helpu ysgolion abertawe i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol

ysgol sy'n hyrwyddo maethu cymru

Mae tua 7,000 o blant mewn gofal ledled Cymru, ac mae angen tua 800 o aelwydydd maeth ychwanegol ar frys. Mae ysgolion yn chwarae rôl hanfodol wrth gynyddu ymwybyddiaeth o faethu, cefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, a helpu cymunedau i ddeall effaith sylweddol maethu yn yr awdurdod lleol.

Dyna pam mae Maethu Cymru Abertawe’n gwahodd ysgolion ledled y ddinas i ddod yn Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru – menter newydd sydd wedi’i chynllunio i gydnabod ysgolion sy’n cefnogi plant â phrofiad o ofal yn weithredol, sy’n hyrwyddo maethu ac yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy cynhwysol.

Drwy ddod yn Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu, gall eich ysgol helpu i sicrhau bod mwy o blant lleol yn cael y cyfle i gadw mewn cysylltiad â’u hysgolion, eu ffrindiau a’u cymunedau pan fydd angen gofal maeth arnynt.

Beth yw Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru?

Mae’r rhaglen Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru yn cydnabod ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i wneud y canlynol:

  • Cefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o faethu yng nghymuned yr ysgol
  • Hyrwyddo maethu yn yr awdurdod lleol
  • Creu amgylchedd cynhwysol lle gall pob plentyn ffynnu
  • Cefnogi gofalwyr maeth a gweithleoedd sy’n gyfeillgar i faethu.

lefel dyfarniad

Gall ysgolion weithio tuag at un o dair lefel dyfarniad:

dyfarniad efydd – lefel sylfaen

Ymwybyddiaeth o faethu – ymrwymiad cychwynnol/sylfaenol

  • Cefnogi gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol drwy rannu pedwar post drwy eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
  • Arddangos deunydd marchnata yn yr ysgol ac ar-lein – arddangos baneri, posteri neu daflenni yn y dderbynfa, rhoi dolenni Maethu Cymru ar wefan yr ysgol.
  • Staff yn darllen llyfrynnau gwybodaeth Maethu Cymru – i gynyddu dealltwriaeth o faethu, dileu elw a sut i gefnogi cydweithwyr sy’n gweithio ac yn maethu.
  • Yr ysgol yn penodi person dynodedig ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n gweithredu fel person allweddol i ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol.
  • Mae gan bob plentyn a pherson ifanc â phrofiad o ofal berson allweddol yn yr ysgol y gallant fynd ato i gael cefnogaeth.
  • Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn un digwyddiad i gynyddu ymwybyddiaeth o faethu bob blwyddyn (fel Pythefnos Gofal Maeth).
  • Mae Cynlluniau Addysg Personol yn cael eu llunio drwy gasglu barn gan yr holl bobl allweddol, gan gynnwys y plentyn a’r gofalwyr maeth.

dyfarniad arian – lefel datblygu

Cefnogaeth ac ymgysylltiad gweithredol

Mae’n cynnwys holl feini prawf gwobr efydd, yn ogystal â’r canlynol:

  • Mae staff yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi a gyflwynir gan y gwasanaeth maethu a gofalwyr maeth.
  • Cynnwys maethu yn y cwricwlwm neu mewn gwasanaethau i hyrwyddo dealltwriaeth (e.e. menter teulu maeth o eirth).
  • Mae’r ysgol yn cynnal dau ddigwyddiad sy’n gysylltiedig â maethu bob blwyddyn (e.e. sesiynau gwybodaeth).
  • Cynlluniau strategol i wneud y mwyaf o bresenoldeb ac ymgysylltu â dysgu a lleihau’r angen am amserlenni byrrach a gwaharddiadau ysgol.
  • Dangos sut maen nhw’n defnyddio cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion–Plant sy’n Derbyn Gofal yn strategol i gefnogi anghenion a dyheadau unigol.

dyfarniad aur – lefel rhagoriaeth

Arweinyddiaeth ac Eiriolaeth

Mae’n cynnwys holl feini prawf gwobr efydd ac arian, yn ogystal â’r canlynol:

  • Mae gan yr ysgol bolisïau a chynlluniau ar waith i gefnogi aelodau staff sy’n maethu.
  • Bob blwyddyn, mae’r ysgol yn ceisio derbyn adborth gan blant â phrofiad o ofal, eu gofalwyr maeth a’u gweithwyr cymdeithasol, a gall ddangos tystiolaeth o sut maen nhw’n gweithredu newidiadau o ganlyniad i’r adborth a dderbynnir.
  • Gall yr ysgol ddangos tystiolaeth o’r effaith (e.e. deilliannau gwell i blant maeth, adborth cadarnhaol gan ofalwyr maeth).
  • Mae gan yr ysgol gynrychiolydd sy’n ddisgybl ar gyfer maethu sy’n cyd-fynd â phroses Llais y Disgybl (e.e. pwyllgor maethu neu gynrychiolydd maethu ar gyngor yr ysgol).

Dathlu llwyddiant: Ysgol Gynradd Sgeti

🌟Maethu Cymru Abertawe’n cyflwyno dyfarniad am y tro cyntaf! 🌟

Ysgol Gynradd Sgeti yw’r ysgol gyntaf yn Abertawe i ennill dyfarniad efydd Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru.

Mae ymrwymiad yr ysgol i gynhwysiant, lles a sicrhau bod pob plentyn yn teimlo fel ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i fod yn gallu ffynnu yn golygu bod yr ysgol yn haeddu’r dyfarniad hwn.

Drwy fentrau fel Think Equal a No Outsiders, ochr yn ochr â mannau meithringar, cymorth lles a chyfleoedd Llais y Disgybl, mae’r ysgol wedi arddangos sut mae plant yn parhau i fod wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.

Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Sgeti ar y cyflawniad gwych hwn.

ysgolion sy'n hyrwyddo

Mae'r ysgolion canlynol yn Abertawe wedi llwyddo i ddod yn Ysgolion sy'n Hyrwyddo Maethu Cymru, gan gefnogi ein hangen i ddod o hyd i fwy o ofalwyr maeth yn Abertawe.

ysgol gynradd sgeti

Mae Ysgol Gynradd Sgeti wedi ennill dyfarniad efydd.

Allai eich ysgol chi fod yr un nesaf i gael dyfarniad Ysgolion sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru?

Hoffem glywed gan ysgolion o bob rhan o Abertawe sydd wedi ymrwymo i greu amgylcheddau cynhwysol, cefnogol lle gall pob plentyn ffynnu.

Cymerwch ran

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Ysgol sy’n Hyrwyddo Maethu Cymru, cysylltwch â:

Jessica Jones, Swyddog Cadw, Maethu Cymru Abertawe
E-bost: [email protected]

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod mwy o blant lleol yn cael y cyfle i aros yn lleol, cadw mewn cysylltiad, a ffynnu.