stori

wayne & kay

P’un a oes gennych blant sydd wedi tyfu i fyny, sy’n dal i fod yn yr ysgol, neu nad oes gennych eich plant eich hunain, mae gwahanol ffyrdd o faethu a fydd yn gweddu i bob amgylchiad a ffordd o fyw.

Dechreuodd Wayne a Kay faethu bedair blynedd yn ôl. Dechreuodd ddiddordeb Kay mewn maethu rai blynyddoedd yn ôl gan fod ffrind agos iddi wedi’i magu mewn gofal maeth. Roedd Wayne wedi gweithio fel gyrrwr tacsis ers blynyddoedd lawer ac roedd am roi cynnig ar yrfa a ffordd o fyw newydd.

“Roedd ein plant wedi tyfu i fyny ac roedd gennym ddigon o le”

Meddai Wayne, “Bu Kay a fi’n trafod maethu bob yn ail â pheidio am flwyddyn. Gan fod ein plant ein hunain wedi tyfu i fyny a gadael gartref, ac oherwydd roedd gennym ddigon o le, penderfynon ni mai nawr oedd yr adeg gywir i ddechrau ar her newydd a helpu plentyn mewn angen.”

“Penderfynais roi’r gorau i fy swydd fel gyrrwr tacsi a chymryd rôl y prif ofalwr, ac roedd hynny wedi galluogi Kay i gadw’i swydd amser llawn. Gwyddem o’r cychwyn cyntaf y byddai’n well gennym ofalu am blant hŷn. Mae’n cyd-fynd â’n ffordd o fyw’n well gan fod plant hŷn yn fwy annibynnol. “

Mae cael rhwydwaith cefnogaeth da o’ch cwmpas yn hollbwysig pan rydych chi’n maethu, ac mae hyn yn rhywbeth y mae Wayne yn rhoi pwyslais mawr arno.

“Mae cefnogaeth dda’n hanfodol”

Meddai, “Cyn i chi ystyried maethu, byddwn yn argymell eich bod yn siarad â’ch teulu ehangach a’ch ffrindiau i weld a allan nhw fod yn rhan o’ch rhwydwaith cefnogaeth – mae cael pobl o’ch cwmpas yn amhrisiadwy pan fyddwch yn profi anawsterau.” Mae cael cefnogaeth dda gan Maethu Cymru Abertawe’n hanfodol hefyd. Maen nhw’n darparu cyngor pan fo angen, ac mae eu cefnogaeth yn eich helpu i gadw ffocws, yn enwedig drwy amserau anodd.  

Fodd bynnag, fel y dywed pob gofalwr maeth, er nad yw maethu bob amser yn hawdd, mae llawer o fuddion iddo.

“Mae llawer o fuddion i fod yn ofalwr maeth”

Meddai Wayne, “Nid yw bod yn ofalwr maeth bob amser yn syml, ac efallai na fyddwch yn gweld y buddion ar gyfer y plant yn syth, na phan maen nhw yn eich gofal, ond bydd yr effaith tymor hir ar eu bywydau’n amlwg iddyn nhw yn y dyfodol.  

“Mae gweld plentyn yn gwenu am y tro cyntaf ac yn mwynhau pethau syml fel bwyd cartref yn wych. Un o’r pethau mwyaf gwerth chweil i fi a Kay oedd gweld y bobl ifanc yn ein gofal yn gwella yn yr ysgol, ac yn cyflawni nodau nad oeddent yn meddwl eu bod yn bosib. “

Ai dyma’r amser iawn i chi faethu? Ydych chi’n poeni sut y bydd yn effeithio ar eich plant eich hunain? Os ydych, gweler ein blog ar faethu pan fod gennych eich plant eich hunain.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu, mae’n debygol y bydd gennych lawer o gwestiynau ynghylch y broses, y rôl o fod yn ofalwr maeth, y gefnogaeth a ddarperir, eich addasrwydd i fod yn ofalwr maeth, a llawer mwy. Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol heb bwysau.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.