blog

cwestiynau cyffredin:

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod y broses, beth sy’n digwydd ym mhob cam, a pha mor hir y mae’n ei gymryd mewn gwirionedd.

Isod ceir atebion i gwestiynau amrywiol y mae pobl yn eu gofyn ynghylch y broses o ddod yn ofalwr maeth.

faint o amser mae’r broses yn ei gymryd?

Ni ddylai’r cyfnod asesu gymryd mwy na chwe mis o’r cais i’r cam cymeradwyo.

Weithiau gall hyn gymryd mwy o amser ond mae hyn yn aml oherwydd argaeledd yr ymgeisydd neu oedi wrth aros am eirdaon. Beth bynnag fo’r rheswm dros yr oedi, byddwn yn eich hysbysu’n rheolaidd.

Mae gofalu am blant a phobl ifanc yn ymrwymiad pwysig, felly mae angen i ni ddod i adnabod ein gilydd yn dda a bod yn siŵr ei fod yn addas i bawb yn eich cartref. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir, gwiriad meddygol gyda’ch meddyg teulu, asesiadau a hyfforddiant. Eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu fydd yn eich cefnogi a bydd gyda chi bob cam o’r ffordd.

Mae sawl cam yn y broses o gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth.

Cam 1: Cysylltwch â ni – drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ein gwefan

Cam 2: Bydd aelod o’r tîm yn trafod eich diddordeb â chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Os ydych am fwrw ymlaen, byddwn yn llenwi ffurflen cofrestru diddordeb gyda chi. Mae hyn yn golygu cael gwybodaeth sylfaenol amdanoch ac nid yw’n cymryd llawer o amser i’w llenwi.

Cam 3: Y cam nesaf yw ymweliad cartref cychwynnol. Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i’r cam nesaf hwn ac rydym yn fodlon eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd cychwynnol, byddwn yn trefnu i aelod o’r tîm ymweld â chi a’ch teulu yn eich cartref. Mae’r cam hwn yn ymwneud â dod i’ch adnabod yn well, gweld eich cartref, a chael golwg ar yr ystafell/ ystafelloedd gwely sydd ar gael ar gyfer y plentyn/plant maeth. Rydym yn gofyn hefyd i’r awdurdod lleol wneud gwiriadau.

Cam 4: Bydd yr aelod o staff a ymwelodd â chi’n cwblhau asesiad o’r ymweliad cartref. Yna bydd rheolwr yn cynnal asesiad sicrhau ansawdd cyn penderfynu a allwch symud ymlaen i’n hyfforddiant cyn cymeradwyo. Gelwir hyn yn ‘Sgiliau Maethu’ ac mae’n gwrs hyfforddiant tridiau. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu ar ôl yr ymweliad cartref nad ydych yn dymuno mynd ar drywydd maethu, yna does dim rhwymedigaeth i fynd ymhellach yn y broses.  

Cam 5: Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r hyfforddiant ‘Sgiliau Maethu’, bydd gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn dechrau llunio’ch asesiad Ffurflen F (mae hyn yn cynnwys sawl sesiwn gyda chi a’ch teulu, gwiriadau cefndir, asesiad meddyg gyda meddyg teulu, a geirdaon). Bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn trefnu i ymweld â chi a’ch teulu yn rheolaidd drwy gydol eich cyfnod asesu. Byddwch yn dod i adnabod eich gilydd yn dda a bydd yn llenwi’ch adroddiad asesu gyda chi. Gyda’ch gilydd, byddwch yn trafod pa fathau o faethu sy’n gweddu orau i’ch ffordd o fyw a’ch teulu, a’r plant a’r bobl ifanc y byddwch yn cael eich paru orau â nhw. 

Cam 6: Unwaith y bydd eich asesiad Ffurflen F wedi’i gwblhau, byddwch yn mynd i gyfarfod panel maethu i gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr amrywiol sy’n gofyn cwestiynau’n seiliedig ar eich asesiad Ffurflen F. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yno i’ch cefnogi. Bydd y Panel yn gwneud argymhelliad ynghylch a ddylid eich cymeradwyo ai peidio. Gwneir y penderfyniad terfynol gan Wneuthurwr Penderfyniadau’r Asiantaeth, fel arfer Pennaeth y Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae’r cadarnhad hwn fel arfer yn cymryd 1-2 wythnos.

Cam 7: Dod yn ofalwr maeth a chael eich paru â phlentyn/phlant.

oes rhaid i mi dalu i fod yn rhiant maeth?

Nid yw’n costio unrhyw beth i fod yn ofalwr maeth. Nid ydym yn codi unrhyw ffïoedd arnoch i wneud cais i fod yn rhiant maeth.

Rydym yn talu am eich gwiriadau gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ac rydym hefyd yn talu am asesiad meddygol y meddyg teulu, gan ei bod yn ofynnol i bob ymgeisydd ymgymryd ag un fel rhan o’i asesiad. Ar ôl i chi ddod yn rhiant maeth, rydym yn parhau i’ch cefnogi gyda chymorth 24/7 am ddim, hyfforddiant am ddim a mynediad at adnoddau eraill am ddim.

rwyf eisoes yn ofalwr maeth ar gyfer asiantaeth arall. ydw i’n gallu trosglwyddo i faethu cymru abertawe?

Mae gennych bob hawl i drosglwyddo i ni o asiantaeth faethu arall, neu hyd yn oed os ydych wedi cofrestru gydag awdurdod lleol. Byddwn yn helpu i wneud y trosglwyddiad mor hawdd â phosib. Bydd y broses ychydig yn wahanol gan ddibynnu a oes gennych blant maeth sy’n byw gyda chi ar hyn o bryd.

pa wiriadau cefndir a geirdaon sydd eu hangen arnaf i ddod yn rhiant maeth?

Pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ofalwr maeth, asesir pawb yn y teulu/ar yr aelwyd. Rydych chi’n maethu gyda’ch gilydd, fel teulu. Cyn i ni wneud unrhyw wiriadau cefndir arnoch chi a’ch teulu, bydd angen i ni gael eich caniatâd yn gyntaf.

Dyma’r gwiriadau a wnawn:

  • gwiriadau troseddol gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
  • gwiriadau meddygol gyda’ch meddyg teulu
  • gwiriadau cefndir gydag awdurdodau lleol
  • geirdaon cyflogwyr – cyflogwr presennol ac unrhyw/yr holl gyflogaeth, â thâl neu’n wirfoddol, lle’r ydych wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion sy’n agored i niwed
  • geirdaon personol x 4
  • geirdaon aelodau o’r teulu x 2
  • Gwiriadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chyfwerth os yw’r ymgeiswyr wedi byw mewn rhannau eraill o’r DU
  • Archwiliad iechyd a diogelwch o gartref yr ymgeisydd

beth mae ymweliad cartref cychwynnol yn ei olygu?

Ar ôl llenwi ffurflen cofrestru diddordeb, trefnir ymweliad cartref cychwynnol. Dyma lle bydd aelod o’r tîm maethu’n ymweld â chi a’ch teulu yn eich cartref. Bydd yn gofyn cwestiynau amrywiol i ddod i’ch adnabod yn well, a bydd hefyd yn gofyn i chi ddangos eich cartref iddo, yn enwedig yr ystafell/ystafelloedd sydd ar gael ar gyfer maethu.

pa hyfforddiant y mae’n rhaid i mi ei gwblhau cyn dod yn ofalwr maeth?

Cyn i chi gael gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu, mae’n ofynnol i chi gymryd rhan mewn cwrs tridiau o’r enw ‘Sgiliau Maethu’. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘hyfforddiant cyn cymeradwyo’. Mae’r cwrs yn orfodol ac mae am ddim. Mae’r hyfforddiant ‘Sgiliau Maethu’ yn gyfle gwych i ddarganfod a yw maethu’n addas i chi, ai dyma’r amser cywir, ac mae’n rhoi cipolwg gwych i chi ar faethu a rôl gofalwr maeth. Os byddwch yn mynd i’r hyfforddiant ac yn penderfynu nad ydych am faethu mwyach, yna does dim rhwymedigaeth i fynd ymhellach. 

beth yw ffurflen f?

Yn syml, dyma’r asesiad a gwblhawyd gan eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer maethu. Mae’r ddogfen Ffurflen F yn offeryn asesu generig y mae’n rhaid i bob gwasanaeth maethu gadw ato.

Ar ôl cwblhau hyfforddiant cyn cymeradwyo, y cam nesaf o ddod yn ofalwr maeth yw’r asesiad Ffurflen F. Dyma lle bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu yn gweithio gyda chi i lunio’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer eich asesiad a’ch cymeradwyaeth. Mae’n crynhoi eich addasrwydd ac yn manylu ar eich sgiliau a’ch profiadau.

beth sy’n digwydd mewn cyfweliad panel maethu?

Unwaith y bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu wedi casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno ar gyfer eich asesiad, caiff eich Ffurflen F a’ch gwiriadau cefndir eu trosglwyddo i banel maethu. Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o faes maethu, addysg a gofal. Cewch eich gwahodd i fynd i’r cyfarfod lle bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu wrth eich ochr i gynnig cymorth drwy gydol y broses. Bydd aelodau’r panel yn gofyn rhai cwestiynau i chi yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir yn yr asesiad. Bydd yr atebion a roddwch yn helpu’r panel i benderfynu a ddylid eich cymeradwyo fel gofalwr maeth ai peidio. Peidiwch â phoeni, nid yw’r panel maethu mor frawychus ag y mae’n swnio.

beth sy’n digwydd ar ôl i mi gael fy nghymeradwyo fel gofalwr maeth?

Y gwirionedd yw ei bod yn debygol na fydd yn rhy hir cyn i rywun gysylltu â chi ynghylch plentyn, person ifanc neu grŵp o siblingiaid. Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, byddwch yn cael gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol penodedig sydd yno i’ch cefnogi chi a’ch teulu. Os oes angen lleoliad maeth ar blentyn, a bod eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn credu eich bod yn addas, bydd yn cysylltu â chi i fynd drwy’r holl wybodaeth sydd gennym am y plentyn. Os ydych yn penderfynu bod y plentyn yn addas ar eich cyfer, bydd eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn rhoi eich enw i’r swyddog canfod lleoliad a gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae’r ymarfer paru yn edrych ar anghenion y plentyn a sgiliau, gwybodaeth a deinameg teulu’r gofalwr. Os penderfynir mai chi sydd fwyaf addas i’r plentyn, yna cewch eich paru’n swyddogol ag e’.

Lle bo’n bosib, mae’n dda i chi a’r plentyn gyfarfod cyn iddo ddod i fyw gyda chi. Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd lle nad yw hyn yn bosib, er enghraifft, os oes angen lleoliad brys.

Efallai eich bod yn teimlo’n nerfus iawn y tro cyntaf y daw plentyn i fyw gyda chi, ond mae hyn yn normal iawn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a’r tîm maethu’n eich cefnogi drwyddo ac yn gwneud popeth yn eu gallu i’ch helpu.

cysylltu â ni

Os gallwch agor eich drws i blentyn neu berson ifanc lleol a chynnig cartref diogel a chariadus  iddo, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiad.

Story Time

Stories From Our Carers