.

Os byddai’n well gennych weithgaredd i’r teulu ar y tir, mae cwrs golff gwallgof yn yr un lleoliad lle gallwch fwynhau chwarae golff gyda’r teulu a chystadlu yn erbyn eich gilydd i gael eich pêl yn y twll ar y cynnig cyntaf!

helfa bwni’r pasg

Dewch i Gastell Ystumllwynarth yn y Mwmbwls, lle gall y plant gymryd rhan mewn Helfa Bwni’r Pasg ddifyr. Os ydyn nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’r holl fwnis cudd, gallant ennill trît y Pasg!

Cynhelir y digwyddiad hwn ddydd Sul 17 Ebrill rhwng 11am a 12pm.

Er bod y digwyddiad hwn am ddim, bydd rhaid talu’r ffioedd mynediad isod o hyd os hoffech gymryd rhan.

  • Safonol = £5
  • Consesiynau £4
  • PTL Abertawe £3
  • Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £15
  • Plant dan 5 oed – am ddim
  • Mae pàs tymor ar gael – gofynnwch yn y castell

gerddi botaneg singleton

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy hamddenol, gallai diwrnod yng Ngerddi Botaneg Singleton fod yn berffaith i chi.

Mae’r ardd yn gartref i 200 o blanhigion a blodau gwahanol, gan gynnwys rhai efallai nad ydych chi erioed wedi’u gweld o’r blaen! Mae meinciau ar gael trwy’r parc felly os hoffech ymlacio yn yr haul ac edmygu’r ardal hyfryd o’ch cwmpas, gallwch wneud hynny!

Does dim llawer o leoedd parcio, ond gallwch fanteisio ar y cynnig bysus AM DDIM poblogaidd, lle gallwch deithio ar fws am ddim yn Abertawe rhwng 15 a 24 Ebrill.

Mae mynediad i’r parc am ddim a’r oriau agor ar gyfer mis Ebrill yw 10am i 4.30pm.

gwersi nofio

Bydd Canolfan Hamdden Treforys yn cynnig cwrs nofio carlam dros wyliau’r Pasg. Mae’r cyfle hwn yn berffaith i unrhyw blentyn nad yw’n gwybod sut i nofio, ond sydd am ddysgu mewn amgylchedd diogel a difyr.

I gadw lle ar-lein, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Gwyliau’r Pasg yn Nhreforys | freedom leisure (freedom-leisure.co.uk)

taith y pasg drwy’r jwngl

Dewch i Plantasia rhwng 8 a 24 Ebrill os hoffech roi cynnig ar ddatrys y llwybr ac ateb eu holl gwestiynau g-ŵy-ch am eu hanifeiliaid sy’n dodwy wyau.

Os hoffech weld eu holl anifeiliaid, boed law neu hindda, a rhoi cynnig ar eu taith Pasg y jwngl, gallwch gadw lle drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Plantasia Abertawe – Digwyddiadau

arddangosfa un byd

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor arddangosfa gelf ar 9 Ebrill tan fis Gorffennaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â’r amgueddfa a gweld y celfwaith o Wersyll Penalun, gallwch wneud hynny dros y Pasg am ddim!

ryseitiau difyr ar gyfer y pasg

Yn ystod y gwyliau, efallai bydd rhai diwrnodau lle’r ydych am ymlacio yn y tŷ, yn enwedig os yw’r tywydd yn ddiflas. Felly beth am roi cynnig ar y ryseitiau Pasg hyn? Maen nhw’n edrych yn flasus iawn!

teisen gaws y pasg

Gallwch baratoi’r deisen gaws hon ar thema’r Pasg mewn 20 munud! Mae hefyd yn ffordd wych o ddefnyddio unrhyw wyau Pasg dydych heb eu bwyta.

Os byddech chi a’ch teulu’n mwynhau’r pwdin hwn, gallwch weld y rysáit a’r cynhwysion drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Easter egg cheesecake recipe | BBC Good Food

tameidiau browni’r pasg

Os ydych chi’n dwlu ar siocled, efallai y byddai’n well gennych y rysáit hon yn lle. Gallwch bobi 24 browni bach fel trît i’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymdogion ar gyfer y Pasg.

I weld y rysáit a’r cyfarwyddiadau pobi, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Easter brownie bites recipe | BBC Good Food

crefftau creadigol

Rydym hefyd wedi dod o hyd i syniadau celf a chrefft creadigol y gallech eu creu a chadw am gyfnod hirach na’r Pasg yn unig.

addurniadau wyau pasg a wnaed o does halen

Gallwch greu’r addurniadau wyau Pasg lliwgar hyn gydag ychydig brif gynhwysion syml sydd ar gael yn y tŷ, fel blawd plaen, halen, llinyn a rhai eitemau eraill. Ar ôl i chi orffen, gallwch hongian yr addurniadau yn eich ystafell wely neu unrhyw le yr hoffech!

I weld y cyfarwyddiadau llawn ar gyfer sut i greu’r addurniadau hyn, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

10+ Easter crafts ideas for kids & adults | BBC Good Food

balwnau moronen

Nesaf mae gennym weithgaredd crefft symlach y gallwch ei wneud gartref.

Mae bwni’r Pasg yn dwlu ar fwyta moron, felly beth am greu a dylunio’ch balwnau moronen eich hunan a’u gadael o amgylch y tŷ er mwyn dathlu’r Pasg?

Am fanylion sut i wneud y gweithgaredd crefft hwn, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

42 Easy Easter Crafts for Kids — Fun Easter Art DIY Ideas for Preschoolers (womansday.com)

Os ydych chi’n rhoi cynnig ar unrhyw un o’r ryseitiau neu’n ymweld ag unrhyw un o’r lleoliadau rydym wedi’u hawgrymu, tynnwch lun a’i rannu â ni!

Mwynhewch eich hunain dros wyliau’r Pasg!  

Story Time

Stories From Our Carers