cwestiwn cyffredin

sut mae dod yn ofalwr maeth?

sut mae dod yn ofalwr maeth?

Mae’r cyfan yn dechrau gyda hyn. Neges. E-bost. Galwad ffôn. 

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Dydyn ni ddim yn sefydliad pell i ffwrdd heb ddealltwriaeth o’ch byd. Rydyn ni’n griw o arbenigwyr ymroddedig o’ch cymuned chi. Felly, os ydych chi’n gofyn sut mae dod yn ofalwr maeth, mae’r ateb yn syml. Cysylltwch â ni a byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd.

y camau nesaf

Pan fyddwch chi wedi cymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, byddwn yn eich tywys drwy weddill y broses. Ar y dechrau, mae’n ymwneud â dod i’ch adnabod chi.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Os ydych chi’n bwriadu gofyn am becyn gwybodaeth, gofyn cwestiwn neu gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth, rydyn ni yma i helpu. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi.