ffyrdd i maethu
eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Yna rydych wedi dewis gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad mawr i’w wneud ond mae dewis yr asiantaeth faethu iawn yr un mor bwysig.
felly pam dewis maethu cymru abertawe?
Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Pam? Am eu bod o bwys. Rydym yn cefnogi ac yn grymuso ein gofalwyr maeth fel y gallant adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant lleol.
aros yn lleol
Rydym yn sefydliad nid er elw sy’n gyfrifol am leoli plant Abertawe gyda gofalwyr maeth lleol. Mae maethu gyda ni yn sicrhau y bydd plant o Abertawe’n byw gyda chi.
Gall maethu gydag asiantaethau maethu annibynnol olygu cael plant wedi’u lleoli gyda chi sy’n dod o’r tu allan i’r sir, gan arwain at lawer o gludo yn ôl ac ymlaen i’r ysgol a chyswllt â theulu.
cefnogaeth
Mae gofalwyr maeth sy’n gweithio gyda Maethu Cymru Abertawe yn ein helpu i ddeall yn well yr hyn y mae ei angen ar ein plant.
Yn ogystal, byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall yr hyn y mae ei angen arnoch fel gofalwr maeth i fod y gorau y gallwch fod yn eich rôl. Mae’n ein galluogi i wreiddio rhwydweithiau cefnogi lleol ac annog cysylltiadau cadarnhaol ag ardal leol plentyn, yn well, gan gynnwys ei addysg ac amser gyda’r teulu geni a ffrindiau. Bydd ddarparu’r hyn sydd ei angen arnoch i gefnogi’r plentyn yn y ffordd orau posib yn golygu dyfodol gwell i bawb sy’n rhan o hyn.
Drwy weithio’n uniongyrchol gyda ni – y bobl sy’n gyfrifol am y plant rydych yn gofalu amdanyn nhw – byddwn yn fwy gwybodus ac yn sicrhau y byddwch yn cael y cyngor, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnoch i wneud hyn. Rydym yn gwerthfawrogi ein gofalwyr.

manteision maethu yn abertawe
Gan ein bod yn gyfrifol am leoli plant Abertawe gyda gofalwyr maeth, cysylltir yn gyntaf â’n gofalwyr mewnol pryd bynnag y mae angen lleoli plentyn. Dim ond pan na allwn ddod o hyd i leoliad addas gyda’n carfan o ofalwyr maeth y byddwn yn cysylltu ag asiantaethau maethu annibynnol i weld a oes ganddynt ofalwyr maeth addas.
Yn ffodus, gallwn leoli dros 80% o blant y mae angen lleoliad maethu arnynt gyda’n gofalwyr maeth mewnol.
Rydym yn adnabod ein gofalwyr maeth mewnol yn dda iawn, o ran eu sgiliau, eu cryfderau a’u profiad. Mae hyn yn golygu y gallwn gael y cydweddiad iawn ar gyfer y plentyn a’r gofalwyr maeth.
Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi’r plant yng nghanol popeth rydym yn ei wneud a dyna pam rydym yn cymryd ymagwedd gyfannol at eu hanghenion drwy weithio fel tîm o gwmpas y plentyn. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol y plant; mae’n helpu i greu gwell canlyniadau i’r plant.

Yr hyn rydym yn ei gynnig ym maethu cymru abertawe
Gwyddwn pa mor bwysig yw sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn cael y gefnogaeth gywir a dyna pam rydym yn ehangu ac yn gwella’n cynnig yn gyson.
- Mae dod o hyd i’r cydweddiad cywir, ar gyfer y plentyn a’r gofalwyr maeth, yn hynod bwysig i ni
- Bydd gweithiwr cymorth yn cael ei glustnodi ar eich cyfer
- Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r gweithwyr cymdeithasol ar gyfer y plant oherwydd ein bod ni’n gweithio yn yr adran, yn yr un adeilad
- Rydym yn darparu cefnogaeth 24/7 fel na fyddwch byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun
- Rydym yn darparu lwfansau ariannol cystadleuol – rydym yn rhoi mwy o dâl i’n gofalwyr maeth na’r rhan fwyaf o asiantaethau
- Os oes gennych blentyn/blant mewn lleoliad ac rydych yn cael eich talu mwy gyda’ch asiantaeth nag y byddech gyda ni, byddwn yn talu’r hyn sy’n cyfateb i daliad yr asiantaeth (nes bod y plentyn/plant yn gadael)
- Tâl cadw – sy’n cael ei adolygu ar ôl 3 mis
- Cynllun cyfeillion – dydych chi byth ar eich pen eich hun
- Rhaglen Dysgu Therapiwtig i ofalwyr (Arfer Datblygiadol Dyadig)
- Mae gennym fynediad at wasanaeth therapi mewnol
- Gofalwr maeth yn y tîm i’n helpu i ehangu ar lefelau cefnogaeth
- Rydym yn darparu gweithgareddau/digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer yr aelwyd maethu cyfan
- Grwpiau cefnogi ar gyfer yr holl aelwyd sy’n maethu
- Pasbort i Hamdden (gostyngiadau mewn lleoliadau diwylliannol a hamdden ar draws Abertawe)
- Amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu hyblyg
- Gallwch ennill hyd at £500 ar gyfer pob person rydych yn ei argymell
Gallwch gael gwybod mwy am y gwobrau a’r gefnogaeth rydym yn eu cynnig yma.

"Dydyn ni erioed wedi difaru am drosglwyddo i'r awdurdod lleol a byddem yn annog holl ofalwyr maeth yr asiantaethau maethu annibynnol lleol i feddwl am ymuno â ni."
Paul & Sharron, Gofalwyr Maeth

sut i drosglwyddo i ni
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni yn Maethu Cymru Abertawe
Efallai eich bod yn awyddus i drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe ond ar yr un pryd gall fod yr holl broses yn codi ofn arnoch. Peidiwch ag ofni, mae trosglwyddo i ni yn dechrau gyda sgwrs heb bwysau fel y gallwn egluro’r broses drosglwyddo i chi a sut bydd yn gweithio i chi. Byddwn yn blaenoriaethu’ch asesiad fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael eich cymeradwyo cyn gynted â phosib.