
Cafodd Annette O’Keefe ei chymeradwyo fel gofalwr maeth yn Ionawr 2020 ac yna cymeradwywyd ei phartner, Pete Toseland, yn Tachwedd 2021.
Penderfynodd Annette ddod yn ofalwr maeth yn ei rhinwedd ei hun ar ôl bod yn oedolyn arwyddocaol i un o’i ffrindiau a oedd yn ofalwr maeth prif ffrwd i Maethu Cymru Abertawe.
Cefnogodd Annette ei ffrind drwy helpu i ofalu am rai o’r bobl ifanc dan ei gofal, boed hynny am ychydig oriau neu wrth aros dros nos.
Mae Annette a Peter yn trafod sut beth yw bod yn ofalwyr maeth.
beth wnaeth i chi benderfynu maethu?
Annette, “Roeddwn i am helpu i gefnogi plant mewn angen ac roedd gen i brofiad eisoes o ofalu am y plant a oedd dan ofal fy ffrind.”
Mae Annette a Peter yn darparu seibiannau byr i helpu teuluoedd, yn ogystal â seibiant i ofalwyr maeth i roi hoe angenrheidiol iddynt.
Annette, “Roeddwn yn ymwybodol bod angen go iawn am ofalwyr seibiannau byr i helpu i gefnogi teuluoedd a gofalwyr maeth eraill.”
pa mor bwysig yw hi bod yna ofalwyr sy’n gallu darparu’r mathau hyn o leoliadau?
Peter, “Mae’n bwysig iawn bod gofalwyr maeth sy’n gallu cynnig y lleoliadau hyn gan ei fod yn helpu plant i aros gartref ac mae’n atal lleoliadau maethu prif ffrwd rhag cael eu llethu.”
Mae pob gofalwr maeth yn dweud pa mor bwysig yw cefnogaeth, boed hynny gan ei weithiwr cymdeithasol neu gan deulu a ffrindiau – nid yw Annette a Peter yn eithriadau.
pa mor bwysig yw cefnogaeth?
Annette, “Roedd COVID-19 yn gyfnod gwahanol ac mae’n parhau i fod felly – roedd yn rhaid i ni i gyd addasu a gwneud pethau’n wahanol. Mae cael cefnogaeth gan Maethu Cymru Abertawe yn gwneud byd o wahaniaeth.”
beth yw buddion maethu?
Annette, “Mae’n deimlad hyfryd pan fo’r bobl ifanc eisiau parhau i aros gyda ni ar ôl iddynt fod gyda ni am seibiant neu seibiannau byr. Hefyd, mae gennym bobl ifanc sy’n cadw mewn cysylltiad â ni ar ôl aros gyda ni. Mae hyn yn gwneud i ni deimlo ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn. Mae hyn hefyd yn wir pan fyddwn yn derbyn adborth cadarnhaol gan weithwyr cymdeithasol.”
Peter, “Mae cynifer o fuddion, yn enwedig wrth ddarparu’r math o leoliadau rydyn ni’n ei wneud. Mae’n hyfryd gallu cefnogi’r plant a’u teuluoedd drwy ddarparu amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r plant pan fyddant gyda ni.”
Annette, “Mae gweld y bobl ifanc yn gwenu ac yn hapus gyda ni’n hyfryd. Mae hefyd yn hyfryd gweld y bobl ifanc yn cael eu trosglwyddo’n llwyddiannus i gartref mwy parhaol.”
Pan fydd pobl yn ystyried maethu, mae’n bwysig nad yw gwasanaethau maethu’n osgoi’r heriau a all fod yn gysylltiedig â bod yn ofalwr maeth oherwydd, fel unrhyw beth mewn bywyd, nid yw’n hawdd.
Am ragor o wybodaeth am gefnogaeth a buddion, cliciwch yma.
a oes unrhyw heriau i faethu ac os felly, beth ydyn nhw?
Annette, “Oes, gall fod llawer o heriau, yn enwedig os yw’r plant yn ei chael hi’n anodd ymgartrefu yn y lle cyntaf. Mae angen iddyn nhw ymddiried yn eu gofalwyr cyn y gallant ymlacio. Mae’n ymwneud â dangos i’r plant eich bod yn poeni amdanynt ac y byddwch yn eu cadw rhag niwed. Ein gwaith ni yw eu helpu i deimlo’n ddiogel.”
Mae yna ddryswch o hyd rhwng maethu awdurdod lleol/cyngor a maethu ar gyfer Asiantaeth Maethu Annibynnol. Yn syml, gwasanaethau nid er elw yw gwasanaethau maethu awdurdod lleol, a phan fydd plant yn mynd i ofal, yr awdurdod lleol lle maent yn byw sy’n gyfrifol amdanynt.Felly, os oes angen lleoliad maeth ar unrhyw blentyn, cysylltir â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn gyntaf oll. Bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu ag asiantaethau maethu annibynnol i helpu i ddod o hyd i gartref i blentyn neu berson ifanc pan nad oes unrhyw ofalwyr maeth mewnol ar gael yn unig.
Mae Annette a Peter yn annog pobl i faethu ar gyfer eu hawdurdod lleol.
pam maethu ar gyfer eich cyngor lleol?
Annette, “Mae’n syml, rydym yn maethu ar gyfer Maethu Cymru Abertawe oherwydd rydym yn gwybod bod rhwydwaith cefnogi da iawn ar waith ac mae hynny’n hanfodol.”
a oes gennych chi unrhyw gyngor i bobl sy’n ystyried maethu?
Er bod heriau, mae llawer o fuddion i faethu ac mae’n dod â llawer o foddhad o wybod eich bod wedi helpu plant mewn angen. Rydym wir yn mwynhau bod yn ofalwyr maeth.
cysylltu â ni
Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am y broses o ddod yn ofalwr maeth? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.