Mae Phil a jane wedi bod yn ofalwyr maeth ers 12 mlynedd.
y teulu maeth
Mae’r pâr priod, Phil a Jane, wedi bod yn rhan o gymuned leol Abertawe ers degawdau, ac erbyn hyn maen nhw’n darparu cefnogaeth, diogelwch a chariad i’r rhai sydd angen hynny fwyaf.
“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau yn bennaf. Mae pobl weithiau’n meddwl bod maethu yn golygu gofalu am blant bach, a dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod llawer o bobl ifanc yn eu harddegau a phobl ifanc angen gofal a chartref cariadus hefyd.”
Anturiaethau a phrofiadau i’w helpu i dyfu gyda diogelwch a’r cariad yn sylfaen iddyn nhw.
“Dydy ein bywyd ddim wedi cael ei ohirio oherwydd ein bod ni’n maethu pobl ifanc yn eu harddegau – maen nhw wedi gwneud ein bywyd ni’n llawer gwell. Y peth gorau am faethu plant yn eu harddegau yw eu hiwmor. Rydyn ni’n chwerthin drwy’r amser gyda nhw”
“rydyn ni’n cael cymaint o hwyl”
Mae darparu’r lle diogel hwnnw i’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu hunain a meithrin perthnasoedd cryf. Mae hyn yn rhywbeth y byddan nhw’n ei wneud drwy weddill eu bywydau.
“Rydyn ni’n rhoi cynifer o brofiadau ag y gallwn ni iddyn nhw. Rydyn ni wedi bod yn mynd i lawer o wyliau cerddoriaeth a dawns ac rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn ein cartref modur hefyd, yn teithio o amgylch gwahanol rannau o Ewrop a’r DU. Mae’n rhoi cymaint o foddhad i ni gael bod yn rhan o’u taith a’u gweld tyfu’n oedolion ifanc gyda’r holl annibyniaeth yma. “
“rydyn ni’n rhoi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw”
Er bod pob stori sy’n ymwneud â maethu yn wahanol, yr hyn sy’n gyson yw bod pawb yn cofio’r amser a dreuliwyd gyda theulu Maethu Cymru am cyfnod hir iawn, ac am yr holl resymau iawn.
“Mae pobl yn gofyn yn aml i ni a yw maethu’n rhoi boddhad. Wrth gwrs, mae’n anodd ac weithiau mae’n anodd deall pethau’n iawn ac mae’n hawdd colli golwg ar yr holl bethau rydyn ni wedi’u cyflawni.”
“Ond pan fyddwn ni’n edrych yn ôl ar faint o blant rydyn ni wedi’u maethu dros y blynyddoedd, a faint ohonyn nhw sydd wedi cadw mewn cysylltiad â ni, rydyn ni’n gweld pa mor arwyddocaol ydyn ni yn eu bywydau.”
hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?
Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd wrth weithio gyda Maethu Cymru. I chi, ac i’r plant yn ein gofal. Cymerwch eich cam cyntaf ar eich taith faethu gyda hyder heddiw.
hoffech chi ddysgu mwy?
Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.
Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.